Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs triniaeth cemotherapi o’r enw CMF. Bydd y daflen yn esbonio beth yw ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am gemotherapi CMF ar ddiwedd y llyfryn hwn.
Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Beth yw cemotherapi CMF
Mae cemotherapi CMF yn cynnwys tri chyffur:
Yn fyr, CMF yw’r enw ar y tri chyffur hyn gyda’i gilydd.
Pam ydw i’n cael cemotherapi CMF?
Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn i chi gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi CMF?
Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn hysbys fel cylchoedd. Mae’n arferol cael cylch CMF bob tair wythnos am hyd at chwe chylch.
Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?
Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut rydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff cemotherapi ei ragnodi i chi.
Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?
Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.
Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.
Pa mor hir fyddaf yn yr ysbyty?
Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Bydd y driniaeth gemotherapi yn cymryd tua 30 munud. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.
Os ydych yn byw’n bell i ffwrdd, mae’n bosibl y caiff eich cemotherapi ei drefnu ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig. Mae oedi bob amser rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw’ch cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr.
Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a thriniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Colli gwallt
Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich gwallt yn teneuo.
Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am ymdopi â cholli eich gwallt. Gofynnwch os hoffech gopi.
Salwch
Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth gemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Heintiau
Byddwch eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Dolur rhydd
Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.
Blinder a lludded
Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corf ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.
Ceg ddolurus
Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen gemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.
Systitis
Gall Cyclophosphamide achosi systitis (llid y bledren). Gall hyn fod yn anghyfforddus. Er mwyn ceisio osgoi hyn, argymhellwn eich bod yn yfed o leiaf ddau litr y dydd (12 cwpan) am yr ychydig ddiwrnodau cyntaf ar ôl eich triniaeth. Mae symptomau systitis yn cynnwys:
Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os bydd gennych unrhyw rai o’r symptomau hyn. Gallwn roi meddyginiaeth i chi er mwyn helpu gyda ni.
Sgîl-effeithiau eraill
Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.
Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan Wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.