Gwybodaeth am Uned Canser Macmillan yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful
Byddwch yn derbyn eich triniaeth yn Uned Canser Macmillan yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Adeiladwyd yr uned hon drwy gymorth arian a godwyd gan Gymorth Canser Macmillan a chan bobl yn yr ardal leol ynghyd â chymorth gan Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Agorodd ym mis Mehefin 2010.
Uned Canser Macmillan
Mae gan yr uned ardal driniaeth fawr ac agored gydag 11 o gadeiriau triniaeth lle bydd cleifion yn derbyn eu therapi megis cemotherapi, trallwysiadau gwaed a meddyginiaethau eraill. Mae un ardal yn cynnwys gwelyau lle gall unigolyn sy’n cael arllwysiad hir neu sy’n teimlo’n flinedig derbyn ei driniaeth. Gallwn roi triniaethau fel llinynnau PICC yn yr uned hefyd.
Mae clinig i gleifion allanol hefyd lle byddwch yn gallu gweld eich meddyg ar gyfer apwyntiadau dilynol. Efallai y bydd angen i rai cleifion fynd i Felindre ar gyfer apwyntiadau fel cleifion allanol ond gallant gael eu triniaeth yn yr uned.
Mae’r uned yn olau ac yn eang ac mae cadeiriau gogwyddol yno lle gallwch eistedd tra byddwch yn cael eich triniaeth. Mae gardd hardd y tu allan i’r uned y gallwch ei gweld o’r ardal driniaeth. Mae’r staff a gwirfoddolwyr wedi plannu rhai potiau a byddwch yn gallu gwylio adar wrth y man bwydo.
Yr ardd ynghyd â man bwydo’r adar ac ardal aros y cleifion
Pwy yw’r staff a fydd yn gofalu amdanaf yn yr uned?
Caiff Uned Canser Macmillan ei rheoli gan Cathy Barker, Arweinydd Clinigol Macmillan. Mae ei staff yn cynnwys nyrsys profiadol o Felindre. Bydd rhai meddygon Felindre yn teithio o Gaerdydd.
Byddwch yng ngofal Canolfan Ganser Felindre. Ni fyddwch yng ngofal Ysbyty’r Tywysog Siarl ac eithrio ar yr achlysuron prin y byddwn yn mynd â chi i’r prif ysbyty dros nos.
Sut mae dod o hyd i’r uned?
Ein cyfeiriad yw: Uned Canser Macmillan
Ysbyty’r Tywysog Siarl
Gurnos
Merthyr Tudful
CF47 9DT
Yn yr ysbyty, dilynwch yr arwyddion gwyrdd a glas sy’n eich cyfeirio at Uned Canser Macmillan.
Sut mae cyrraedd Uned Canser Macmillan drwy’r ysbyty?
Os byddwch yn dod i Ysbyty’r Tywysog Siarl drwy fynedfa’r adran famolaeth (neu’r brif fynedfa dros dro), bydd angen i chi gerdded ar hyd y coridor gan edrych am arwydd Uned Canser Macmillan ar yr ochr dde uwchben drws dwbl. Ewch allan drwy goridor y swyddfa a bydd Uned Canser Macmillan ar agor yn syth o’ch blaen.
Os ydych yn dod o ran arall o’r ysbyty, mae angen i chi ddod o hyd i’r bwyty. Ryw 20 metr arall heibio i’r bwyty, trowch i’r chwith i lawr y coridor hyd nes byddwch yn cyrraedd set o ddrysau dwbl. Cerddwch drwy’r drysau hyn a bydd Uned Canser Macmillan o’ch blaen.
Ble galla’ i barcio?
Mae 11 lle parcio ar gael y tu allan i’r uned. Caiff ei gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Wrth i chi gyrraedd Uned Canser Macmillan, byddwn yn rhoi trwydded barcio i chi ei defnyddio ar y diwrnod hwnnw. Os yw’r maes parcio’n llawn, gallwch barcio ym mhrif feysydd parcio’r ysbyty.
A alla’ i ddod â pherthnasau a ffrindiau gyda mi i’r uned?
Gallwch ddod â pherthynas neu ffrind gyda chi i’r uned, ond gofynnwn eich bod ond yn dod ag un unigolyn gyda chi pan ddewch i’r ardal driniaeth. Mae hyn oherwydd problemau yn ymwneud â lle o amgylch pob cadair driniaeth. Ni chaniateir plant yn yr ardal driniaeth.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cyrraedd?
Pan ddewch i Uned Canser Macmillan, bydd gwirfoddolwr yn eich cyfarch ac yn gofyn am eich enw. Os ydych wedi parcio y tu allan i’r uned, byddwn yn rhoi trwydded barcio i chi ei gosod ar eich ffenestr (dim ond am y diwrnod hwnnw y mae’r drwydded hon yn ddilys). Byddwn yn gofyn i chi eistedd yn yr ardal aros. Pan fydd y nyrsys yn barod i’ch trin, bydd aelod o staff yn eich casglu neu’n galw eich enw o’r ardal aros ac yn dod â chi i’r ardal driniaeth.
A fyddaf yn cael bwyd a diod pan fyddaf yn yr uned?
Byddwn yn darparu brechdanau os yw’ch apwyntiad dros gyfnod amser cinio. Gallwch gael diod boeth wedi i’ch triniaeth ddechrau. Mae ffynnon ddŵr lle mae dŵr oer ar gael. Gallwch ddod â’ch bwyd a’ch diod eich hun gyda chi hefyd. A fyddech cystal â sicrhau nad yw’n arogleuo’n rhy gryf, fel wyau. Mae bwyty’n weddol agos i’r uned, lle gallwch brynu bwyd a diod.
Mae tîm craidd Uned Canser Macmillan yn cynnwys:
Rheolwr - Cathy Barker, Arweinydd Clinigol Macmillan
Dirprwy - Alison Andrews, Prif Nyrs
Nyrsys Staff - Bethan Young, Eileen Moss
Cynorthwyydd Gofal Iechyd - Lynn John
Rhif cyswllt ar gyfer Uned Canser Macmillan
Derbynfa: 01685 728833
Pwy ddylwn i ffonio os byddaf yn sâl gartref?
Mae angen i chi ffonio Canolfan Ganser Felindre os byddwch yn sâl gartref ac nid Uned Canser Macmillan. Byddwn yn esbonio hyn i chi.
Canolfan Ganser Felindre, Caerdydd 029 2061 5888
Gofynnwch am beiriant galw cemotherapi os byddwch yn sâl gartref a bod angen sylw brys arnoch ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.
Diwygiwyd mis Gorffennaf 2012