Neidio i'r prif gynnwy

ECarboX 374

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw EcarboX. Bydd y daflen yn esbonio beth yw hyn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am ECarboX ar gael ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi derbyn y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Beth yw cemotherapi ECarboX?

Mae cemotherapi ECarboX yn cynnwys tri chyffur:

  • Epirubicin
  • Carboplatin
  • Capecitabine (hefyd yn cael ei adnabod fel Xeloda)

Mae epirubicin a carboplatin yn cael eu rhoi trwy ddrip ac mae capecitabine yn cael ei roi ar ffurf tabledi.

Pam ydw i’n cael cemotherapi ECarboX?

Mae eich meddyg wedi argymell y cemotherapi hwn gan ei fod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Fydd angen i mi gael profion cyn cael fy nghemotherapi?

Bydd angen i chi gael cyfres o brofion gwaed cyn i chi ddechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu ni i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi. 

Pa mor aml fydda i’n cael cemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o ECarboX bob tair wythnos am chwech i wyth cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Mae’r cyffuriau cemotherapi epirubicin a carboplatin yn cael eu rhoi unwaith pob tair wythnos. Mae angen i chi gymryd y tabledi capecitabine ddwywaith y dydd yn ystod y cwrs driniaeth cyfan.

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

I dderbyn y driniaeth cemotherapi hon, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos. 

Apwyntiad clinig cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a all fod gennych. Y rheswm dros hyn yw fel y gallwn wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, bydd eich cemotherapi’n cael ei ragnodi. Mae’r apwyntiad hwn ychydig ddiwrnodau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

Apwyntiad cemotherapi - byddwch yn treulio tuag awr yn un o’r mannau triniaeth achosion dydd. Caniatewch hyd at awr yn hirach ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi yna eich carboplatin ac epirubicin.

Os rydych yn byw yn bell i ffwrdd, efallai y bydd eich cemotherapi yn cael ei drefnu ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig. Mae oedi bob amser rhwng gweld eich meddyg a chael cemotherapi. Os yw eich cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr. 

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin, felly nid oes lle fel arfer ar gyfer mwy nag un unigolyn. Nid yw’r mannau triniaeth yn addas ar gyfer plant ifanc. 

Sut dylwn i gymryd y tabledi capecitabine?

Dylech gymryd tabledi capecitabine ddwywaith y dydd, yn y bore ar ôl brecwast ac yn y nos ar ôl eich pryd nos. Dylech gymryd y tabledi o fewn 30 munud ar ôl gorffen eich pryd. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu. Mae’n bwysig eich bod chi’n golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cymryd eich tabledi.

Faint o dabledi fydd angen i mi eu cymryd?

Bydd hyn yn amrywio. Mae dau gryfder gwahanol o dabledi, sydd o feintiau gwahanol. Mae’r tabledi mwyaf yn 500mg a’r tabledi llai yn 150mg.  Efallai y bydd rhaid i chi gymryd cyfuniad o dabledi bach a mawr.   Bydd faint sydd angen i chi ei gymryd wedi cael ei nodi’n eglur ar y blychau. Cofiwch wirio pob blwch i weld faint o dabledi sydd angen i chi eu cymryd.

Beth ddylwn i ei wneud os rydw i’n anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn 2 awr i amser arferol eu cymryd, cymerwch nhw nawr.
  • Os yw’n fwy na 2 awr yn hwyr, methwch y dos hwn.

Peidiwch â chymryd y tabledi ychwanegol pan ddylai eich triniaeth fod wedi gorffen. Mae’n bwysig, hyd yn oed os rydych wedi methu unrhyw ddosau, eich bod chi’n gorffen y driniaeth ar yr adeg a gynlluniwyd.

Beth os rydw i’n cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith i gael cyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Sut dylwn i storio’r tabledi capecitabine?

Dylech storio’ch tabledi yn eu pecyn gwreiddiol mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylid eu cadw mewn man oer a sych. Dylech ddychwelyd tabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu i’ch fferyllfa leol i’w gwaredu’n ddiogel.  

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl y gallech eu dioddef. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl ar ôl i chi orffen y driniaeth. Gellir defnyddio dull o’r enw ‘oeri croen y pen’ neu ‘capio oer’ i atal colli gwallt. Gallwn drefnu wig os hoffech un. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn ag oeri croen y pen neu wigiau, siaradwch â’ch nyrs.  

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynglŷn ag ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi. 

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd 

Efallai y byddwch yn dioddef dolur rhydd. Os yw hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod chi’n yfed digon o hylif. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth i chi os byddwch yn dioddef dolur rhydd.  

Dylech stopio cymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os:

  • byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr
  • byddwch yn cael eich deffro yn ystod y nos yn dioddef o ddolur rhydd.   

Dylech gysylltu â ni hefyd os rydych yn dioddef unrhyw ddolur rhydd neu gynnydd yn nifer yr achlysuron rydych yn agor eich perfedd sy’n para am fwy na thridiau.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Os bydd eich yn dod yn boenus iawn, neu eich bod chi’n ei chael hi’n anodd bwyta ac yfed, dylech stopio cymryd eich tabledi capecitabine a chysylltu â Chanolfan Ganser Felindre i gael cyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dwylo a thraed dolurus

Efallai y byddwch yn dioddef poen ysgafn, cochni a chwyddo yn eich dwylo neu’ch traed. Os yw hyn yn digwydd, rydym yn argymell defnyddio eli neu drwyth heb bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os yw eich dwylo neu eich traed yn dod yn boenus.

Problemau ar y galon

Yn anaml iawn, bydd rhai pobl sy’n cael cemotherapi capecitabine yn dioddef problemau ar y galon. Os oes gennych gyflwr ar y galon neu os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth at y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau cemotherapi.  Os oes gennych unrhyw boen yn eich brest, dylech stopio cymryd eich tabledi capecitabine a cheisio sylw meddygol brys. Peidiwch â dechrau cymryd eich capecitabine eto hyd nes eich bod chi wedi siarad â’r tîm yn Felindre

Adwaith tebyg i alergedd

Mae nifer fach o gleifion yn dioddef adwaith tebyg i alergedd i carboplatin. Os yw hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n wrid, yn cosi, yn benysgafn neu’n anhwylus yn gyffredinol, wrth gael carboplatin. Gellir trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os rydych yn dioddef unrhyw un o’r symptomau hyn.

Sgîl-effeithiau eraill

Mae rhai cleifion yn dioddef llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Os yw hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs yn eich ymweliad nesaf â’r clinig.

Bydd epirubicin yn afliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi.  Mae hyn yn gwbl ddiniwed. Os yw hyn yn para am fwy na 24 awr, cysylltwch â’ch meddyg neu nyrs.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.  

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.  

Gall cemotherapi ECarboX gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Eich bod yn agor eich perfedd 4 gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi o fewn 24 awr
  • Bod cynnydd yn symudiadau eich perfedd, sy’n fwy na’r hyn sy’n arferol i chi, sy’n para am fwy na thridiau
  • Eich bod yn dioddef ceg ddolurus iawn
  • Eich bod yn dioddef dwylo neu draed dolurus
  • Bod gennych wrin coch am fwy na 24 awr
  • Eich bod chi wedi gorfod peidio cymryd capecitabine oherwydd poen yn eich brest 

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.