Problemau’r Cof
Mae’r cof yn swyddogaeth bwysig yr ymennydd sy’n ein galluogi i fyw ein bywydau o ddydd i ddydd. Mae’n rhaid i gof gael ei ddysgu ac yna’i storio yn y lle iawn er mwyn i ni allu dod o hyd iddo eto.
Gall ein cof gael ei effeithio gan lawer o bethau:
- Straen
- Bod yn rhy brysur
- Pryder a gorbryder
- Hwyl isel neu iselder
- Teimlo’n sâl
- Cwsg gwael
- Meddyginiaeth, fel cemotherapi
Byddwn yn sylwi’n aml fod gennym anhawster gyda’n cof:
- Pan fyddwn yn ei chael hi’n anodd dysgu enwau newydd neu gofio hen enwau
- Wrth gofio ble mae pethau (e.e. allweddi)
- Wrth fynd i mewn i ystafell ac anghofio pam yr aethoch yno
- Wrth ddysgu gwybodaeth newydd.
Sut Allai i Helpu Fy Nghof?
Mae strategaethau cof yn ffyrdd o feddwl am wybodaeth neu storio gwybodaeth a allai eich helpu i’w chofio’n haws. Mae’n bwysig peidio â rhoi pwysau arnoch chi’ch hun, gan y gall pryder a gorbryder wneud ein cof yn waeth.
Cofio Gwybodaeth
- Mynnwch leihau pethau i dynnu’ch sylw wrth ddysgu gwybodaeth newydd (e.e. diffoddwch y radio).
- Gwrandewch neu darllenwch yn ofalus.
- Ailadroddwch y wybodaeth yn ôl i chi’ch hun yn eich pen ac yn uchel.
- Gwnewch gysylltiadau. Er enghraifft, os ydych am gofio enw rhywun rydych wedi cyfarfod â nhw, ceisiwch wneud cysylltiad rhyngddyn nhw a rhywun arall rydych yn ei adnabod gyda’r un enw.
- Grwpiwch wybodaeth yn dalpiau: e.e. os ydych chi’n ceisio cofio rhif ffôn, meddyliwch amdano fel 635 ac 820, yn hytrach na 6-3-5-8-2-0.
- Os oes gennych restr o eitemau i’w cofio, gwnewch ‘air allweddol’ o lythyren gyntaf pob eitem (e.e., Caws, Reis, Afalau, Bara = CRAB)
Cofio Gwneud Rhywbeth
- Gwnewch arferion allan o weithgareddau bob dydd, fel paratoi yn y bore neu gymryd tabledi. Gwnewch bethau yn yr un drefn ac ar yr un pryd a’r un lle bob dydd.
- Gwnewch ddarlun gwirion o’r weithred yn eich meddwl (e.e. cofiwch frwsio’ch dannedd cyn mynd allan – darlun o frws dannedd anferth yn dawnsio wrth iddo frwsio drws y ffrynt).
- Gadewch nodiadau i chi’ch hun. Nodiadau mawr, llachar sy’n dal eich llygad.
- Defnyddiwch ddyddiadur neu dabled / iPad i ysgrifennu lle mae angen i chi fod, pa bryd a pham, neu ar gyfer storio enwau a chyfeiriadau. Cadwch hwn gyda chi drwy’r amser a sefydlwch drefn ar gyfer ei wirio bob dydd. Gall hyn eich helpu os ewch chi allan ac anghofio beth oeddech eisiau gwneud neu ble’r oedd angen i chi fod.
- Rhowch galendr yn rhywle sy’n hawdd ei weld. Rhowch gylch o amgylch y diwrnod presennol yn y bore a chroeswch ef i ffwrdd cyn i chi fynd i’r gwely. Gallech chi ddefnyddio cloc electronig gyda’r amser, diwrnod, mis a’r dyddiad arno.
- Rhowch nodyn atgoffa ar eich ffôn symudol.
- Gofynnwch i’ch fferyllydd baratoi pecynnau swigod gyda’ch holl feddyginiaeth wedi’i threfnu’n barod yn yr adrannau gwahanol. Defnyddiwch larwm i’ch atgoffa i’w cymryd (e.e. ar eich ffôn symudol).
- Defnyddiwch restri fel ‘i wneud heddiw’ neu ‘cwestiynau y dylwn eu gofyn i’r meddyg’.
Cofio Ble Mae Pethau
- Cadwch le penodol i roi pethau.
- Ysgrifennwch restr o ble rydych yn cadw pethau pwysig, a rhowch hi mewn lle amlwg, fel yn ymyl eich drych.
Os Na Allwch Chi Gofio Rhywbeth
- Ceisiwch ddarlunio’ch hun yn yr un lle ag yr oeddech chi pan ddysgoch y wybodaeth rydych wedi’i hanghofio, neu ble’r oeddech chi pan rydych chi’n cofio bod â’r eitem rydych wedi’i cholli ddiwethaf.
Delio â Rhwystredigaeth
Mae pobl sydd â phroblemau’r cof yn dweud eu bod yn mynd yn rhwystredig â’u hunain. Y broblem gyda rhwystredigaeth yw ei bod yn ei gwneud yn anoddach meddwl yn glir ... felly mae’n mynd yn anoddach cofio ac mae hynny’n fwy rhwystredig fyth! Gallech feddwl am hyn fel ‘cylch cythreulig’ rhwystredigaeth. Gall rhwystredigaeth ‘atal’ galw i gof, gall gadael y rhwystredigaeth i fynd ac ymlacio helpu i alw i gof.
Dyma ffordd o ymlacio a allai fod o gymorth:
- Anadlwch yn ddwfn
- Anadlwch i mewn a chyfrif 3, yna anadlwch allan a chyfrif tri
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn anadlu o’ch stumog - dychmygwch eich bod yn chwythu balŵn ynddo!
- Dywedwch air tawelu wrthoch chi’ch hun (e.e. ‘ymlacia’)
- Os bydd teimladau o rwystredigaeth yn codi, cydnabyddwch nhw a gadael iddynt fynd heibio.
Dychmygwch y teimladau yn llithro heibio fel dail mewn nant.
Ffynonellau Cymorth
Os hoffech gael rhagor o gymorth ar gyfer ymdopi â’ch cof, gallwch ei gael gan y gwasanaethau canlynol:
- Gwefannau Defnyddiol
- Beth yw cof?
www.human-memory.net
www.bbc.co.uk/science/humanbody/mind
- Cymhorthion cof
www.livingmadeeasy.org.uk
www.smart-finder.co.uk
- Strategaethau’r cof
www.bbc.co.uk/radio4/memory/improve
- Delio â rhwystredigaeth
www.livinglifetothefull.com
www.moodgym.anu.edu.au
- Eich meddyg teulu
- Leigh Bodilly, Cydlynydd Gwybodaeth a Chymorth i Gleifion a Gofalwyr Felindre: I gael gwybodaeth am wasanaethau cymorth yn eich ardal leol – 029 20196132.© Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ionawr 2015
- Gall eich yimgynghorydd neu arbenigwr nyrsio clinigol roi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau sydd ar gael i chi, a gofyn am atgyfeiriad at y rhaglenni grŵp neu’r tîm Seicoleg Clinigol a Chwnsela yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae wedi’i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob 2 flynedd.
Paratowyd Hydref 2014