Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yrru a chymryd cyffuriau lleddfu poen cryfion

Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n cymryd cyffuriau lleddfu poen cryfion ac sydd am yrru hefyd. Mae rhifau ffôn cyswllt a gwefannau defnyddiol am ragor o wybodaeth i’w cael y tu mewn i’r daflen.

 

 

Sut bydd cyffuriau lleddfu poen cryfion yn effeithio arnaf?

Gall cyffuriau lleddfu poen cryfion effeithio ar bob un mewn ffordd wahanol. Gallant eich gwneud yn swrth (cysglyd) sy’n gallu achosi i chi ymateb yn arafach na’r arfer. Gall yr effeithiau hyn fod yn waeth os ydych hefyd yn cymryd meddyginiaethau eraill sy’n gallu achosi syrthni. Gall yfed alcohol tra eich bod yn cymryd cyffuriau lleddfu poen cryfion eich gwneud yn fwy swrth hefyd.

 

 

Beth yw cyffuriau lleddfu poen cryfion?

Mae nifer o gyffuriau lleddfu poen cryfion ar gael. Ymhlith y cyffuriau lleddfu poen cryfion y mae meddygon yn eu rhoi yn aml mae:

 

Oramorph, MST, Oxynorm, Fentanyl, Oxycontin a Sevredol.

 

 

 

Cyngor ar yrru wrth gymryd cyffuriau lleddfu poen cryfion

Ni ddylech yrru am bum niwrnod o leiaf pan fyddwch yn dechrau cymryd cyffuriau lleddfu poen cryfion, neu os ydych yn newid dos y cyffuriau lleddfu poen cryfion. Weithiau mae angen mwy o amser.

 

Bydd adegau eraill pan na ddylech yrru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • os byddwch yn teimlo’n swrth
  •  os ydych wedi yfed alcohol
  • os ydych wedi cymryd dosiau ychwanegol o gyffuriau lleddfu poen cryfion ar gyfer poen weddilliol
  • os byddwch yn dechrau cymryd cyffuriau eraill a ragnodir gan eich meddyg neu os byddwch yn eu prynu o fferyllfa a allai achosi syrthni, er enghraifft, rhai mathau o feddyginaethau at glefyd gwair
  • ar ôl cymryd cyffuriau cryfion nas rhagnodwyd gan eich meddyg, er enghraifft, canabis

 

 

Pryd alla’ i ddechrau gyrru?

Os na fyddwch yn swrth ar ôl cymryd eich cyffuriau lleddfu poen cryfion am bum niwrnod, gallwch ddechrau gyrru eto. Dylai eich taith gyntaf fod:

 

Yn fyr

Ar ffyrdd rydych yn gyfarwydd â nhw

Ar adeg pan nad yw’r traffig yn rhy drwm

Mae’n bosibl hefyd y bydd yn ddefnyddiol mynd â gyrrwr profiadol gyda chi yn y lle cyntaf rhag ofn na allwch gwblhau eich taith.

 

A oes angen rhoi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os ydw i’n cymryd cyffuriau lleddfu poen cryfion?

Nac oes. Nid oes angen i chi roi gwybod i’r DVLA eich bod yn cymryd cyffuriau lleddfu poen cryfion. Fodd bynnag, gallai fod gwybodaeth arall am eich salwch y dylai’r DVLA fod yn ymwybodol ohoni. Gall eich meddyg neu’r DVLA roi rhagor o gyngor i chi yn hyn o beth.

 

 

Sut ydw i’n cysylltu â’r DVLA?

Manylion cyswllt y DVLA yw:

 

              Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

              Longview Road

              Treforys

              Abertawe

SA99 8QD

       Ffôn: 0870 600 0301

              www.dvla.gov.uk

 

Bydd angen rhif eich trwydded yrru arnoch wrth gysylltu â nhw.

 

 

 

 

 

Beth am fy nghwmni yswiriant moduro?

Dylech roi gwybod i’ch cwmni yswiriant moduro am gyflwr presennol eich iechyd, a pha feddyginiaeth rydych yn ei chymryd. Mae pob cwmni yswiriant yn wahanol. Y peth gorau i’w wneud yw trafod eich sefyllfa gyda’ch cwmni yswiriant er mwyn sicrhau bod gennych yswiriant cymwys.

 

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, bydd eich meddyg teulu neu aelod o’ch tîm o feddygon a nyrsys Gofal Lliniarol yn fwy na pharod i drafod unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ac i’ch helpu i benderfynu pan fydd yn ddiogel i chi yrru.

 

Rhifau ffôn cyswllt

 

Canolfan Ganser Felindre         029 2061 5888

 

Meddygaeth Liniarol                 029 2061 5888 est.  6838

 

Adran fferyllol                           029 2061 5888 est. 6223

(Llun – Gwener 9am – 5pm)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a geir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Cafodd ei chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob dwy flynedd.

 

 

 

Paratowyd Ionawr 2005    

Adolygwyd Awst 2010