Neidio i'r prif gynnwy

Encorafenib and cetuximab

Taflen wybodaeth ar Encorafenib a Cetuximab

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth o'r enw Encorafenib a CetuximabBydd yn egluro beth yw’r driniaeth a phryd a sut y caiff ei rhoi.  Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgil-effeithiau cyffredin y gallech eu profi.  Rhoddir rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y daflen.

 

Mae eich 'tîm arbenigol' yn cyfeirio at eich tîm oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre sy'n cynnwys meddygon, nyrsys arbenigol a phresgripsiynwyr annibynnol anfeddygol a all fod yn nyrs neu'n fferyllydd.

 

Beth yw Encorafenib a Cetuximab

Mae Encorafenib a Cetuximab yn driniaeth sy'n cynnwys cyfuniad o gyffuriau sy'n gweithio mewn gwahanol ffyrdd i drin eich canser.

 

  •  Mae Encorafenib yn dabled a roddir drwy'r geg. Mae hwn yn wrthgorff artiffisial sy'n glynu wrth gelloedd canser ac yn eu hatal rhag tyfu. Nid cemotherapi mohono.

 

  • Cetuximab Gwrthgorff artiffisial yw hwn sy'n glynu wrth gelloedd canser ac yn eu hatal rhag tyfu.  Mae hefyd yn helpu eich system imiwnedd eich hun i ladd y celloedd canser.  Nid cemotherapi mohono.  Mae'n cael ei roi trwy ddiferydd, i mewn i wythïen yn eich llaw neu’ch braich.

 

 

Pam ydw i'n cael y driniaeth hon?

Mae eich tîm wedi rhagnodi'r driniaeth hon oherwydd canfuwyd ei bod yn effeithiol wrth drin eich math o ganser.


Pa mor aml y byddaf yn cael y driniaeth hon? 

Er mwyn i'r driniaeth gael yr effaith fwyaf, fe'i rhoddir ar gyfnodau amser penodol.  Gelwir y rhain yn gylchoedd.  Mae'n arferol cael cylch o driniaeth bob pythefnos. Bydd eich tîm yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu derbyn.

 

Sut bydd fy nhriniaeth cemotherapi yn cael ei rhoi?

Rhoddir y cetuximab drwy ddiferydd i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich.  Fel arall, efallai yr awgrymir gosod tiwb mân o'r enw PICC i mewn i wythïen fawr yn rhan uchaf eich braich.  Gall y llinell hon aros yn ei lle am eich triniaeth gyfan.  Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn esbonio hyn yn fanylach. 

 

Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am linellau PICC.  Gofynnwch os hoffech chi gael copi.

 

Sut mae cymryd yr Encorafenib?

Cymerir Encorafenib unwaith y dydd. 

Mae'n cael ei lyncu'n gyfan â dŵr.

Gellir ei gymryd gyda bwyd neu hebddo.

Mae'n bwysig nad yw'r tabledi yn cael eu malu na'u toddi.

Dylech osgoi sudd grawnffrwyth.  Os ydych chi'n cymryd meddyginiaethau eraill, dywedwch wrth eich tîm oncoleg, gan fod rhai meddyginiaethau'n ymyrryd ag encorafenib.

 

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn methu dos?

Os ydych wedi methu dos. Peidiwch â phoeni.  Cysylltwch â'r llinell gymorth triniaeth am gyngor.  Gellir cymryd y dos a gollwyd os yw'n llai na 12 awr nes y dylech chi gymryd y dos nesaf.  Peidiwch â chymryd dos dwbl y tro nesaf. 

 

Beth os byddaf yn chwydu ar ôl cymryd yr encorafenib?

Os ydych chi'n chwydu ar ôl cymryd y dos, peidiwch â chymryd dos ychwanegol.  Cymerwch y dos nesaf ar yr amser a drefnwyd. Cysylltwch â'r llinell gymorth driniaeth am gyngor.

 

 

Pa mor aml y byddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn cael eich adolygu gan eich tîm arbenigol cyn pob cylch.  Byddwch naill ai'n gweld eich tîm arbenigol mewn clinig neu byddwch yn siarad â nhw'n rhithwir.

Bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y byddant yn eich gweld.  Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gofyn sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau sydd gennych.  Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut mae'r driniaeth yn effeithio arnoch chi.  Mae'r apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich triniaeth fel arfer.

 

 

Apwyntiad Cetuximab – Dylech ganiatáu tua 4-5 awr ar gyfer yr ymweliad hwn ag un o’r mannau trin achosion dydd.  Rhoddir yr encorafenib i chi yn yr apwyntiad hwn a byddwch yn mynd â nhw adref. 

 

A allaf ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi?

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn gyfyngedig, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer.  Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc.

 

Beth yw'r sgil-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgil-effeithiau posibl a all ddigwydd gyda'r driniaeth hon.  Gall y meddygon, nyrsys a fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Salwch

Mae cyfog a chwydu yn anghyffredin y dyddiau hyn, gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrth-salwch i chi sydd fel arfer yn hynod effeithiol.  Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr er eich bod yn cymryd meddyginiaeth gwrth-salwch yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â’r llinell gymorth driniaeth am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Dolur rhydd

Efallai y bydd gennych ddolur rhydd.  Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bwysig eich bod yn yfed digon o hylifau.  Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd.  Os byddwch yn cael 4 neu fwy o symudiadau’r coluddyn mewn 24 awr yn ychwanegol at yr hyn sy'n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 11.

 

Blinder a lludded

Gall y driniaeth hon wneud i chi deimlo'n fwy blinedig nag arfer.  Mae'n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os oes angen, ond cyflawnwch eich gweithgareddau arferol os ydych yn teimlo'n abl i wneud hynny.  Mae rhai pobl yn ei chael yn fuddiol gwneud ymarfer corff ysgafn yn ogystal â gorffwys.

 

 

 

Adweithiau’r croen

Mae'r rhan fwyaf o bobl (mwy nag 80%) yn profi adwaith ar y croen gyda cetuximab.  Mae hon fel arfer yn frech o fath acne a all fod yn sych ac yn cosi ac achosi anghysur ysgafn.  I nifer fach o bobl, gall yr adwaith hwn fod yn fwy difrifol.  Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o'ch corff, gallai fod yn boenus a gallai gael ei heintio.

 

Er mwyn lleihau'r posibilrwydd o adwaith difrifol ar y croen, rydym yn awgrymu’r canlynol:

 

  • dylid defnyddio eli lleithio heb bersawr ar eich wyneb a rhan uchaf eich corff o ddechrau eich triniaeth.  Rhowch yr eli ar eich corff i'r un cyfeiriad â thwf y gwallt.
  • peidiwch ag eillio’n wlyb, defnyddiwch raser drydan.
  • dylid osgoi dod i gysylltiad â'r haul; gwisgwch het a defnyddio eli haul ffactor uchel.
  • peidiwch â defnyddio dŵr poeth ar eich croen.
  • peidiwch â defnyddio sebon os yw'ch croen yn sych - defnyddiwch rywbeth arall yn lle sebon, fel hufen dyfrllyd, neu hylif meddalu bath fel oilatum.
  • Defnyddiwch siampŵ ysgafn, fel siampŵ Simple.  Peidiwch â defnyddio siampŵ babi.
  • ceisiwch beidio â rhwbio'ch croen yn egnïol - dylid ei sychu’n ysgafn
  • ceisiwch wisgo menig wrth olchi llestri.
  • gwisgwch ddillad cyfforddus ac esgidiau nad ydynt yn rhwbio

 

Gall eich meddyg ysbyty ragnodi tabledi gwrthfiotig i helpu i leihau difrifoldeb y frech ar eich croen.   

 

Os bydd y smotiau'n mynd yn goch ac yn llidiog, efallai y bydd eich meddyg yn rhoi eli steroid ac eli gwrthfiotig i chi i'w rhoi ar yr ardal.  Os bydd y smotiau'n dechrau edrych yn heintiedig, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.

 

Mae’r adwaith hwn ar y croen yn un dros dro, a bydd yn gwella'n llwyr ar ôl i chi orffen y driniaeth.  Os byddwch yn datblygu adwaith difrifol ar y croen sy'n achosi poen i chi neu'n eich atal rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

 

Dolur i'ch dwylo a'ch traed

Efallai y byddwch yn profi poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu'ch traed.  Os bydd hyn yn digwydd, rydym yn argymell defnyddio hufen neu eli heb bersawr yn rheolaidd.  Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu'ch traed yn mynd yn boenus.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Niwed i'r Nerfau

Efallai bod gennych chi binnau bach a diffyg teimlad yn eich dwylo a'ch traed.  Yn aml, rhywbeth dros dro yw hyn, a gall wella ar ôl i'ch triniaeth ddod i ben.

 

Adweithiau math alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn profi adwaith o fath alergaidd.  Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo'n boeth neu'n wridog, yn cosi, yn benysgafn neu'n sâl yn gyffredinol wrth dderbyn eich cetuximab. Gellir trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau isod.

 

  • poeth a gwridog
  • cosi
  • penysgafn
  • yn sâl yn gyffredinol 
  • yn fyr eich gwynt 

 

Gellir trin hyn yn hawdd.  Dywedwch wrth eich nyrs os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau hyn.

 

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Gall rhai cleifion brofi myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu'r cymalau.  Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau, ond dim ond am ychydig ddyddiau y bydd yn para.  Os oes gennych boenladdwyr gartref eisoes, efallai y byddwch chi'n canfod eu bod yn lleddfu'r boen.  Os nad yw hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.  Mae'r rhifau ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Colli gwallt

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn colli eu gwallt gyda'r driniaeth hon. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn profi peth teneuo gwallt.

 

Mae gennym daflen sy'n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli’ch gwallt.  Gofynnwch i'ch nyrs os hoffech gael copi.

 

Llai o gelloedd gwaed coch (Anemia)

Gall Encorafenib ostwng eich celloedd gwaed coch.  Byddwn yn gwirio eich cyfrif gwaed yn rheolaidd.  Os ydych yn anemig, byddwn yn trafod triniaethau posibl fel trallwysiad gwaed.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, trafodwch hyn gyda'ch tîm.

 

Sgil-effeithiau eraill

 

Efallai y byddwch yn cael cur pen tra byddwch ar y driniaeth hon.  Ceisiwch gymryd pa boenladdwyr bynnag y byddech fel arfer yn eu cymryd.  Os nad yw'r rhain yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu'ch Meddyg Teulu am gyngor.

 

Yn anaml iawn, gall encorafenib achosi math o ganser y croen y gellir ei dynnu gyda llawdriniaeth.  Efallai y byddwch yn gallu parhau i gymryd yr encorafenib hyd yn oed os bydd hyn yn digwydd.

 

Weithiau mae merched yn gweld bod triniaeth cemotherapi yn effeithio ar eu mislif.  Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed yn peidio'n gyfan gwbl. 

 

Mae'n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn tadogi plentyn tra byddwch yn cael y driniaeth hon, neu am o leiaf 1 mis ar ôl y driniaeth, gan y gallai niweidio'r babi heb ei eni. 

Ni chynghorir bwydo ar y fron yn ystod cemotherapi, gan y gallai'r cyffuriau gael eu trosglwyddo i fabi trwy laeth y fron.

 

Yn anaml, gall pobl sy'n cael y driniaeth hon brofi diffyg anadl.  Mae hyn yn fwy tebygol os oes gennych chi broblem ysgyfaint yn barod.  Os hoffech drafod hyn ymhellach, siaradwch â'ch meddyg.

 

 

Weithiau gall cyffuriau canser gael sgil-effeithiau difrifol iawn sy'n gallu peryglu bywyd mewn achosion prin. Mae'n bwysig rhoi gwybod i Ganolfan Ganser Felindre os ydych yn pryderu am unrhyw sgil-effeithiau.

 

Taflenni gwybodaeth gwneuthurwyr i gleifion

Mae taflenni Felindre yn darparu gwybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin a chyffredin iawn: am ragor o wybodaeth am y sgil-effeithiau llai cyffredin, cyfeiriwch at daflenni gwybodaeth y gwneuthurwyr i gleifion, a geir o fferyllfa Felindre a/neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk. Weithiau, bydd cleifion yn ei chael hi’n anodd darllen y taflenni hyn. Gofynnwch os hoffech gael copi gan eich meddyg neu gan fferyllfa Felindre

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre             029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth driniaeth os ydych yn sâl gartref ac mae angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Er enghraifft, dylech ffonio os:

  • Ydych yn chwydu fwy nag unwaith mewn 24 awr
  • Oes gennych ddwylo neu draed poenus iawn
  • Ydych yn cael adwaith poenus ar y croen
  • Oes gennych ddolur rhydd

 

 

Adran fferylliaeth             029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

 

 

Rhadffôn Tenovus                  0808 808 1010

llinell gymorth canser

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.  Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd.

 

 

 

 

Wedi'i pharatoi Hydref 2020