Treialon clinigol
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth am dreialon clinigol. Mae’n esbonio ystyr treialon clinigol ac yn trafod y manteision a’r anfanteision posibl a allai ddeillio o gymryd rhan mewn treial. Mae rhifau ffôn cyswllt ar gyfer yr Uned Treialon Clinigol i’w cael ar ddiwedd y daflen.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre gyfrifoldeb i gynnig i gleifion y driniaeth fwyaf effeithiol sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae’r driniaeth hon fel arfer yn hysbys fel triniaeth safonol. Mae gennym rwymedigaeth hefyd i ddarpar gleifion i helpu i ddatblygu triniaethau newydd a gwell.
Pam mae treialon clinigol ar gael?
Mae datblygiadau ym maes triniaeth ganser wedi digwydd gan fod miloedd lawer o gleifion wedi cymryd rhan yn yr ymchwil. Gallwn ond barhau i wella triniaeth canser at y dyfodol os bydd cleifion yn cytuno i gymryd rhan mewn ymchwil heddiw.
Beth yw treial clinigol?
Mae angen profi y tu hwnt i bob amheuaeth fod triniaethau newydd yn effeithiol. Mae treial clinigol yn ffordd wyddonol o astudio triniaethau newydd neu ffyrdd newydd o roi triniaethau sy’n bodoli eisoes.
Mae treial clinigol yn un o’r camau olaf mewn proses ymchwil canser hir a gofalus. Caiff astudiaethau eu cynnal gyda chleifion canser i ganfod p’un a yw ffyrdd newydd o atal, o roi diagnosis ac o drin canser yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae Canolfan Ganser Felindre yn ganolfan flaenllaw ar gyfer treialon clinigol. Mae ein Huned Treialon Clinigol wedi cynnal dros 100 o dreialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol. Caiff yr holl dreialon eu cymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Lleol. Mae’r pwyllgor hwn yn cynnwys meddygon, gweithwyr meddygol proffesiynol a phobl o gefndiroedd gwahanol. Maent yn edrych ar bwysigrwydd a doethineb pob treial i amddiffyn cleifion rhag treialon anfoesol.
Mae llawer o dreialon yn cymharu triniaeth newydd â’r driniaeth fwyaf effeithiol sydd ar gael ar y pryd. Mewn treial, mae hyn yn golygu y bydd rhai cleifion yn cael triniaethau newydd a bydd rhai’n cael y triniaethau safonol. Dylai cleifion sy’n cael y triniaethau safonol gofio bod eu triniaeth gystal â’r driniaeth y byddent yn ei chael pe na baent mewn treial clinigol.
Beth mae’n golygu i mi?
Mae i bob treial feini prawf cymhwyster penodol iawn. Mae’n bosibl y gofynnir i chi ystyried cymryd rhan mewn treial clinigol os oes un sy’n addas ar gyfer eich diagnosis a’ch triniaeth. Bydd y nyrs ymchwil yn esbonio hyn i chi.
Mae cymryd rhan mewn treial clinigol yn gwbl wirfoddol. Byddwn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y treial. Gallwch ofyn cwestiynau a thrafod y treial gyda’ch teulu cyn i chi benderfynu a fyddech am gymryd rhan.
Ni fydd eich penderfyniad yn effeithio ar safon y gofal y byddwch yn ei gael. Os nad ydych am gymryd rhan, byddwch yn parhau i gael y safon uchaf o ofal a’r driniaeth fwyaf priodol sydd ar gael ar y pryd.
Beth yw’r manteision sy’n gysylltiedig â chymryd rhan?
Beth yw’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chymryd rhan?
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ragor o wybodaeth am dreialon clinigol, gofynnwch i’ch meddyg yn yr ysbyty neu cysylltwch â’r staff ymchwil perthnasol ar y dudalen nesaf.
Rhifau cyswllt yr Uned Treialon Clinigol
Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888
Rheolwr yr Uned: Jane Darmanin Est. 6110
Gweinyddydd yr Uned: Cindy Langford Est. 6222
Cynorthwy-ydd Ymchwil: Jamie Morgan Galwr 218
Nyrs Cyswllt Ymchwil: Rhianydd Jones Galwr 197
Tîm Canser y Fron (Galwr 225)
Arweinydd Ymchwil: Clare Boobier Est. 6986
Nyrs Ymchwil: Karen Davies a Sarah Fry Est. 6962
Gweinyddydd: Hana Wilbraham Est. 6479
Tîm Wroleg / Melanoma (Galwr 152)
Arweinydd Ymchwil: Clare Boobier Est. 6986
Nyrs Ymchwil: Joanne Preece a Sarah Fry Est. 6311
Gweinyddydd: Lucy Wilbraham Est. 6312
Tîm y Colon a’r Rhefr / Gastroberfedd Uchaf (Galwr 131)
Arweinydd Ymchwil: Amanda Jackson Est. 6550
Nyrs Ymchwil: Kathy Bishop a Deborah Jones Est. 2285
Gweinyddydd: Angela Kitto Est. 2286
Tîm yr Ysgyfaint / Lymffoma (Galwr 105)
Arweinydd Ymchwil: Amanda Jackson Est. 6550
Nyrs Ymchwil: Nikki Coates Est. 2298
Gweinyddydd: Caroline Vitalo Est. 6551
Tîm Gynaecoleg (Galwr 166)
Arweinydd Ymchwil: Amanda Jackson Est. 6550
Gweinyddydd: Caroline Vitalo Est. 6551
Adolygwyd Mawrth 2010