Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth am gwrs o gemotherapi o’r enw ABVD. Bydd y daflen yn esbonio beth yw’r driniaeth a phryd a sut y bydd yn cael ei rhoi. Bydd hefyd yn dweud wrthych am sgîl-effeithiau cyffredin y gallech eu dioddef. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth am ABVD ar ddiwedd y daflen hon.
Dylech ddarllen y daflen hon ochr yn ochr â thaflen ‘Gwybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael cemotherapi’. Os nad ydych wedi cael y daflen hon, gofynnwch i’ch nyrs am gopi.
Beth yw cemotherapi ABVD?
Mae cemotherapi ABVD yn cynnwys 4 cyffur:
Gyda’i gilydd, caiff y 4 cyffur hyn eu galw’n ABVD yn fyr.
Pam ydw i’n cael cemotherapi ABVD?
Mae eich meddyg wedi argymell ABVD gan y gwyddom ei fod yn effeithiol o ran trin y math o ganser sydd gennych.
Pa mor aml fyddaf yn cael fy nghemotherapi?
Er mwyn i’r driniaeth hon fod ar ei mwyaf effeithiol, caiff ei rhoi ar gyfnodau amser penodol. Caiff y rhain eu hadnabod fel cylchoedd. Mae’n arferol cael cylch o ABVD bob 4 wythnos am rhwng 3 – 8 cylch. Bydd eich meddyg yn trafod gyda chi union nifer y cylchoedd y byddwch yn eu cael.
Sut caiff fy nghemotherapi ei roi?
Bydd y cemotherapi yn cael ei roi trwy ddrip mewn gwythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich. Fel arall, gellir awgrymu bod tiwb main o’r enw PICC yn cael ei osod yn un o’r gwythiennau mawr yn rhan uchaf eich braich. Gall y llinyn hwn aros yn ei le trwy gydol eich triniaeth. Bydd eich meddyg neu’ch nyrs yn trafod hyn gyda chi ymhellach.
Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych am linynnau PICC. Gofynnwch os hoffech gael copi.
Pa mor aml fyddaf yn mynd i’r ysbyty?
I gael eich triniaeth cemotherapi, bydd angen i chi fynd i’r ysbyty 4 gwaith ym mhob cylch 4 wythnos:
Apwyntiad cleifion allanol – byddwch yn cael prawf gwaed a byddwn yn gwirio sut yr ydych yn teimlo ac yn trafod unrhyw broblemau a allai fod gennych. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sut y mae’r cemotherapi yn effeithio arnoch chi. Os yw eich canlyniadau gwaed yn foddhaol, argymhellir eich cemotherapi. Mae’r apwyntiad hwn dim ond ychydig ddyddiau cyn eich apwyntiad cemotherapi fel arfer.
Diwrnod 1 apwyntiad cemotherapi - byddwch yn treulio oddeutu 2 awr yn un o’r mannau trin achosion dydd. Caniatewch 30 munud ychwanegol ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn rhoi eich meddyginiaeth wrthgyfog a’ch cemotherapi i chi trwy’r drip. Byddwn hefyd yn rhoi steroid i chi o’r enw hydrocortisone. Mae hyn yn lleihau adweithiau alergaidd posibl i’r cemotherapi bleomycin.
Apwyntiad yn y clinig cleifion allanol – caiff y profion gwaed a’r archwiliad eu cynnal yr un fath â chyn y cemotherapi ar Ddiwrnod 1.
Apwyntiad cemotherapi ar Ddiwrnod 15 – bydd angen i chi ganiatáu oddeutu 2 awr ar gyfer yr ymweliad hwn. Byddwn yn rhoi meddyginiaeth wrthgyfog a’ch cemotherapi i chi yn yr un ffordd â’ch apwyntiad ar Ddiwrnod 1.
Mae croeso i chi ddod â rhywun i aros gyda chi yn ystod eich triniaeth. Mae lle yn brin yn y mannau aros a’r ystafell driniaeth, felly nid oes lle i fwy nag un person fel arfer. Nid yw mannau triniaeth yn addas i blant ifanc.
A fyddaf yn gweld meddyg cyn pob cylch?
Byddwch, mi fyddwch yn gweld y meddyg cyn Diwrnod 1 ac 15 o bob cylch. Byddwch hefyd yn cael prawf gwaed ar bob ymweliad â’r clinig. Os bydd eich cyfrif gwaed yn rhy isel, bydd eich cemotherapi yn cael ei ohirio nes i’ch cyfrif gwaed wella. Mae hyn yn cymryd wythnos fel arfer.
Os bydd yn rhaid gohirio eich triniaeth oherwydd cyfrif celloedd gwyn isel, efallai y byddwch yn cael pigiad o’r enw G-CSF. Mae hyn yn helpu i chi gynhyrchu mwy o gelloedd gwyn ac yn lleihau’r risg o oedi pellach. Efallai y bydd angen mwy nag un pigiad arnoch.
Bydd eich nyrs ardal yn rhoi’r rhain i chi gartref fel arfer. Gallai’r pigiadau achosi poen yn y cymalau neu’r cyhyrau neu symptomau sy’n debyg i’r ffliw. Mae cyffuriau lladd poen ysgafn fel arfer yn helpu (beth bynnag yr ydych fel arfer yn ei gymryd ar gyfer cur pen).
A fyddaf yn gallu cael fy nhriniaeth ar yr un diwrnod â’m hapwyntiad clinig?
Os ydych chi’n byw ym mhell i ffwrdd, gellir trefnu eich cemotherapi ar gyfer yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig. Mae oedi bob tro rhwng gweld y meddyg a chael eich cemotherapi. Os yw eich cemotherapi ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad clinig, dylech ddisgwyl bod yn yr ysbyty rhwng pedair a chwe awr.
Beth yw’r sgîl-effeithiau posibl?
Mae nifer o sgîl-effeithiau posibl sy’n gallu codi gyda’r cemotherapi hwn. Gall y meddygon, y nyrsys a’r fferyllwyr roi cyngor i chi neu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Colli gwallt
Yn anffodus, bydd y cemotherapi hwn yn achosi i chi golli’ch gwallt. Mae hyn dros dro yn unig. Bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl pan fydd eich triniaeth wedi gorffen. Gallwn drefnu wig os hoffech gael un, gofynnwch i’ch nyrs am fwy o wybodaeth. Mae gennym daflen sy’n dweud mwy wrthych ynghylch ymdopi â cholli gwallt. Gofynnwch i’ch nyrs os hoffech gael copi.
Salwch
Mae cyfog a chwydu’n anghyffredin erbyn hyn gan y byddwn yn rhoi meddyginiaethau gwrthgyfog i chi, sy’n hynod effeithiol fel arfer. Os byddwch yn chwydu mwy nag unwaith mewn 24 awr, er eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthgyfog yn rheolaidd pan fyddwch gartref ar ôl eich triniaeth cemotherapi, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre am gyngor. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Heintiau
Bydd eich risg o ddal heintiau’n uwch gan y gall y driniaeth hon leihau eich celloedd gwaed gwyn sy’n helpu i drechu heintiau. Cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith os byddwch yn datblygu unrhyw arwyddion o haint, er enghraifft, symptomau sy’n debyg i’r ffliw neu dymheredd sy’n uwch na 37.5° canradd. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Dolur rhydd
Nid yw dolur rhydd yn gyffredin gyda’r math hwn o gemotherapi. Fodd bynnag, os byddwch yn agor eich perfedd bedair gwaith neu fwy na’r hyn sy’n arferol i chi mewn 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre ar unwaith. Mae’r rhif ffôn ar dudalen 8.
Blinder a lludded
Gall cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r arfer. Mae’n bwysig gwrando ar eich corff a gorffwys os bydd angen i chi wneud hynny ond dylech barhau â’ch gweithgareddau arferol os teimlwch eich bod yn gallu gwneud hynny. I rai pobl, gall ychydig o ymarfer corff fod yn fuddiol yn ogystal â gorffwys.
Ceg ddolurus
Mae’n bosibl y bydd eich ceg yn ddolurus neu efallai y byddwch yn sylwi ar wlserau bach. Dilynwch y cyngor ar ofalu am eich ceg yn y daflen cemotherapi gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn rhoi presgripsiwn am gegolch neu feddyginiaeth i chi er mwyn atal neu glirio unrhyw haint.
Poen mewn gwythïen
Os ydych chi’n cael eich cemotherapi trwy wythïen yng nghefn eich llaw neu’ch braich, gallai fod ychydig yn anghyfforddus adeg y pigiadau cemotherapi. Dywedwch wrth eich nyrs os bydd hyn yn digwydd. Mae’n bosibl i chi gael llinyn PICC wedi’i osod fel y trafodir ar dudalen 2. Bydd hyn yn atal unrhyw anesmwythdra yn y wythïen. Siaradwch â’ch meddyg neu’ch nyrs i gael mwy o wybodaeth.
Newidiadau i liw eich wrin
Bydd adriamycin yn afliwio eich wrin yn goch am ddiwrnod ar ôl eich cemotherapi, ond nid yw hyn yn niweidiol. Os bydd hyn yn para mwy na 24 awr, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre.
Sgîl-effeithiau llai cyffredin
Effeithiau ar eich ysgyfaint
Gall bleomycin niweidio’r ysgyfaint o’i roi mewn dosau uchel. Byddwn yn cyfrifo eich dos o bleomycin yn ofalus i leihau’r posibilrwydd o niwed i’r ysgyfaint. Byddwch yn cael archwiliadau o’ch brest yn rheolaidd hefyd. Os byddwch yn sylwi eich bod yn brin o anadl neu fod gennych beswch sych, dywedwch wrth eich meddyg ar eich ymweliad nesaf â’r clinig. Mae’r effaith hon yn fwy tebygol o ddigwydd mewn pobl sy’n ysmygu, felly mae’n bwysig eich bod yn lleihau faint yr ydych yn ysmygu, neu’n rhoi’r gorau i ysmygu.
Effeithiau ar eich croen
Gall bleomycin achosi newidiadau yn y croen. Mae’r rhain yn gallu cynnwys darnau tywyll ar eich croen, gwrymiau ar eich ewinedd neu dynerwch a chwyddo ar flaenau eich bysedd.
Effeithiau ar eich calon
Gall adriamycin achosi problemau â’r galon. Os oes gennych gyflwr y galon, dywedwch wrth eich meddyg cyn i chi ddechrau ar eich triniaeth. Dywedwch wrth eich meddyg os byddwch chi’n sylwi ar ddiffyg anadl, crychguriadau’r galon neu boen yn y frest.
Effeithiau ar eich nerfau
Gall vinblastine effeithio ar y nerfau yn eich dwylo a’ch traed. Efallai y byddwch yn teimlo fferdod neu binnau bach, a allai fod yn barhaol. Gall y driniaeth effeithio ar y nerfau i’ch coluddyn hefyd, ac achosi rhwymedd. Os byddwch yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, dywedwch wrth eich meddyg neu’ch nyrs yn eich apwyntiad clinig.
Weithiau bydd triniaeth cemotherapi’n effeithio ar fislif menywod. Gallent fynd yn drymach, yn ysgafnach neu hyd yn oed ddod i ben yn gyfan gwbl
Mae’n bwysig nad ydych yn beichiogi nac yn cenhedlu plentyn tra byddwch yn cael triniaeth cemotherapi gan y gallai cemotherapi niweidio’r baban heb ei eni.
Gall y cemotherapi hwn gynyddu sensitifrwydd eich croen i’r haul. Y peth gorau i’w wneud yw osgoi heulwen gref, gwisgo het a defnyddio eli haul.
Taflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr
Mae copïau o daflenni gwybodaeth i gleifion gan wneuthurwyr cyffuriau ar gael o Fferyllfa Felindre, neu ar y rhyngrwyd yn www.medicines.org.uk Mae’r taflenni hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am gyffuriau unigol. Nid ydym yn eu dosbarthu fel mater o drefn gan nad ydynt fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gyfuniadau o gyffuriau a gall fod yn anodd eu darllen. Gofynnwch os hoffech gopi.
Rhifau ffôn cyswllt
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Gofynnwch am y peiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw arnoch ar unwaith ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Er enghraifft, dylech ffonio yn achos y canlynol:
Adran fferyllol 029 2061 5888 est. 6223
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 5pm ar gyfer ymholiadau am eich meddyginiaethau
Llinell cymorth canser
radffôn Tenovus 0808 808 1010
Dydd Llun – dydd Gwener 9am – 4.30pm ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch canser
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd y daflen ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.