Neidio i'r prif gynnwy

Cisplatin a RT 27

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth sy’n hysbys fel cisplatin a radiotherapi. Bydd yn esbonio ystyr hon a phryd a sut caiff ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu cael. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y daflen.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’ a’r llyfryn am eich radiotherapi. Os nad ydych wedi cael hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Pam ydw i’n cael cisplatin a radiotherapi?

Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r driniaeth hon gan ei bod yn hynod effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Gall triniaethau radiotherapi a chemotherapi roi canlyniadau gwell o’u rhoi gyda’i gilydd yn hytrach na thriniaeth sy’n cael ei rhoi’n unigol. Nod y driniaeth yw niweidio unrhyw gelloedd canser yn eich tiwmor neu’n agos ato, ac unrhyw gelloedd canser a allai fod wedi symud i rannau eraill o’ch corff.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nhriniaeth?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’n arferol cael rhwng dwy neu dair triniaeth cisplatin bob tair wythnos.

Byddwn yn rhoi eich radiotherapi i chi bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener gan ddechrau ar ddiwrnod cyntaf eich triniaeth cisplatin.

A fydd angen i mi aros yn yr ysbyty ar gyfer y driniaeth hon? 

Er mwyn cael eich cemotherapi, bydd angen i chi aros yn yr ysbyty dros nos. Eir â chi i’r uned cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae hon hefyd yn gyfarwydd fel Ward y Dywysoges Margaret.

A fydd angen unrhyw brofion arnaf cyn cael fy nghemotherapi? 

Bydd angen cyfres o brofion gwaed arnoch cyn dechrau eich cemotherapi. Mae un o’r profion gwaed hyn yn ein helpu i wirio bod eich arennau’n gweithio’n ddigon da i ymdopi â’r cemotherapi cisplatin. Os nad ydynt yn gweithio’n ddigon da, mae’n bosibl y byddwch yn cael triniaeth cemotherapi gwahanol. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi yn fanylach. 

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi.

Byddwch yn parhau i fod yn gysylltiedig â’r drip yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty. Caiff y drip ei atodi i stand cludadwy gydag olwynion fel y byddwch yn gallu symud o amgylch ardal y ward. Os bydd angen cymorth arnoch, bydd nyrs wrth law.

Sut caiff fy radiotherapi ei roi?

Byddwch yn cael 30 o driniaethau fel arfer, un bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ffracsiwn yw’r enw ar bob triniaeth ddyddiol ac mae’n cymryd ychydig funudau’n unig. Ni fyddwch yn teimlo dim yn ystod eich triniaeth, ond byddwch yn clywed sŵn hymian o’r peiriant.

Mae’ch llyfryn radiotherapi’n cynnwys gwybodaeth am sut caiff eich triniaeth radiotherapi ei chynllunio, sut caiff ei rhoi a’r sgîl-effeithiau posibl. Os hoffech ragor o wybodaeth am eich radiotherapi, siaradwch â’ch radiograffwyr.

Beth yw sgîl-effeithiau posibl y cemotherapi?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylech golli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, bydd gwallt rhai pobl yn teneuo rywfaint.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 7.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Mae’n bosibl y bydd y cemotherapi neu’r radiotherapi yn achosi hyn. Dilynwch y cyngor yn eich llyfryn radiotherapi.

Effaith ar eich arennau

Gall cisplatin effeithio ar y ffordd mae eich arennau’n gweithio. Bydd y prawf gwaed y byddwch yn ei gael cyn dechrau eich cemotherapi yn gwirio pa mor dda mae eich arennau’n gweithio ar ddechrau eich triniaeth. Byddwn hefyd yn eich monitro’n ofalus drwy gymryd profion gwaed rheolaidd trwy gydol eich triniaeth.

Rydym bob amser yn rhoi cisplatin gyda digonedd o hylifau yn y drip er mwyn lleihau’r effaith ar eich arennau. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn yfed digonedd o hylifau am o leiaf ddeuddydd ar ôl pob triniaeth. Rydym yn awgrymu cael cwpanaid neu wydraid o hylif bob awr yn ystod y dydd a chyda’r nos.

Sgîl-effeithiau eraill  

Gall cisplatin niweidio nerfau eich dwylo a’ch traed. Mae’n bosibl y byddwch yn colli teimlad neu’n cael newidiadau mewn synhwyriad fel goglais neu binnau bach. Er bod hyn yn anghyffredin iawn, mae’n bwysig dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

Gall cisplatin niweidio’r nerfau sy’n gyfrifol am glyw hefyd ond mae hyn yn anghyffredin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich clyw i ryw raddau a gallai hyn fod yn barhaol.  

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.