Taflen wybodaeth ynghylch ffrwythlondeb dynion
a thriniaethau canser
Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am effeithiau triniaeth canser ar ffrwythlondeb dynion. Bydd yn esbonio beth yw anffrwythlondeb a pha opsiynau sydd ar gael ichi os byddwch chi’n dod yn anffrwythlon. Mae rhifau ffôn cyswllt a manylion am sut i gael rhagor o wybodaeth ar gael ar ddiwedd y daflen.
Beth yw anffrwythlondeb?
Anffrwythlondeb yw'r anallu i genhedlu plentyn fel tad.
Beth all effeithio ar ffrwythlondeb?
Yn anffodus, mae rhai triniaethau canser, fel cemotherapi a radiotherapi, yn gallu achosi anffrwythlondeb. Gall hyn fod dros dro ond mewn rhai achosion gall fod yn barhaol. Mae sut effaith sydd yna ar eich ffrwythlondeb yn dibynnu ar y math o gyffuriau cemotherapi gewch chi, neu'r rhan o'ch corff sy'n cael ei thrin â radiotherapi.
Ydy pob triniaeth cemotherapi neu radiotherapi yn effeithio ar ffrwythlondeb?
Ychydig iawn o effaith a gaiff rhai cyffuriau cemotherapi ar ffrwythlondeb dynion. Gall eraill leihau maint ac ansawdd y sberm rydych chi'n ei gynhyrchu. Gall hyn fod dros dro neu'n barhaol.
Ddylai radiotherapi ddim effeithio ar eich ffrwythlondeb oni bai eich bod yn cael triniaeth i'ch ceilliau neu'ch corff cyfan (sy’n cael ei adnabod fel arbelydru’r corff cyfan).
Maen nhw wedi dweud wrtha i y gallai fy nhriniaeth canser fy ngwneud i’n anffrwythlon - fydd hyn yn barhaol?
Mae pob dyn yn wahanol: bydd cynhyrchiant sberm rhai dynion yn dychwelyd i normal yn gyflym, ond i eraill gall gymryd sawl blwyddyn. Mae'n bosibl na fydd eich gallu i gynhyrchu sberm normal byth yn gwella ddigon i'ch galluogi i fod yn dad i blentyn yn naturiol.
Mae maint ac ansawdd y sberm a gynhyrchir yn amrywio ar gyfer dynion gwahanol. Hyd yn oed cyn i'r driniaeth ddechrau efallai y bydd rhai dynion yn cael problemau cynhyrchu sberm normal. Gall rhai canserau wneud hyn yn fwy tebygol hefyd. Bydd eich meddyg yn esbonio'n fanylach sut y bydd eich triniaeth yn effeithio ar eich ffrwythlondeb.
Pryd fydd hyn yn cael ei drafod gyda mi?
Bydd eich meddyg yn trafod y risg o anffrwythlondeb gyda chi cyn ichi ddechrau eich triniaeth. Os oes gennych chi bartner, mae'n debyg y bydd am ymuno â chi ar gyfer y drafodaeth hon fel eich bod chi'ch dau yn ymwybodol o'r holl ffeithiau ac yn gallu siarad am eich teimladau a'ch opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Os yw anffrwythlondeb yn debygol o fod yn barhaol, efallai y cewch gynnig y cyfle i gasglu sberm i'w storio mewn banc sberm cyn ichi ddechrau triniaeth. Trafodir hyn yn nes ymlaen yn y daflen.
Fydda i’n dal yn gallu cael rhyw?
Fe ddylech chi allu cael codiad a chael orgasm o hyd, fel roeddech chi’n arfer gwneud cyn ichi ddechrau’ch triniaeth. Byddwch chi’n dal i gynhyrchu semen pan fyddwch chi'n cael orgasm, ond efallai y bydd llai ohono ac na fydd yn cynnwys digon o sberm ichi fod yn dad i blentyn yn naturiol.
Ddylwn i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu tra bydda i’n cael cemotherapi neu radiotherapi?
Dylech chi bob amser ddefnyddio dulliau atal cenhedlu yn ystod eich triniaeth er mwyn lleihau'r risg o genhedlu babi â sberm sydd wedi'i niweidio. Tra byddwch chi’n cael cemotherapi dylech chi ddefnyddio condomau, gan fod yna risg fach y bydd y cyffuriau cemotherapi yn cael eu trosglwyddo i'ch partner mewn sberm neu hylif semenol.
Os bydd y condom yn torri neu'n hollti yn ystod rhyw, fe ddylai’ch partner gymryd pilsen atal cenhedlu frys, neu'r 'bilsen bore wedyn'. Mae hon ar gael gan glinigau Cynllunio Teulu, meddygon teulu neu fferyllfeydd.
Pa mor hir ddylwn i barhau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu ar ôl i'm cemotherapi ddod i ben?
Efallai na fydd eich sberm yn datblygu'n normal am ryw flwyddyn ar ôl ichi orffen y driniaeth. Dylech barhau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu yn ystod y cyfnod hwn gan nad yw'n ddoeth dod yn dad i blentyn.
Sut fydda i’n gwybod os ydw i'n anffrwythlon ar ôl y driniaeth?
Mae modd trefnu prawf dadansoddi semen pan fyddwch chi wedi cwblhau’ch triniaeth. Bydd y prawf hwn yn gwirio cynhyrchiant ac ansawdd y sberm yn eich semen. Dim ond rhoi syniad o ba mor dda mae eich sberm wedi gwella mae’r prawf, ac nid yw'n warant o ffrwythlondeb nac anffrwythlondeb.
Bancio sberm
Os nad ydych chi wedi cwblhau’ch teulu cyn bod angen ichi ddechrau triniaeth, efallai y byddwch yn gallu bancio rhywfaint o'ch sberm i'w ddefnyddio'n nes ymlaen. Mae bancio sberm ar gael yn IVF Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Os yw hyn yn bosibl, gofynnir ichi gynhyrchu sawl sampl sberm dros ychydig ddyddiau. Bydd y rhain yn cael eu rhewi a'u storio er mwyn cael eu defnyddio'n nes ymlaen i geisio ffrwythloni wy gan eich partner.
Sut fydd fy sampl yn cael ei gasglu?
Mae hyn yn cael ei wneud mewn ystafell gasglu breifat yn IVF Cymru. Rydych chi'n alldaflu (yn cyrraedd uchafbwynt) trwy fastyrbio. Mae eich gwraig neu’ch partner yn cael dod i mewn i'r ystafell gyda chi hefyd.
Yn ddelfrydol, ddylech chi ddim mastyrbio neu garu am hyd at dri diwrnod cyn cynhyrchu pob sampl, er mwyn i fwy o sberm gael ei gasglu. Serch hynny, os oes angen i'ch triniaeth ddechrau'n gyflym, efallai y gofynnir ichi roi samplau ar ddiwrnodau olynol.
Pam mae arna i angen prawf ar gyfer HIV, hepatitis B a hepatitis C?
Mae'n arferol i bob dyn sy'n storio sberm gael profion gwaed ar gyfer HIV a hepatitis, a hynny am y gall y firysau hyn gael eu trosglwyddo trwy semen. Os ydych chi’n credu bod gennych chi risg uchel o fod yn HIV positif, mae modd trefnu cwnsela cyn y prawf.
Fydd bancio sberm yn gohirio fy nhriniaeth i?
Fel arfer mae yna amser i drefnu bancio sberm cyn dechrau'r driniaeth, oni bai bod eich meddyg yn teimlo ei bod yn bwysig dechrau’ch triniaeth ar unwaith. Os yw hyn yn wir, neu os ydych chi’n sâl iawn, efallai na fydd bancio sberm yn bosibl neu efallai mai dim ond digon o amser i gasglu a storio un sampl fydd ar gael.
Os yw fy nhriniaeth i wedi dechrau, ydw i’n dal yn cael bancio sberm?
Nac ydych. Unwaith y bydd eich cemotherapi neu’ch radiotherapi wedi dechrau gall unrhyw sberm rydych chi’n ei gynhyrchu gael ei niweidio gan y driniaeth. Fyddai'r sberm hwn ddim yn addas i'w ddefnyddio yn y dyfodol.
Faint o samplau sydd angen eu storio?
Yn ddelfrydol, mae tair sampl yn cael eu storio. Does dim digon o amser bob amser i gasglu tair sampl, ond efallai y bydd un sampl yn ddigon i'w defnyddio yn y dyfodol.
Pa mor hir all sberm gael ei storio?
Mae modd storio sberm nes ichi gyrraedd 55 oed.
Ydy hi’n ddiogel defnyddio sberm wedi'i storio i ddechrau teulu?
Ydy. Mae astudiaethau sy'n edrych ar blant sy'n cael eu geni drwy ddefnyddio sberm wedi'i storio wedi dangos nad oes unrhyw wahaniaeth yn eu hiechyd o’i gymharu â phlant sy'n cael eu cenhedlu'n naturiol.
Beth fydd yn digwydd i fy sampl sberm os bydda i’n marw?
Os ydych chi mewn perthynas sefydlog, gallwch gytuno y caiff eich partner ddefnyddio’ch sberm ar ôl ichi farw. Byddwch chi’n cael eich enwi fel y tad ar y dystysgrif eni.
Os na fyddwch chi’n cytuno i bartner a enwir ddefnyddio’ch sberm ar ôl ichi farw, yna bydd eich sberm yn cael ei dynnu o'r storfa a'i ddinistrio.
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i am i'm sberm gael ei storio mwyach?
Os byddwch chi’n adennill eich ffrwythlondeb ar ôl triniaeth, neu os nad ydych chi’n dymuno storio’ch sberm mwyach, gallwch gysylltu ag IVF Cymru a byddan nhw’n tynnu’ch sberm o'r storfa a’i ddinistrio.
Beth fydd yn digwydd os bydda i’n symud tŷ?
Os byddwch chi’n symud tŷ bydd angen ichi gysylltu ag IVF Cymru ar 029 2074 3047 i roi’ch manylion newydd iddyn nhw.
Oes unrhyw beth arall y mae'n rhaid imi ei wneud?
Bydd angen ichi lenwi ffurflen ganiatâd. Mae hon yn ffurflen gyfreithiol sy’n caniatáu i IVF Cymru storio’ch sberm. Mae hefyd yn gofyn ichi beth hoffech chi ei weld yn digwydd i'ch sberm ar ôl ichi farw.
Rhifau Ffôn Cyswllt
Mae'r daflen hon yn codi materion cymhleth. Os hoffech drafod unrhyw beth ymhellach neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag un o'r rhifau ffôn isod.
Nyrs arbenigol mewn canserau gwrywaidd 029 2061 5888 est 4680
Radiograffwyr 029 2061 5888 est 6428
Gwybodaeth a Chymorth
IVF Cymru 029 2074 3047
Macmillan 0808 808 0000
Llinell gymorth rhadffôn Tenovus 0808 808 1010
Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Fe'i cymeradwywyd gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a'i diweddaru bob dwy flynedd.
Wedi’i hadolygu Mai 2011