Neidio i'r prif gynnwy

Cisplatin a vinorelbine TM 571

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw cisplatin a vinorelbine. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a sut a phryd y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am unrhyw sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen hon.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi. 

Beth yw cemotherapi cisplatin a vinorelbine?

Triniaeth cemotherapi sy’n cynnwys dau gyffur yw hon: 

  • Cisplatin (sy’n cael ei roi fel drip)
  • Vinorelbine (sy’n cael ei roi fel tabledi)

Pam ydw i’n cael cemotherapi cisplatin a vinorelbine? 

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych. 

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi? 

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi. 

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi? 

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael triniaeth cisplatin a vinorelbine bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Ym mhob cylch, byddwch yn cael dwy driniaeth, un bob wythnos. Ar ddiwrnod 1, byddwn yn rhoi’r cemotherapi cisplatin i chi mewn drip a’r vinorelbine i chi fel tabledi. Wythnos yn ddiweddarach, ar ddiwrnod 8, byddwch yn cael prawf gwaed ac ail ddos o vinorelbine.

Sut caiff fy nghemotherapi cisplatin ei roi? 

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn barhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi. Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty ddwywaith ym mhob cylch tair wythnos:

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.

Apwyntiad cemotherapi – byddwch yn treulio rhyw saith awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Dylech ganiatáu hyd at hanner awr ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog i chi, hylifau mewn drip a’ch cemotherapi i chi.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a thriniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd gwallt rhai pobl yn teneuo rywfaint.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r cemotherapi hwn. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Rydym yn gwirio gweithrediad eich arennau ar ddechrau eich triniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd drwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Effeithiau ar eich nerfau 

Yn bur anaml, gall fod effaith ar nerfau eich dwylo a’ch traed. Byddai hyn yn arwain at fferdod neu binnau bach. Gall fod effaith ar y nerfau i’ch perfedd hefyd. Gallai hynny arwain at fod yn rhwym. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r problemau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau a gallai hyn fod yn barhaol.  

Sgîl-effeithiau eraill 

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Pryd dylwn i gymryd yr ail ddos o dabledi vinorelbine?

Dylech gymryd yr ail ddos o vinorelbine wythnos ar ôl eich dos gyntaf. Mae angen i chi gael prawf gwaed cyn cymryd eich tabledi vinorelbine diwrnod 8. Mae’n bwysig nad ydych yn eu cymryd hyd nes i un o dîm Felindre ddweud wrthych fod eich canlyniadau gwaed yn foddhaol. Byddwn yn esbonio’r trefniadau ar gyfer cymryd eich gwaed i chi a sut byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniadau.

Sut dylwn i gymryd y tabledi vinorelbine?

Mae’n rhaid i chi gymryd eich meddyginiaeth wrthgyfog awr cyn cymryd eich tabledi vinorelbine. Dylech gymryd y tabledi yn syth ar ôl byrbryd ysgafn a chyda gwydraid o ddŵr. Mae’n rhaid eu llyncu’n gyfan. Peidiwch â’u cnoi na’u malu. Mae’n bwysig eich bod yn golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cyffwrdd â’ch tabledi.

Peidiwch â chymryd unrhyw dabledi sydd wedi’u difrodi neu sy’n gollwng gan y gallent lidio eich ceg. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. Dylech roi tabledi sydd wedi’u difrodi mewn bag neu gynhwysydd gwrth-ddŵr a’u dychwelyd i’r ysbyty.

Sut ddylwn i storio’r tabledi vinorelbine?

Dylech storio eich tabledi yn yr oergell yn eu pecyn gwreiddiol. Maen nhw mewn gorchudd diogel i blant ond mae’n bwysig eu cadw i ffwrdd o gyrraedd plant.

 

Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu eich fferyllfa leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Gwybodaeth i bobl ag anoddefiad i ffrwctos

Ni ddylech gymryd tabledi vinorelbine gan eu bod yn cynnwys sorbitol.  

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn oherwydd gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.