Neidio i'r prif gynnwy

Carboplatin a docetaxel 167

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am gwrs cemotherapi o’r enw carboplatin a docetaxel. Bydd y daflen yn esbonio ystyr hwn a phryd a sut y bydd yn cael ei roi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am carboplatin a docetaxel ar ddiwedd y llyfryn hwn.

Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.

Beth yw cemotherapi carboplatin a docetaxel?

Triniaethau cemotherapi sydd wedi’u defnyddio i drin canser ers blynyddoedd lawer yw carboplatin a docetaxel.

Pam ydw i’n cael carboplatin a docetaxel?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r cemotherapi hwn gan ei fod yn effeithiol i drin y math o ganser sydd gennych.

Pa mor aml fyddaf yn cael carboplatin a docetaxel?

Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Mae’r rhain yn cael eu galw’n gylchoedd. Mae’n arferol cael cylch cemotherapi bob tair wythnos am hyd at chwe chylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol?

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol cyn pob cylch. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn ein galluogi i wirio sut mae’r cemotherapi’n effeithio arnoch chi. Os yw’ch canlyniadau gwaed yn foddhaol, caiff cemotherapi ei ragnodi ar eich cyfer.

Am ba hyd fyddaf yn yr ysbyty?

Bydd eich apwyntiad cemotherapi ar ddiwrnod gwahanol i’ch apwyntiad yn y clinig fel arfer. Bydd y driniaeth cemotherapi’n cymryd rhyw 2½ fel arfer. Dylech ganiatáu 30 munud ychwanegol ar gyfer eich triniaeth gyntaf.

Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle’n brin yn yr ardaloedd aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle ar gyfer mwy nag un unigolyn fel arfer. Nid yw ardaloedd triniaeth yn addas ar gyfer plant bach.

Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?

Caiff eich cemotherapi ei roi drwy ddrip i wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, mae’n bosibl y byddwn yn awgrymu bod tiwb mân o’r enw PICC yn cael ei osod mewn gwythïen fawr yn rhan uchaf eich braich. Bydd yn parhau i fod yn ei le drwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn ymhellach i chi.

Mae gennym daflen hefyd sy’n esbonio mwy i chi am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gopi. 

Byddwn yn rhoi tabledi steroid i chi o’r enw dexamethasone.  Mae’n rhaid i chi ddechrau eu cymryd ddiwrnod cyn eich cemotherapi. Mae hyn yn bwysig er mwyn atal rhai o sgîl-effeithiau’r driniaeth. Dylech eu cymryd gyda bwyd, ar ôl brecwast a chinio.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl? 

Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddyg, y nyrsys a’r fferyllwyr roi unrhyw gyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cymryd y tabledi steroid dexamethasone er mwyn lleihau rhai o’r sgîl-effeithiau sy’n gysylltiedig â’r cemotherapi hwn. Mae’n rhaid i chi gymryd y tabledi am dridiau, yn dechrau ddiwrnod cyn cael eich cemotherapi. Mae’n bwysig iawn eu cymryd yn unol â’r cyfarwyddyd.

Colli gwallt

Yn anffodus, byddwch yn colli eich gwallt gyda’r cemotherapi hwn. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi dod i ben. Mae modd defnyddio dull sy’n hysbys fel ‘oeri croen y pen’ neu ‘gapio oer’ weithiau i atal colli gwallt. Gallwn drefnu wig os hoffech un. Os hoffech ragor o wybodaeth am oeri croen y pen neu wigiau, siaradwch â’ch nyrs.

Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gopi.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Heintiau

Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5°. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Dolur rhydd

Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r cemotherapi hwn. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Blinder a lludded 

Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff ysgafn fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys. 

Ceg ddolurus

Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi cyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.

Ataliad dŵr

Mae’n bosibl y bydd gennych ataliad dŵr sy’n gallu achosi i’ch fferau a’ch coesau chwyddo. Yn bur anaml, gall hyn arwain at fod yn fyr eich gwynt oherwydd hylif ar yr ysgyfaint. Mae’r tabledi steroid yn atal hyn rhag digwydd fel arfer. Os bydd hyn yn digwydd, nid yw’n ddifrifol fel arfer a bydd yn diflannu ar ôl i’ch triniaeth ddod i ben. Dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs os yw hyn yn broblem.

Myalgia (poen yn y cyhyrau)

Mae’n bosibl y bydd rhai cleifion yn dioddef myalgia, sef poen yn y cyhyrau neu’r cymalau. Gall hyn fod yn ddifrifol weithiau ond bydd ond yn para ychydig ddyddiau. Os oes gennych gyffuriau lleddfu poen adref, mae’n bosibl y bydd y rhain yn lliniaru’r boen. Os na fydd hyn yn gweithio, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.

Adweithiau o fath alergaidd

Mae nifer fach o gleifion yn cael adwaith o fath alergaidd i’r cemotherapi hwn. Mae’r tabledi steroid yn atal hyn rhag digwydd fel arfer. Ond os bydd hyn yn digwydd, tra bo’r drip yn arllwyso fydd hynny. Ymhlith y symptomau mae:

  • teimlo’n boeth ac yn goch 
  • cosi
  • penysgafnder
  • teimlo’n sâl yn gyffredinol  

Mae modd trin hyn yn hawdd. Dywedwch wrth eich nyrs ar unwaith os byddwch yn cael unrhyw un o’r symptomau hyn. 

Sgîl-effeithiau eraill 

Mae’n bosibl y byddwch yn gweld afliwio a phlygu i’ch ewinedd ac ewinedd eich traed. Mae’n bosibl y bydd ychydig o gleifion yn colli eu hewinedd dros dro.

Gall eich dwylo a’ch traed fynd yn sych ac yn denau. Mae modd lliniaru hyn fel arfer drwy ddefnyddio lleithydd di-bersawr.

Yn bur anaml, mae’r cemotherapi hwn yn effeithio ar y nerfau i’ch dwylo a’ch traed. Mae hyn yn arwain at golli synhwyriad neu synhwyriad gwahanol fel pinnau bach neu oglais. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y symptomau’n gwella o fewn ychydig fisoedd i’ch triniaeth ddod i ben.

Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl.

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi tra eich bod yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.

Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.

Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr 

Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk  Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:

  • Os byddwch yn chwydu fwy nag unwaith dros gyfnod o 24 awr
  • Bod gennych dymheredd o 37.5°C neu uwch
  • Bod gennych ddolur rhydd

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.