Neidio i'r prif gynnwy

DPD testing

Profion DPD ar gyfer cleifion sy'n derbyn 5FU neu capecitabine

 

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am brofion dihydropyrimidine dehydrogenase (DPD). Os ydych ar fin cael cemotherapi 5FU neu capecitabine fel rhan o'ch triniaeth canser, bydd angen i chi gael prawf gwaed genetig cyn dechrau'r driniaeth.  Mae hyn er mwyn gwirio a yw'ch corff yn gallu torri'r cyffuriau cemotherapi i lawr yn ddiogel ai peidio.  Bydd y daflen hon yn esbonio pam mae angen y prawf yn fwy manwl. 

 

Beth yw DPD?

Ensym a wneir gan yr afu yw DPD.  Mae'n helpu i dorri i lawr rhai cyffuriau cemotherapi (fel 5FU a capecitabine) a ddefnyddir i drin canser. 

Genyn yw DPYD.   Genynnau yw llawlyfrau cyfarwyddiadau ein celloedd ac maen nhw’n dweud wrth ein corff sut i weithio'n normal.  Mae'r genyn DPYD yn helpu i reoli faint o ensym DPD sy'n cael ei wneud.  Gall newidiadau yn y genyn DPYD olygu nad yw eich corff yn gwneud digon (neu ddim) o'r ensym DPD.  Gelwir hyn yn ddiffyg DPD.  

 

 

Pam ydw i’n cael cynnig prawf DPD?

Os nad yw'ch corff yn gwneud digon o DPD, gall y cyffuriau cemotherapi gronni yn y corff.  Gall hyn achosi sgil-effeithiau mwy difrifol nag arfer ac mewn rhai sefyllfaoedd gall beryglu bywyd.  Mae sgîl-effeithiau yn cynnwys:

  • gostyngiad yn lefel y celloedd gwaed a all gynyddu'r risg o gael heintiau, diffyg anadl a gwaedu
  • dolur rhydd, a all fod yn ddifrifol
  • ceg ddolurus
  • teimlo eich bod am chwydu neu chwydu, a all achosi dadhydradu
  • adwaith difrifol ar y crown, sy'n arwain at blicio neu bothellu'r croen. 

 

Beth mae'r prawf DPD yn ei olygu?

Cyn i chi ddechrau triniaeth, bydd eich oncolegydd yn trefnu i chi gael prawf gwaed genetig.  Mae'r prawf gwaed yn cael ei anfon i labordy genetig i chwilio am newidiadau yn y genyn DPYD.  Bydd y canlyniad ar gael ymhen tua phum diwrnod a bydd yn cael ei anfon yn ôl at eich oncolegydd. 

Sylwch mai dim ond ar gyfer newidiadau yn y genyn DPYD y bydd eich sampl gwaed yn cael ei brofi felly ni fyddwch yn cael gwybod am eich risg o unrhyw gyflyrau genetig eraill. 

 

Pa gamau gweithredu sydd angen eu cymryd os canfyddir bod gennyf ddiffyg DPD?

Bydd y tîm sy'n gyfrifol am eich triniaeth yn trafod y canlyniadau gyda chi cyn dechrau unrhyw driniaeth. Os yw eich genyn DPD yn normal, gallwch gael dos safonol o gemotherapi.  Mae hyn oherwydd y gall eich corff dorri'r cyffuriau cemotherapi i lawr.

Os canfyddir newid yn y genyn DPD, efallai y bydd angen dosau is o gemotherapi arnoch i leihau'r siawns o gael sgîl-effeithiau difrifol.  Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen osgoi defnyddio'r cyffuriau hyn yn gyfan gwbl.  Yn y sefyllfa hon, bydd opsiynau triniaeth amgen yn cael eu trafod gyda chi.

Bydd y tîm yn eich monitro'n agos yn ystod y driniaeth.  Os na fyddwch yn datblygu unrhyw sgîl-effeithiau difrifol ar ôl yr ychydig gylchoedd cyntaf o driniaeth, efallai y byddant yn ystyried a yw'n ddiogel cynyddu'r dos o gemotherapi.  Dim ond ar ôl trafodaeth gyda chi am fanteision a risgiau cynyddu'r dos y gwneir hyn. 

 

A fydd lleihau'r dos o'r cyffuriau cemotherapi yn effeithio ar ba mor llwyddiannus yw'r driniaeth canser?

Mae'n bwysig bod risgiau triniaeth yn cael eu cadw mor isel â phosibl, yn enwedig gan y gallai sgîl-effeithiau difrifol beryglu bywyd.  Nid yw eich lefel DPD ynddo'i hun yn effeithio ar ba mor llwyddiannus fydd y cemotherapi wrth ladd celloedd canser, ond bydd yn dweud wrthym sut y bydd eich corff yn ymdopi â'r cyffur a'r dos a roddir. 

 

A oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i gynyddu lefelau DPD yn fy nghorff?

Nid oes tystiolaeth bod meddyginiaethau, newidiadau dietegol neu ffordd o fyw yn effeithio ar lefelau DPD.   Yr unig gamau y mae angen i chi eu cymryd yw ceisio sylw meddygol os byddwch yn datblygu sgîl-effeithiau yn dilyn triniaeth cemotherapi.  Yn y sefyllfa hon dylech roi gwybod i'r tîm meddygol bod gennych ddiffyg DPD. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.  Mae'r rhif ffôn ar ddiwedd y daflen.

 

Beth mae diagnosis o ddiffyg DPD yn ei olygu i fy nheulu?

Dim ond ar gyfer pobl sy'n cael eu trin â chemotherapi 5FU neu capecitabine y mae profion DPD yn cael eu hargymell.  Nid oes angen profi eich perthnasau gwaed nad oes ganddynt ddiagnosis o ganser.  Fodd bynnag, efallai y bydd gan aelodau eraill o'ch teulu ddiffyg DPD hefyd.  Mae hyn oherwydd eich bod yn rhannu eich geneteg gyda pherthnasau gwaed.  Byddem yn eich annog i rannu'r wybodaeth hon gyda'ch teulu rhag ofn iddynt gael triniaeth am ganser yn y dyfodol. 

 

 

 

 

 

 

Rhifau Ffôn Cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre              029 2061 5888

Gofynnwch am y llinell gymorth triniaeth os ydych yn sâl gartref ac angen cyngor ar unwaith ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. 

 

I gael gwybodaeth fanylach am ddiffyg DPD, gweler isod:

Gwybodaeth Canser Cyffredinol Cancer Research UK ar ddiffyg DPD https://www.cancerresearchuk.org/about-cancer/cancer-in-general/treatment/chemotherapy/side-effects/dpd-deficiency

 

Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn Gymraeg.

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Mae'r wybodaeth yn y daflen hon yn seiliedig ar dystiolaeth.

Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion.  Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob 2 flynedd.

 

Paratowyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2020

Wedi'i diweddaru ym mis Tachwedd 2022

plain-english (3)