Neidio i'r prif gynnwy

Afatinib

Beth yw afatinib?

Triniaeth canser newydd sy’n cael ei rhoi fel tabledi yw Afatinib.  

Afatinib yw cyffur di-drwydded ar hyn o bryd. Byddwn yn esbonio hyn isod. 

Pam ydw i’n cael afatinib?

Mae eich meddyg wedi rhagnodi’r therapi hon gan fod y triniaethau blaenorol sydd wedi’u rhagnodi ar eich cyfer wedi stopio gweithio. Gall Afatinieb helpu rhai cleifion gyda’r math o ganser sydd gennych.

Beth yw cyffur di-drwydded? 

Cyn bod meddygon yn gallu rhoi cyffur, mae angen trwydded arno. Mae trwydded yn brawf bod cyffuriau’n ddiogel ac yn effeithiol. Ar hyn o bryd, nid yw afatinib wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio yn y DU gan mai cyffur newydd yw e. Gwnaed cais am drwydded, ond y disgwyl y bydd hyn cymryd rhai misoedd. Mae treialon clinigol wedi’u cynnal er mwyn profi diogelwch ac effeithiolrwydd afatinib. Mae eich meddyg ymgynghorol yn fodlon bod afatinib yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd yn gyfrifol am eich monitro tra eich bod yn cael y driniaeth hon. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am hyn, siaradwch â’ch meddyg ymgynghorol.

Pa mor aml fyddaf yn gweld y tîm arbenigol? 

Byddwch yn gweld y tîm arbenigol bob pedair wythnos. Byddwch yn cael profion gwaed rheolaidd a byddwn yn gwirio sut hwyl sydd arnoch ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn fel y gallwn weld sut mae’r driniaeth yn effeithio arnoch chi. 

Sut dylwn i gymryd y tabledi afatinib?

Dylech gymryd tabledi Afatinib unwaith y dydd. Dylech geisio eu cymryd tua’r un pryd bob dydd. Dylech gymryd y tabledi â stumog wag. Mae hyn o leiaf ddwy awr ar ôl bwyta ac ni ddylech fwyta bwyd am o leiaf awr ar ôl cymryd y tabledi. Dylech lyncu’r tabledi’n gyfan gyda gwydraid o ddŵr. Ni ddylech eu cnoi na’u malu.

Faint o dabledi afatinib fydd angen i mi eu cymryd? 

Mae’n arferol cymryd un tabled 50mg bob dydd ond weithiau, bydd eich meddyg yn newid y ddos. Bydd faint y bydd angen i chi eu cymryd wedi’i farcio’n glir ar y blwch.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio cymryd fy nhabledi?

  • Os yw o fewn pedair awr i’r amser arferol, dylech eu cymryd ar unwaith.
  • Os yw’n fwy na phedair awr yn hwyr, dylech golli’r ddos honno.

Beth os byddaf yn cymryd gormod o dabledi?

Cysylltwch â Chyngor Ganser Felindre ar unwaith am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6. Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi. 

Sut ddylwn i storio’r tabledi?

Dylech storio eich tabledi yn eu pecyn gwreiddiol ac mewn man diogel i ffwrdd o gyrraedd plant. Dylech eu cadw mewn man sych ac oer (islaw 25oC).

Dylech ddychwelyd unrhyw dabledi heb eu defnyddio i fferyllfa’r ysbyty neu’ch siop fferyllydd leol er mwyn eu gwaredu’n ddiogel.

Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl? 

Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn goddef y driniaeth hon ond mae rhai sgîl-effeithiau posibl y gallai fod angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Salwch

Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin gydag afatinib. Byddwn yn rhoi tabledi gwrthgyfog i chi eu cymryd, os bydd eu hangen arnoch. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6.

Dolur rhydd

Mae’n bosibl y byddwch yn cael dolur rhydd gyda’r driniaeth hon. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig yfed digonedd o hylifau. Byddwn yn rhoi tabledi loperamide i chi er mwyn rheoli dolur rhydd. Os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi dros gyfnod o 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6.

Adweithiau i’r croen

Mae’n bosibl y byddwch yn cael adwaith i’r croen gydag afatinib. Brech o natur acne yw hon fel arfer a gallai fod yn sych, yn goslyd ac ychydig yn anghyfforddus. I nifer fach o bobl, bydd yr adwaith hwn yn fwy difrifol. Byddai brech ddifrifol yn effeithio ar ran fawr o’ch corff, gallai fod yn boenus ac yn heintus.

Er mwyn lleihau’r posibilrwydd o adwaith difrifol i’r croen, argymhellwn:

  • eich bod yn defnyddio eli lleithio di-bersawr ar eich wyneb a rhan uchaf eich corff o ddechrau eich triniaeth
  • eich bod yn osgoi amlygiad â’r haul, yn gwisgo het a defnyddio eli haul ffactor uchel
  • nad ydych yn defnyddio dŵr poeth ar eich croen
  • nad ydych yn defnyddio sebon os yw’ch croen yn sych – defnyddiwch ddewis arall yn hytrach na sebon, fel eli dyfrllyd
  • nad ydych yn rhwbio eich croen yn rhy galed – dylech ei sychu’n ofalus 
  • eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau cyfforddus nad ydynt yn rhwbio

Mae’n bosibl y bydd eich meddyg ysbyty yn rhagnodi tabledi gwrthfiotig er mwyn helpu i leihau difrifoldeb y frech ar eich croen. Dylech ddechrau eu cymryd os byddwch yn datblygu brech o natur acne.

Mae’r adwaith hwn i’ch croen yn rhywbeth dros dro a bydd yn diflannu’n gyfan gwbl ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Os byddwch yn datblygu adwaith difrifol i’r croen sy’n achosi poen i chi neu sy’n eich atal rhag cyflawni eich gweithgareddau arferol, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 6.

Sgîl-effeithiau eraill a gwybodaeth 

Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn dod yn dad tra eich bod yn cael triniaeth neu am o leiaf fis wedi hynny. Mae hyn oherwydd y gallai afatinib niweidio’r baban heb ei eni. 

Ydy hi’n iawn cymryd meddyginiaethau eraill? 

Os ydych yn cymryd meddyginiaethau eraill, rhowch wybod i’ch meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd. Mae nifer fach o feddyginiaethau y gallai fod angen i chi eu hosgoi. 

Rhifau ffôn cyswllt 

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888

Am gyngor brys ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi

Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau 

Llinell cymorth canser

radffôn Tenovus 0808 808 1010

Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.