Neidio i'r prif gynnwy

Cetuximab ac OxMdG 507

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am driniaeth o’r enw cetuximab gydag oxaliplatin, 5 fluorouracil (5-FU) ac asid ffolinig. Bydd yn esbonio ystyr hon a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cetuximab gydag oxaliplatin, 5-FU ac asid ffolinig?

Triniaeth yw hon sy’n cynnwys cyfuniad o gyffuriau sy’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol i drin eich canser.

  1. Cetuximab - Gwrthgorffyn gwneud sy’n atodi ei hun i gelloedd canser ac sy’n eu hatal rhag tyfu yw hwn. Mae hefyd yn helpu eich system imiwnedd i ladd y celloedd canser. Nid cemotherapi yw hwn.
  2. Triniaeth cemotherapi - Mae’r rhan hon o’ch trinaeth yn cynnwys tri chyffur. Mae dau gyffur cemotherapi o’r enw oxaliplatin a 5-FU. Asid ffolinig yw’r cyffur arall. Nid cyffur cemotherapi yw hwn ond mae’n helpu’r 5-FU i weithio’n well. Gyda’i gilydd, caiff y cyffuriau hyn eu galw’n oxaliplatin a deGramont addasedig neu OxMdG.

Pam ydw i’n cael y driniaeth hon?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r driniaeth hon gan ei bod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael triniaeth bob pythefnos am rhwng chwe ac wyth cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Byddwch yn cael y cemotherapi a’r cetuximab ar ddiwrnod cyntaf pob cylch pythefnos. Diwrnod 1 yw hwn. Bydd rhai cleifion yn cael y cetuximab ar ei ben ei hun wythnos yn ddiweddarach. Diwrnod 8 yw hwn. Byddwn yn esbonio hyn i chi.

Sut caiff fy nhriniaeth cemotherapi ei rhoi?

Er mwyn cael eich triniaeth, bydd angen i ni osod tiwb mân i mewn i un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Llinyn PICC yw’r enw ar y tiwb hwn. Caiff eich llinyn PICC ei osod ryw wythnos cyn dechrau eich cemotherapi. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn yn fanylach gyda chi. Mae gennym daflen sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi

Pa mor aml fydd angen i mi ymweld â’r ysbyty?

Bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty bedair gwaith ym mhob cylch tair wythnos:

Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i weld sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, byddwn yn rhagnodi cemotherapi ar eich cyfer. Bydd yr apwyntiad hwn ychydig ddyddiau cyn eich triniaeth fel arfer.

Apwyntiad cetuximab a chemotherapi – Diwrnod 1 Dylech fod yn barod i dreulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod yn yr ysbyty ar gyfer eich triniaeth gyntaf. Caiff cetuximab ei roi’n araf a byddwn yn cadw llygad arnoch ar ôl yr arllwysiad er mwyn gweld eich ymateb. Ar gyfer gweddill eich triniaethau, bydd yr apwyntiad hwn yn fyrrach. Byddwch yn treulio rhyw bum awr yn un o’r ardaloedd trin achosion dydd. Byddwch yn mynd adref gyda’ch pwmp cludadwy’n cynnwys 5-FU.

Datgysylltu’r pwmp Ddeuddydd yn ddiweddarach, byddwch yn dychwelyd er mwyn i ni ddatgysylltu eich pwmp cludadwy. Dylai hyn gymryd rhyw hanner awr.

Apwyntiad cetuximab Diwrnod 8 – Os ydych yn mynd i gael triniaeth ar ddiwrnod 8, dylech ganiatáu rhwng dwy a thair awr ar gyfer yr ymweliad hwn ag un o’r ardaloedd trin achosion dydd.  

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r driniaeth hon. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn colli eu gwallt gyda’r driniaeth hon. Fodd bynnag, bydd gwallt rhai pobl yn teneuo rywfaint.

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Mae meddyginiaeth ar gael i reoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Adweithiau i’r croen

Mae’r rhan fwyaf o bobl (mwy nag 80%) yn cael adwaith i’r croen oherwydd cetuximab.  Brech o natur acne yw hon fel arfer a gallai fod yn sych, yn goslyd ac ychydig yn anghyfforddus. I nifer fach o bobl, bydd yr adwaith hwn yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o’ch corff, gallai fod yn boenus ac yn heintus.

Er mwyn lleihau’r posibilrwydd o adwaith difrifol i’r croen, argymhellwn:

  • eich bod yn defnyddio eli lleithio di-bersawr ar eich wyneb a rhan uchaf eich corff o ddechrau eich triniaeth
  • eich bod yn osgoi amlygiad â’r haul, yn gwisgo het a defnyddio eli haul ffactor uchel
  • nad ydych yn defnyddio dŵr poeth ar eich croen
  • nad ydych yn defnyddio sebon os yw’ch croen yn sych – defnyddiwch ddewis arall yn hytrach na sebon, fel eli dyfrllyd
  • nad ydych yn rhwbio eich croen yn rhy galed – dylech ei sychu’n ofalus 
  • eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau cyfforddus nad ydynt yn rhwbio

Mae’n bosibl y bydd eich meddyg ysbyty yn rhagnodi tabledi gwrthfiotig er mwyn helpu i leihau difrifoldeb y frech ar eich croen. Dylech ddechrau eu cymryd os byddwch yn datblygu brech o natur acne.

Mae’r adwaith hwn i’ch croen yn rhywbeth dros dro a bydd yn diflannu’n gyfan gwbl ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Os byddwch yn datblygu adwaith difrifol i’r croen sy’n achosi poen i chi neu sy’n eich atal rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Dolur i’ch dwylo a’ch traed

Mae’n bosibl y byddwch yn cael poen ysgafn, cochni a chwyddo i’ch dwylo neu’ch traed. Os bydd hyn yn digwydd, argymhellwn eich bod yn defnyddio eli neu drochdrwyth di-bersawr yn rheolaidd. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre os bydd eich dwylo neu’ch traed yn boenus. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Adweithiau o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith o fath alergaidd i cetuximab. Mae hyn fwyaf tebygol o ddigwydd yn ystod eich triniaeth gyntaf. Dyna pam mae’n cael ei rhoi’n araf a’n bod yn cadw llygad arnoch am unrhyw adweithiau. Os bydd problem yn codi, bydd yn digwydd tra bo’r cetuximab yn arllwyso neu’n fuan ar ôl hynny. Mae symptomau’n cynnwys teimlo:

  • yn boeth ac yn goch 
  • yn goslyd
  • yn benysgafn
  • yn sâl yn gyffredinol 
  • bod yn fyr eich gwynt  

Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn. 

Niwed i’r nerfau yn eich dwylo a’ch traed

Gall oxaliplatin achosi goglais neu deimlo fferdod yn eich bysedd neu’ch bysedd traed. Mae rhwng 85% a 95% o bobl yn cael hyn i ryw raddau. Caiff hyn ei achosi gan amlygiad i’r oerfel yn aml, er enghraifft, pan fyddwch yn agor yr oergell neu’n dal diod oer. Gallai fod yn anodd i chi gau botymau neu afael mewn gwrthrychau bach.

Ni fydd hyn yn para mwy na saith diwrnod rhwng triniaethau fel arfer. Os bydd gennych y broblem hon a’i bod yn para’n hwy na saith diwrnod, dywedwch wrthym yn ystod eich apwyntiad nesaf â’r clinig.

Teimlad annifyr yn eich gwddf

Yn achos nifer fach o gleifion, mae oxaliplatin yn achosi teimlad annifyr yn y gwddf. Gallai hyn arwain at deimlad o dyndra yn y gwddf neu anallu i gael eich gwynt atoch. Bydd hyn yn digwydd ar adeg y driniaeth neu o fewn ychydig oriau. Mae’n bosibl y bydd oerfel yn ei achosi felly dylech osgoi diodydd oer iawn am 24 awr ar ôl triniaeth.

Argymhellwn eich bod yn aros rhwng 20 a 30 munud ar ôl eich triniaeth cyn gadael yr ysbyty. Ni ddylech yrru eich hun adref ac, mewn tywydd oer, argymhellwn fod ffrind neu berthynas i chi yn gwresogi’r car cyn i chi fynd i mewn iddo.

Dywedwch wrth eich nyrs os byddwch yn cael hyn wrth gael eich triniaeth. Os bydd yn digwydd ar ôl i chi adael yr ysbyty, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 10.

Sgîl-effeithiau eraill

Bydd rhai cleifion yn datblygu llid pilen y llygad. Haint yn y llygad yw hon sy’n achosi llygaid dolurus a gludiog. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen triniaeth arnoch a byddwn ni neu’ch meddyg teulu yn gallu rhoi’r driniaeth honno i chi.

Bydd rhai cleifion yn cael problemau ar ffurf poen, chwyddo neu haint ar hyd yr ewinedd. Os bydd problem yn codi, bydd yn digwydd fel arfer ar ôl sawl mis o driniaeth. Dywedwch wrth eich meddyg yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig os bydd hyn yn digwydd.

Mae’n bosibl y byddwch yn cael pen tost gyda’r driniaeth hon. Ceisiwch gymryd pa gyffuriau lleddfu poen bynnag y byddech yn eu cymryd fel arfer. Os na fydd y rhain yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre neu’ch meddyg teulu am gyngor.

Bydd nifer fach o gleifion yn cael anystwythder yn y safn yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl yr oxaliplatin. Bydd hyn ond yn para am ychydig ddyddiau fel arfer. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrthym yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig.

Bydd rhai cleifion yn cael llygaid dolurus neu ddyfrllyd. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich apwyntiad nesaf â’r clinig.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Yn anaml, bydd pobl sy’n cael y driniaeth hon yn fyr eu gwynt. Mae hyn yn fwy tebygol os oes gennych broblem ar eich ysgyfaint eisoes. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.

Yn bur anaml, bydd pobl sy’n cael y cemotherapi hwn yn cael problemau ar y galon fel angina neu grychguriadau. Os byddwch am drafod hyn ymhellach, siaradwch â’ch meddyg.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd 
  • Bod gennych dyndra yn eich gwddf neu anallu i gael eich gwynt atoch ar yr un diwrnod â’ch triniaeth
  • Bod gennych ddwylo neu draed dolurus iawn
  • Adwaith poenus i’r croen

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.