Neidio i'r prif gynnwy

Iselder Ysbryd a Hwyl Isel

Iselder Ysbryd a Hwyl Isel

Mae iselder ysbryd yn broblem gyffredin iawn a bydd llawer o bobl yn teimlo’n isel neu’n ddiflas ar brydiau. Pan fyddwch chi’n ymdopi ag effaith eich canser yn eich bywyd, gall effeithio ar bopeth - sut rydych chi’n teimlo amdanoch chi’n hun, eich bywyd, eich dyfodol a gall herio eich gallu i ymdopi â phroblemau bob dydd.

Pan fydd rhywun yn isel ei ysbryd, fel arfer mae newidiadau yn y ffordd y mae’n teimlo – ei emosiwn, sut mae’r corff yn adweithio, beth mae’n ei feddwl a sut mae’n ymddwyn. Ar ei ffurf ysgafnaf, nid yw iselder ysbryd yn ein hatal rhag byw bywyd normal, ond gall yr iselder mwyaf difrifol fygwth bywyd, gyda meddyliau am farwolaeth a hunanladdiad.

Dyma rai o’r arwyddion neu symptomau y gall fod gennych os ydych yn isel eich ysbryd:

Emosiynau neu deimladau

  • Teimlo’n drist, yn euog, yn ddideimlad neu’n anobeithiol
  • Colli diddordeb a / neu fwynhad mewn pethau
  • Crïo llawer neu fethu crïo pan fydd digwyddiad gwirioneddol drist
  • Teimlo ar eich pen eich hun hyd yn oed pan fydd cwmni gennych
  • Teimlo’n flin ac yn bigog ynglŷn â’r peth lleiaf

Arwyddion Corfforol

  • Blinder
  • Diffyg egni
  • Aflonyddwch
  • Problemau cysgu
  • Teimlo’n waeth ar adeg benodol o’r diwrnod – boreau fel arfer
  • Newidiadau mewn pwysau, archwaeth a bwyta

Meddyliau

  • Colli hyder ynddoch chi’n hun
  • Disgwyl y gwaethaf a chael meddyliau negyddol neu ddigalon
  • Meddwl fod popeth i weld yn ddiobaith
  • Meddwl eich bod yn casáu eich hun
  • Cof gwael neu fethu canolbwyntio
  • Meddyliau am hunanladdiad

Sut gall y teimladau, yr arwyddion corfforol a’r meddyliau hyn effeithio ar eich bywyd

  • Gallwch ei chael hi’n anodd gwneud y pethau symlaf hyd yn oed
  • Rydych chi’n rhoi’r gorau i wneud eich gweithgareddau arferol
  • Peidio â gwneud pethau roeddech chi’n arfer eu mwynhau
  • Eich torri’ch hun i ffwrdd oddi wrth bobl eraill

Fodd bynnag, pan fyddwch wedi cael diagnosis o ganser, gallai llawer o’r symptomau hyn ddigwydd oherwydd y canser neu’ch triniaeth. Felly, mae’n bwysig eich bod yn siarad ag un o’ch tîm meddygol i weld ai iselder ysbryd sy’n achosi’r symptomau.

Os ydych chi’n meddwl y gallwch fod iselder gennych, eich meddyg teulu yw’r un gorau i siarad ag ef/hi gyntaf. Gall awgrymu triniaeth siarad, tabledi gwrth-iselder, neu’r ddau. Gall awgrymu eich bod yn gweld gweithiwr iechyd meddwl sy’n gallu cynnig help arbenigol i chi gyda’ch problemau.

Os ydych chi’n teimlo mor isel fel eich bod wedi cael meddyliau am niweidio’ch hun, yna ewch i weld eich meddyg cyn gynted â phosib a dywedwch sut ydych chi’n teimlo, neu dywedwch wrth eich tîm Oncoleg. Byddant yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gymorth.

Sut Allai Helpu Fy Hun?

  1. Gwneud cynllun dyddiol - pan fydd pobl yn isel ni fyddant yn teimlo fel gwneud unrhyw beth yn aml. Maent yn ei chael hi’n anodd penderfynu beth i’w wneud bob dydd ac ychydig iawn y byddant yn ei wneud yn y pen draw. Dechreuwch fynd i’r afael â hyn drwy wneud rhestr o bethau rydych am eu gwneud, yna cynlluniwch restr weithredu gyda’r dasg hawsaf yn gyntaf. Peidiwch ag anelu’n rhy uchel. Gweithiwch drwy’r rhestr weithredu a thiciwch beth rydych wedi’i wneud. Ar ddiwedd y dydd byddwch yn gallu edrych yn ôl a gweld beth gyflawnoch chi. Gall ymarfer corffor helpu i godi hwyl. Gall cymysgu gyda ffrindiau, teulu a chymdogion helpu hefyd.
     
  2. Cyflawniadau a phleser – pan fydd pobl yn isel byddant yn aml yn anghofio beth maent wedi’i gyflawni a beth maent yn ei fwynhau. Ar eich cynllun gweithredu dyddiol, ysgrifennwch holl ddigwyddiadau’r diwrnod, rhowch ‘P’ yn ymyl y rhai sydd wedi rhoi pleser i chi, a ‘C’ yn ymyl y gweithgareddau hynny lle teimloch eich bod wedi cyflawni rhywbeth ac wedi gwneud yn dda. Ceisiwch beidio â bod yn rhy wylaidd - mae pobl ag iselder yn tueddu peidio â chymryd clod am eu cyflawniadau.
     
  3. ABC newid teimladau – mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n isel eu hysbryd yn meddwl bod eu bywydau mor ofnadwy fod ganddynt bob hawl i deimlo’n drist. Yn wir, daw ein teimladau o’r hyn y byddwn ni’n meddwl amdano a sut fyddwn ni’n gwneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd i ni. Ceisiwch feddwl am ddigwyddiad diweddar sydd wedi’ch poeni a gwneud i chi deimlo’n isel. Gallwch ei ddosbarthu yn dair rhan:
    A.Y digwyddiad.
    B.Eich meddyliau amdano.
    C.Eich teimladau amdano.
    Dim ond A ac C fydd y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohonynt fel arfer. Gadewch i ni edrych ar enghraifft: A bwrw bod rhywun yn y gwaith yn eich beirniadu am ddarn o waith rydych wedi’i wneud.
    A. Y digwyddiad – beirniadaeth o’ch gwaith.
    B. Eich meddyliau – Beth ydych chi’n meddwl amdano? Gall fod angen i chi ganolbwyntio i ganfod hyn. “Mae’n meddwl mod i’n dda i ddim, ac mae’n iawn, dwi’n anobeithiol”.
    C. Eich teimladau – wedi’ch brifo, teimlo embaras.

    Am ddigalon! Dim rhyfedd eich bod yn teimlo’n wael. Y pwynt pwysig ynglŷn â cheisio dod yn ymwybodol o’r tri cham hwn, A, B ac C yw y gallwn ni newid beth ry’n ni’n ei deimlo ynglŷn â digwyddiad, ac felly gallwn newid sut rydym yn teimlo yn ei gylch.
     
  4. Herio meddwl negyddol – yr enw ar un dechneg ddefnyddiol i roi cynnig arni yw ‘cydbwyso'. Pan fyddwch chi’n cael meddwl negyddol, beirniadol, cydbwyswch hynny drwy wneud datganiad mwy cywir a chadarnhaol i chi’ch hun. Er enghraifft: Gallai meddwl: “Dwi dda i ddim yn fy swydd”, gael ei gydbwyso gan: “dywedodd fy mhennaeth faint yr oedd yn gwerthfawrogi’r gwaith wnes i ddoe”
     
  5. Y dechneg colofn ddwbl - un peth arall y gallech chi wneud yw ysgrifennu eich meddyliau mewn un golofn, a gyferbyn â phob un, ysgrifennwch feddyliau mwy cytbwys. Fel hyn:
    a. Nid yw John wedi galw, nid yw’n fy hoffi i
    b. Mae’n brysur iawn ac yn meddwl mod i’n gwneud yn well nag oeddwn i’r wythnos diwethaf, felly mae’n meddwl nad oes angen iddo boeni amdana i.
     
  6. Gofalu amdanoch chi’ch hun - rhaid i chi wrthsefyll y temtasiwn i ymdopi â’ch iselder ysbryd drwy yfed alcohol, camddefnyddio meddyginiaeth neu droi at gyffuriau anghyfreithlon. Gall y rhain gynnig rhywfaint o ollyngdod ar y pryd, ond buan iawn y byddant yn creu problemau iechyd a seicolegol pellach i chi ymdopi â nhw. Bwytwch yn dda - gall deiet da eich helpu i deimlo’n llai blinedig. Ceisiwch dretio eich hun i bethau rydych chi’n eu mwynhau fel arfer.
     
  7. Datrys problemau anodd – gall datrys problemau ymddangos yn anoddach pan fyddwch chi’n teimlo’n isel. Os oes problem arbennig o anodd gennych, ceisiwch edrych yn ôl ar adeg pan allech fod wedi datrys problemau tebyg yn llwyddiannus, a defnyddiwch yr un dull nawr. Neu gofynnwch i ffrind beth fyddai’n ei wneud mewn sefyllfa debyg. Byddwch yn glir. Ysgrifennwch bob un o’ch dewisiadau posibl i lawr. Defnyddiwch dechneg ‘taflu syniadau’ – lle bydd hyd yn oed atebion sydd i weld yn wirion yn cael eu hysgrifennu i lawr i’w hystyried. Dewiswch y dull gorau.
     
  8. Siarad gyda phobl eraill – ceisiwch ddweud wrth y rhai sy’n agos atoch sut rydych chi’n teimlo. Efallai y gallant wrando a’ch helpu i feddwl pethau drwodd. Gall crïo ychydig helpu i leddfu tensiwn a gadael i bethau symud ymlaen. Efallai y cewch eich synnu i weld bod y rhai y siaradwch â nhw wedi teimlo’n isel eu hunain ar ryw adeg, a’u bod yn gallu deall sut rydych chi’n teimlo.

Ffynonellau Cymorth

Os ydych chi’n teimlo mai bach iawn o gynnydd rydych chi’n ei wneud ar ôl defnyddio’r syniadau yn y llyfryn hwn, yna mae cymorth arall ar gael i chi bob amser i oresgyn eich problem.

  • Adnoddau hunangymorth ar-lein yn rhad ac am ddim: http://www.ntw.nhs.uk/pic/selfhelp/
  • Eich meddyg teulu (efallai y cewch eich atgyfeirio at wasanaeth cwnsela’r feddygfa).
  • Cymorth Canser Macmillan: www.macmillan.org.uk neu 0808 808 0000.  Tenovus: www.tenovus.org.uk neu 0808 808 10 10.
  • Leigh Bodilly, Cydlynydd Gwybodaeth a Chymorth i Gleifion a Gofalwyr Felindre: I gael gwybodaeth am wasanaethau cymorth yn eich ardal leol – 029 20196132.
  • Mae dwy raglen grŵp gan Felindre i’ch helpu i reoli iselder ysbryd a byw gyda theimladau o ansicrwydd.
    • Y Grŵp Ymwybyddiaeth Ofalgar / The Mindfulness Group: Mae’n eich helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â meddyliau a theimladau anodd
    • Y Grŵp Byw Gydag Ansicrwydd / The Living With Uncertainty Group: Mae’n eich helpu i fyw eich bywyd mewn ffordd ystyrlon er gwaetha’r pryderon ynghylch pethau sy’n ansicr.
  • Gall eich ymgynghorydd neu arbenigwr nyrsio clinigol roi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau sydd ar gael i chi, a gofyn am atgyfeiriad at y rhaglenni grŵp neu’r tîm Seicoleg Clinigol a Chwnsela yng Nghanolfan Ganser Felindr

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae wedi’i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob 2 flynedd