Neidio i'r prif gynnwy

Carboplatin a vinorelbine 514 a 515

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw carboplatin a vinorelbine. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am y cemotherapi hwn ar ddiwedd y daflen

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â’r daflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi carboplatin a vinorelbin?

Triniaeth cemotherapi yw hon sy’n cynnwys dau gyffur:

  • Carboplatin – sy’n cael ei roi fel drip
  • Vinorelbine – sy’n cael ei roi ar ffurf tabledi 

Pam ydw i’n cael cemotherapi carboplatin a vinorelbine?

Mae’ch meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cemotherapi carboplatin a vinorelbine bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Ym mhob cylch byddwch yn cael dwy driniaeth, gydag wythnos rhyngddynt. Ar ddiwrnod 1, byddwch yn cael y cemotherapi carboplatin mewn drip, a’r vinorelbine fel tabledi. Wythnos yn ddiweddarach, ar ddiwrnod 8, byddwch yn cael prawf gwaed ac ail ddos o vinorelbine.

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Fel arfer, byddwch yn gweld y tîm arbenigol bob tair neu bedair wythnos. Bydd eich tîm yn rhoi gwybod i chi pa mor aml y bydd angen iddynt eich gweld. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Rydym yn gwneud hyn fel y gallwn wirio sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch.

Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Bydd y driniaeth cemotherapi’n cymryd rhyw awr. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Os ydych yn byw’n bell i ffwrdd, mae’n bosibl y byddwn yn trefnu eich cemotherapi ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig. Mae bob amser oedi rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi cyntaf. Os yw’ch cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad yn y clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty am rhwng pedair a chwe awr.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Ar ddiwrnod 1, caiff eich cemotherapi carboplatin ei roi drwy ddrip i mewn i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich.   Fel arall, byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei roi yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn barhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach gyda chi.

Byddwn yn rhoi tabledi vinorelbine i chi ar ddiwrnod 1 a thriniaeth arall wythnos yn ddiweddarach ar ddiwrnod 8. 

Pryd dylwn i gymryd yr ail ddos o vinorelbine?

Mae angen i chi gael prawf gwaed cyn cymryd eich ail ddos o dabledi vinorelbine. Mae’n bosibl y byddwn yn rhoi eich tabledi i chi ymlaen llaw. Mae’n bwysig nad ydych yn eu  cymryd hyd nes i un o dîm Felindre ddweud wrthych fod eich canlyniadau gwaed yn foddhaol. Byddwn yn esbonio’r trefniadau ar gyfer cymryd eich gwaed a sut byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniadau.

Sut dylwn i gymryd y tabledi vinorelbine?

Mae’n rhaid i chi gymryd eich meddyginiaeth wrthgyfog awr cyn cymryd eich tabledi vinorelbine. Dylech gymryd y tabledi yn syth ar ôl byrbryd ysgafn a’u llyncu gyda gwydraid o ddŵr. Mae’n rhaid eu llyncu’n gyfan. Peidiwch â’u cnoi na’u malu.

Mae’n bwysig eich bod yn golchi eich dwylo’n drwyadl ar ôl cyffwrdd â’ch tabledi.

Peidiwch â chymryd unrhyw dabledi sydd wedi’u difrodi neu sy’n gollwng gan y gallent lidio eich ceg. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8. Dylech roi tabledi sydd wedi’u difrodi mewn bag neu gynhwysydd gwrth-ddŵr a’u dychwelyd i’r ysbyty.

Sut ddylwn i storio’r tabledi vinorelbine?

Dylech storio eich tabledi yn yr oergell yn eu pecyn gwreiddiol. Maen nhw mewn gorchudd diogel i blant ond mae’n bwysig eu cadw i ffwrdd o gyrraedd plant.

Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl? 

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Colli gwallt 

Ni ddylai’r cemotherapi hwn achosi i chi golli eich gwallt. Er hynny, mae’n bosibl y bydd gwallt nifer fach o bobl yn teneuo rhywfaint.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch adref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint. 

Effeithiau ar eich nerfau 

Yn bur anaml, gall fod effaith ar y nerfau yn eich bysedd a’ch bysedd traed. Bydd hyn yn arwain at deimlo fferdod neu binnau bach. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r problemau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn ystod eich ymweliad nesaf â’r clinig. Er bod hyn yn anghyffredin, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth eich meddyg os bydd hyn yn digwydd fel y gallwn addasu eich triniaeth cyn i’r sgîl-effaith hon ddod yn barhaol.

 

Gall fod effaith i’r nerfau yn eich perfedd hefyd. Gallai hyn arwain at fod yn rhwym. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor.

Sgîl-effeithiau eraill

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith o fath alergaidd i carboplatin. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n boeth neu’n goch, yn goslyd, yn benysgafn neu’n sâl yn gyffredinol tra eich bod yn cael eich cemotherapi. Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Gwybodaeth i bobl ag anoddefiad i ffrwctos

Ni ddylech gymryd tabledi vinorelbine oherwydd eu bod yn cynnwys sorbitol.

 Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch 
  • Bod gennych ddolur rhydd
  • Bod gennych dabledi sydd wedi’u difrodi neu sy’n gollwng

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.