Neidio i'r prif gynnwy

Nantgarw Support Unit Medicines at Home

Meddyginiaethau yn y Cartref

Uned Gymorth Nantgarw

 

Beth yw Uned Gymorth Meddyginiaethau yn y Cartref Nantgarw?

Mae Uned Gymorth Meddyginiaethau yn y Cartref Nantgarw yn uned driniaeth llawn offer. Mae'n cael ei staffio gan nyrsys profiadol a hynod hyfforddedig o'n partner, Gofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds Mae wedi'i leoli yn Nantgarw, Caerdydd, ar gyfer cleifion Gwasanaeth Canser Felindre ('Felindre') sy'n derbyn triniaethau penodol. 

Pwy fydd yn darparu fy moddion?

Bydd eich triniaeth a'ch gofal nyrsio yn cael eu darparu gan Ofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds. Mae Gofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds yn ddarparwr preifat ac nid yw’n rhan o Felindre, ond maen nhw wedi cael eu dewis yn ofalus gennym ni i ddarparu’r gwasanaeth hwn i chi. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y gwasanaeth a gewch yn cael ei ariannu gan gwmni fferyllol.

Mae Gofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds  yn gweithgynhyrchu’r triniaethau ar safle arbennig ac yn cyflogi tîm o nyrsys i ddarparu’r driniaeth yn yr uned Gymorth bwrpasol. Mae’r gwasanaeth gweithgynhyrchu a nyrsio wedi cael ei adolygu’n helaeth gan Felindre i sicrhau eu bod yn gweithredu i’r un safonau ansawdd a diogelwch ag a fyddai’n cael eu darparu i chi yn Felindre.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth byddwch yn derbyn pecyn croeso gan  Gofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds. Byddwch yn cael gwybod ymlaen llaw os bydd darparwr gwasanaeth newydd yn cael ei benodi, i ddarparu'ch gofal yn yr uned, er bod hyn yn annhebygol o ddigwydd.

Sut bydd Uned Gymorth Nantgarw o fudd i mi?

Mae’r gwasanaeth Uned Gymorth Symudol Meddyginiaethau yn y Cartref yn cynnig lleoliad hygyrch i dderbyn eich triniaeth. Trwy gynyddu'r lleoliadau sydd yn gallu darparu triniaethau, gallwn wneud gwasanaethau'n fwy cyfleus i chi yn ogystal â chaniatáu i ni drin mwy o gleifion yn gyffredinol. 

Gyda nifer llai o gadeiriau triniaeth yn y cyfleuster hwn mae gennym lai o gleifion yn aros, felly mae amseroedd aros fel arfer yn fyrrach. Mae'n hawdd ei gyrraedd ac mae digon o le parcio am ddim. 

Rydym wedi bod yn darparu gofal gan yr Uned Gymorth hon ers nifer o flynyddoedd ac rydym wedi cael adborth ardderchog gan gleifion sydd wedi derbyn eu triniaeth yno. Rydym yn hyderus y byddwch yn ei chael yn lle tawel a chyfforddus i ymweld ag ef. Fodd bynnag, os dewiswch wneud hynny, gallwch dynnu'n ôl o'r gwasanaeth ar unrhyw adeg. 

Beth os oes argyfwng, sut gallaf deimlo'n ddiogel?

Mae gan Uned Gymorth Nantgarw yr holl offer angenrheidiol ac mae'r staff wedi'u hyfforddi'n llawn i ddelio ag argyfyngau.

Os byddwch yn teimlo'n sâl tra yn yr uned bydd y tîm yn asesu eich anghenion, yn cysylltu â'ch tîm meddygol ac, os oes angen, yn trefnu apwyntiad yn y man mwyaf priodol. Efallai nad Felindre fydd hwn, efallai y bydd angen i chi fynd at eich meddyg teulu neu ysbyty lleol.

Beth yw fy nghyfrifoldebau?

Rhaid i chi barhau i fynychu eich apwyntiadau clinig arferol, profion gwaed neu archwiliadau meddyg teulu yn unol â chais eich clinigwr er mwyn caniatáu i'ch iechyd gael ei fonitro'n briodol. Rhaid bod modd cysylltu â chi, fel arfer dros y ffôn. Gall eich clinigwr eich tynnu'n ôl o'r gwasanaeth os na allwch fodloni'r gofynion hyn.

A allaf weld rhywun o fy nhîm meddygol?

Nid oes unrhyw un o'ch tîm meddygol ar gael yn Uned Gymorth Nantgarw, fodd bynnag, byddwch yn cael eich adolygu'n rheolaidd gan eich tîm o Felindre naill ai gydag apwyntiadau wyneb yn wyneb neu asesiadau ffôn.

Sut mae gwasanaeth Uned Gymorth Nantgarw yn gweithio? 

Er mwyn cael eich trin yn Uned Gymorth Nantgarw bydd angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Byddwch yn derbyn galwad ffôn gan ein tîm Meddyginiaethau yn y Cartref lle gofynnir i chi gytuno i'ch manylion gael eu trosglwyddo i Ofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds, a fydd wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau rhai manylion.

Ar y diwrnod cyn y disgwylir i'ch triniaeth gael ei rhoi, byddwch yn derbyn galwad gan Ofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds i wirio eich bod yn ddigon iach i gael triniaeth y diwrnod canlynol. Ar ddiwrnod y driniaeth, byddwch yn mynychu Uned Gymorth Nantgarw lle byddwch yn cael eich cyfarch gan y tîm, a fydd yn symud ymlaen i gynnal yr arsylwadau a'r gwiriadau angenrheidiol cyn i chi gael eich triniaeth. Mae'r triniaethau'n cymryd rhwng 1-2 awr i'w rhoi ac maent yn ddiogel i'w derbyn ar y cyfleuster pwrpasol hwn.

Pa gyfleusterau sydd yn yr uned? 

Mae ramp mynediad ar gael o flaen Uned Gymorth Nantgarw os ydych ei angen.  Mae diodydd poeth ar gael ac mae toiled i'r anabl yn yr uned. Mae man aros bach, felly gallwch ddod â rhywun gyda chi os dymunwch. 

Beth os oes gennyf broblem? 

Byddwch yn gallu cysylltu â chydlynydd gofal claf penodol a fydd fel arfer yn gallu delio ag unrhyw broblemau neu ymholiadau sydd gennych. Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Meddyginiaethau yn y Cartref. Ar gyfer problemau sydd angen cymorth meddygol, dylech bob amser gysylltu â'ch tîm clinigol yn Felindre, trwy'r llinell gymorth Triniaeth. 

Os oes gennych broblem yr ydych yn teimlo nad yw wedi cael ei thrin yn dda, mae gennych hawl i wneud cwyn. Gellir gwneud cwynion am unrhyw elfen o'ch gwasanaeth gyda Felindre hefyd i dîm y Gwasanaeth Cyngor a Chysylltiadau Cleifion (PALS), y mae eu manylion i'w gweld ar ddiwedd y daflen hon. 

Cyfrinachedd 

Er mwyn darparu  gwasanaeth Uned Gymorth Nantgarw mae angen i ni ddarparu rhai manylion amdanoch chi i Ofal Clinigol Fferyllfa Lloyds a gofyn i chi lofnodi ffurflen gofrestru. Er eich diogelwch, cedwir y wybodaeth hon, y cofnodion fferyllol a nyrsio ar gronfa ddata gyfrifiadurol gan Ofal Clinigol yn y Cartref Fferyllfa Lloyds Mae darparwyr yn rhwym i'r un rheolau cyfrinachedd â staff y GIG. Ni fyddant yn rhoi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un arall nac yn trafod eich triniaeth ag unrhyw un ac eithrio staff yr ysbyty sy'n darparu eich gofal. 

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth am sut y bydd eich data personol yn cael ei reoli yn ein hysbysiad preifatrwydd sydd i’w weld yma: http://www.velindre-tr.wales.nhs.uk/your-information-your-rights  

 

 

Adborth 

Rydym yn gwerthfawrogi ac yn annog adborth. Os oes angen cyngor arnoch neu os ydych yn pryderu am unrhyw agwedd ar ofal neu driniaeth, siaradwch ag aelod o'r Tîm Meddyginiaethau yn y Cartref, y Llinell Gymorth Triniaeth, neu cysylltwch â PALS.  

Tîm Meddyginiaethau yn y Cartref  

Rhif ffôn: 02920 615888 estyniad 4443 

Llythyr: Tîm Meddyginiaethau yn y Cartref, Adran Fferylliaeth, Canolfan Ganser Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2TL 

Llinell Gymorth Triniaeth 

02920 615888, gofynnwch am Linell Gymorth Triniaeth 

Codi Pryder

Rhif ffôn: 02920 196161

E-bost: handlingconcernsvelindre@wales.nhs.uk

Llythyr: Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol a Gwyddorau Iechyd, Pencadlys yr Ymddiriedolaeth, 2 Cwrt Charnwood, Heol Billingsley, Parc Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QZ

 

Cyfarwyddiadau i Nantgarw:

Map with pin outlineCyfeiriad:
Wrth ochr Sinema Showcase a’r Ganolfan Bowlio Deg
Parc Nantgarw
Nantgarw
CF15 7QX

 

O gyfeiriad yr M4

·        Gadewch ar gyffordd 32 (cylchfan Coryton)

·        Cymerwch yr A470 i'r Gogledd i Ferthyr Tudful

·        Yr ail allanfa sy ag arwydd yn nodi Ystad Ddiwydiannol Trefforest A4054 a Caerffili A468

·        Wrth y gylchfan fawr, cymerwch yr allanfa gyntaf

·        Ewch i lawr y rhiw tuag at gylchfan lai

·        Cymerwch y drydedd allanfa i gyfeiriad Parc Nantgarw

·        Wrth y gylchfan fach, cymerwch y drydedd allanfa tuag at y sinema a’r ganolfan fowlio  

·        Cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i mewn i'r maes parcio, ger y McDonald's gyrru drwodd

·        Gyrrwch heibio'r ganolfan fowlio i ben y maes parcio

·        Bydd yr Uned Gefnogi Nantgarw las ar yr ochr dde

 

 

Fersiwn 2.0

Adolygwyd Ebrill 2024