Neidio i'r prif gynnwy

ECX 277

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw ECX. Bydd yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am ECX ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi ECX?

Mae cemotherapi ECX yn cynnwys tri chyffur:

E = Epirubicin

C = Cisplatin

X = Capecitabine (sydd hefyd yn gyfarwydd fel Xeloda)

Pam ydw i’n cael cemotherapi ECX?

Mae’ch meddyg wedi argymell cemotherapi ECX gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi? 

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn gyfarwydd fel cylchoedd. Mae’n arferol cael ECX bob tair wythnos am rhwng chwech ac wyth cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Caiff yr epirubicin a’r cisplatin eu rhoi trwy ddrip unwaith bob tair wythnos. Caiff y tabledi capecitabine eu cymryd ddwywaith y dydd drwy gydol y driniaeth fel tabledi.

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Er mwyn cael cemotherapi ECX, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos:

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwn yn cymryd samplau gwaed a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi i chi. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio tua saith awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi, hylifau ac yna eich cemotherapi cisplatin ac epirubicin.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylech gymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd, yn y bore ar ôl eich brecwast a chyda’r nos ar ôl eich swper. Dylech eu cymryd o fewn 30 munud i orffen eich pryd o fwyd. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu. Mae’n bwysig golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi.

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Mae hyn yn amrywio i bob un. Mae tabledi o ddau gryfder gwahanol ar gael. 500mg yw’r tabledi mwy o faint a 150mg yw’r tabledi llai o faint. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gymryd cyfuniad o dabledi mawr a bach. Bydd y nifer y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch er mwyn gweld faint o dabledi y bydd angen i chi eu cymryd.

Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi? 

  • Os yw o fewn dwy awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd ar unwaith.
  • Os yw’n hwyrach na dwy awr, dylech fethu’r ddos honno.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol os dylai eich triniaeth fod wedi dod i ben. Mae’n bwysig, hyd yn oed os ydych wedi methu unrhyw ddosiau, eich bod yn gorffen y driniaeth ar yr adeg a gynlluniwyd.

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi? 

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 9. 

Sut dylwn gadw fy nhabledi capecitabine? 

Yn eu pecynnau gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i adran fferyllol yr ysbyty neu’ch siop fferyllydd leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Yn anffodus, bydd cemotherapi ECX yn achosi i chi golli eich gwallt yn gyfan gwbl. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Mae modd defnyddio dull o’r enw ‘oeri croen y pen’ neu ‘gapio oer’ er mwyn atal colli gwallt. Gallwn drefnu wig os hoffech un. Os hoffech ragor o wybodaeth am wigiau neu oeri croen y pen, siaradwch â’ch nyrs.

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith am gyngor os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 9.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi ei chymryd os byddwch yn cael dolur rhydd.

Dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • byddwch yn deffro yn ystod y nos gyda dolur rhydd.

Dylech gysylltu â ni hefyd os bydd gennych unrhyw broblemau gyda dolur rhydd neu gynnydd yn nifer y troeon y byddwch yn agor eich perfedd sy’n para’n fwy na thridiau.

Blinder a lludded 

Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Os bydd eich ceg yn ddolurus iawn neu os byddwch yn ei chael yn anodd bwyta ac yfed, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a chyslltu â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus.

Problemau ar y galon

Yn bur anaml, mae rhai pobl sy’n cael cemotherapi capecitabine yn cael problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu’ch bod yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at eich calon, dywedwch wrth eich meddyg cyn dechrau cemotherapi. 

Os oes gennych unrhyw boen yn eich brest, dylech roi’r gorau i gymryd eich tabledi capecitabine a gofyn am sylw meddygol brys. Peidiwch â chymryd eich capecitabine eto hyd nes byddwch wedi siarad â’r tîm yn Felindre.

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Byddwn y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn eich cemotherapi’n gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau eich triniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Bydd epirubicin yn afliwio eich wrin yn goch yn gwbl ddiniwed am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi. Os bydd hyn yn para’n fwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at ddiffyg teimlad neu newidiadau o ran synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth eich meddyg neu’ch radiograffydd os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin effeithio hefyd ar y nerfau sy’n gyfrifol am eich clyw, ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli clyw i ryw raddau a allai fod yn barhaol.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Gall cemotherapi ECX gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • Os byddwch yn agor eich perfedd yn fwy na’r hyn sy’n arferol i chi ac sy’n para’n fwy na thridiau
  • Bod gennych geg ddolurus iawn
  • Bod gennych ddwylo neu draed dolurus iawn
  • Bod gennych wrin coch am fwy na 24 awr
  • Wedi gorfod rhoi’r gorau i capecitabine oherwydd poen yn y frest

Adran fferyllol 029 2061 5888 est 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.