Cefnogi eich Plant Pan fydd Canser Gennych
Gall diagnosis o ganser achosi llawer o emosiynau a phryderon. Un pryder i rai cleifion yw sut i siarad â’u plant ynglŷn â’u salwch. Mae plant yn dda iawn o ran sylwi ar newidiadau a gwybod pan fydd rhywbeth difrifol yn effeithio ar y teulu. Efallai y sylwant ar sgyrsiau’n cael eu sibrwd, galwadau ffôn neu bobl yn mynd a dod.
Ni allwch chi amddiffyn eich plant rhag teimlo’n drist, ond mae’r rhan fwyaf o blant yn gallu ymdopi â’r wybodaeth pan ddywedwch wrthynt beth sy’n digwydd. Gall bod yn onest a chynnwys eich plant yn yr hyn sy’n digwydd roi cyfle i’ch plant ofyn cwestiynau a siarad am eu pryderon - eu helpu i deimlo’n llai pryderus, eu bod yn cael eu cefnogi mwy a’ch helpu chi gyd i deimlo’n agosach. Gall hefyd eu helpu i ymdopi yn y tymor hwy pan na fydd bywyd yn mynd yn unol â’r cynllun.
Plant Iau
Er mai ychydig y bydd plant ifanc yn ei ddeall am salwch efallai, maent yn fwy ymwybodol o wahanu a tharfu ar y drefn arferol. Mae plant yn meddwl yn hudol - maent yn credu bod dymuniadau’n gallu dod yn wir ac y bydd cusan yn gwneud popeth yn well eto. Gallant hyd yn oed gredu mai nhw sydd wedi’ch gwneud chi’n sâl am eu bod wedi bod yn ddrwg. Gall fod ofn ar rai plant i ddangos i chi eu bod yn teimlo’n ofnus neu’n unig. Nid ydynt eisiau crïo, maent am fod yn ddewr rhag iddynt eich poeni chi. Gall plant ifanc gwyno o boen bol yn aml, gallant fynd i lynu mwy wrthoch chi neu ymddwyn yn ddrwg gartref neu yn yr ysgol.
Plant Hŷn
Gall plant hŷn ddefnyddio ffrindiau yn fwy na theulu weithiau i gael cefnogaeth a chysur, a gall hynny wneud iddynt ymddangos yn ddifater - fodd bynnag, mae ond yn dangos pwysigrwydd eu ffrindiau. Maent mewn cam o’u bywyd pan maent yn symud yn naturiol i ffwrdd oddi wrth fywyd teuluol ac yn creu eu hannibyniaeth eu hunain. Gallant ddangos dig a dicter os oes ganddynt lai o amser i’w dreulio’n gwneud gweithgareddau y tu allan i’r ysgol neu lai o amser gyda’u ffrindiau oherwydd newidiadau i arferion teuluol yn sgil eich salwch.
Gall rhai plant yn eu harddegau ymgymryd â chyfrifoldeb ychwanegol yn hwylus, gall rhai ymddangos eu bod yn tyfu i fyny’n rhy gyflym ac i rai, gall gwrthdaro godi os caiff eu cyfrifoldebau newydd yn cael eu tynnu oddi arnynt wrth i chi ddechrau teimlo’n well.
Rydych chi’n adnabod eich plant yn well nag unrhyw un arall, ac mae penderfynu ynglŷn â dweud wrthynt am eich canser neu beidio yn benderfyniad anodd iawn. Gallwch boeni ynglŷn â dweud y peth anghywir, tarfu ar fywyd eich teulu neu y bydd wynebu gofid eich plentyn, yn ogystal ag ymdopi â’ch gofid chi, yn llethol. Gallai’r wybodaeth ganlynol eich helpu i wneud y penderfyniad hwnnw a’ch helpu i gefnogi eich plant drwy gyfnod eich salwch.
Cynghorion Cadarn ar gyfer Cefnogi Eich Plant
Gall dweud wrth eich plant am y canser wneud yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt mewn ffordd sy’n ddiogel a dealladwy. Gall hefyd eu helpu i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth, yn hytrach na theimlo’n bryderus, ac mae’n sicrhau nad ydynt yn dod i wybod gan rywun arall yn gyntaf. Gall y syniadau canlynol eich helpu i deimlo ychydig yn fwy parod ar gyfer hyn:
- Dewiswch amser a lle, lle byddwch chi a’ch plentyn yn teimlo wedi ymlacio a gallu siarad/gwrando, lle nad oes pethau i dynnu’ch sylw na tharfu arnoch chi. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o amser (e.e. nid yn union cyn mynd i’r gwely) a dywedwch wrth frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd os oes modd, i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod yr un peth.
- Dechreuwch siarad am eich salwch. Nid yw bod yn onest yn golygu dweud popeth - mae'n golygu dweud y gwir. Yn gyffredinol, mae plant yn gwybod pan fydd rhywbeth o’i le. Nid yw diffyg gwybodaeth neu esboniad yn eu hamddiffyn, gan y gall eu syniad nhw o beth sydd o’i le fod yn llawer mwy brawychus weithiau na’r hyn yw’r sefyllfa mewn gwirionedd.
Dechreuwch gydag esboniad syml a gweld pa gwestiynau neu bryderon sy’n codi. Cysurwch eich plentyn ynglŷn â’ch salwch heb wneud addewidion. Er enghraifft, “Mae’r meddygon yn gobeithio y bydd y driniaeth yn helpu Dad i wella”. Mae hefyd yn bwysig rhoi gwybod i’ch plant y byddan nhw’n cael gofal beth bynnag sy’n digwydd.
- Defnyddiwch y gair canser. Gallwch boeni ei bod yn well peidio â defnyddio’r gair “canser” efallai wrth siarad â’ch plant. Fodd bynnag, gallant ddrysu’n hawdd os na chaiff pethau eu hesbonio’n glir iddynt, felly mae’n bwysig eich bod, wrth ddweud wrthynt am eich diagnosis, yn defnyddio’r gair ‘canser’ a rhoi eich dealltwriaeth orau o’r hyn a all ddigwydd.
Er enghraifft, “Mae lwmp yn ei fol gan dad, a’r enw arno yw canser. Mae’r meddygon a’r nyrsys yn mynd i roi meddyginiaeth arbennig at ganser i geisio gwneud dad yn well”. Gall rhannu teimladau, emosiynau a gwybodaeth gryfhau’r cwlwm rhyngoch chi a’ch plant, a’ch gwneud hyd yn oed yn agosach fel teulu.
- Esboniwch nad eu bai nhw ydyw. Mae plant iau yn poeni weithiau y gallan nhw fod wedi achosi’r salwch. Sicrhewch nhw nad yw’r canser wedi’i achosi gan unrhyw beth y maen nhw neu unrhyw un arall wedi’i wneud. Mae risg y bydd plant yn clywed gan rywun arall; nid yn unig y gallai hynny niweidio’r berthynas ymddiriedol sydd gennych, ond gallai arwain at glywed y wybodaeth anghywir ac achosi mwy orbryder iddynt.
- Esboniwch nad ydynt yn gallu ‘dal’ y canser. Mae’n fuddiol sicrhau eich plant nad yw canser yn heintus a’i fod yn ddiogel iddynt fod gyda chi neu’r sawl sydd â chanser.
- Esboniwch sut gallwch chi gadw mewn cysylltiad os bydd angen i chi fynd i mewn i’r ysbyty. Os oes rhaid i chi aros yn yr ysbyty, gall eich plant boeni ynglŷn â bod i ffwrdd oddi wrthych. Gall cadw mewn cysylltiad helpu eu cysuro nad yw’r salwch yn effeithio ar faint rydych chi’n eu caru nhw.
Anfonwch neges destun neu e-bost, neu trefnwch amser i ffonio bob dydd - gall hyn helpu i gysuro’ch plant a’u hannog i ymweld. Os ydynt yn arfer eich cael chi’n darllen iddynt bob nos, recordiwch eich hun yn darllen rhai o’u hoff lyfrau fel eu bod yn gallu gwrando arnynt gartref.
- Anogwch gwestiynau. Gadewch i’ch plant wybod ei bod hi’n iawn i ofyn unrhyw gwestiynau a pheidiwch â bod ofn dweud, "Dwi ddim yn gwybod." Efallai y bydd eu cwestiynau eu hunain gan blant ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd, ond eu bod ofn gofyn am eu bod yn gwybod nad yw’r oedolion eisiau siarad am bethau. Bydd rhoi’r esboniad gorau y gallwch, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch plant am eich salwch, yn helpu eu cysuro, a hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt rannu’u pryderon gyda chi.
- Esboniwch unrhyw driniaethau y gallech eu cael. Mae llawer o blant yn drysu rhwng sgîl-effeithiau triniaeth â symptomau neu arwyddion y canser. Er enghraifft, efallai y byddant yn pryderu y gallai sgîl�effeithiau cemotherapi, fel gorflinder, cyfog, a chwydu, olygu bod y salwch yn gwaethygu.
Esboniwch, er y gall y driniaeth achosi nifer o sgîl�effeithiau anodd, ei bod yn gweithio i’ch helpu chi i wella. Gall canser a thriniaeth canser effeithio ar eich golwg, felly mae’n fuddiol esbonio unrhyw newidiadau corfforol posibl fel colli gwallt cyn iddo ddigwydd, fel eu bod yn gallu paratoi’n well.
- Esboniwch newidiadau yn nhrefn arferol y teulu. Ceisiwch gadw trefn arferol eich plant mor gyson ag y bo modd, ond cydnabyddwch y gall rhai pethau fod yn wahanol. Mae angen iddynt wybod ei bod yn dal yn iawn i fynd i’r gweithgaredd maent yn ei fwynhau, fel nofio, neu gael ffrindiau i de.
- Anogwch eich plant i siarad â phobl eraill hefyd. Er enghraifft, helpwch nhw i ddewis ffrind, athro, aelod o’r teulu neu rywun arall y maent yn ymddiried ynddynt y gallant siarad â nhw a chefnogwch nhw wrth wneud hynny.
Gall fod o gymorth mawr i roi gwybodaeth gyson i ysgol eich plentyn am y sefyllfa, fel eu bod nhw’n gallu cefnogi eich plentyn hefyd - yn enwedig os oes ganddynt arholiadau neu ddigwyddiadau pwysig eraill yn dod i fyny. Cofiwch roi gwybod i’r athro hefyd faint o wybodaeth rydych am i bobl eraill ei chael.
- Cofiwch ddal i fwynhau bod yn deulu! Ceisiwch gadw at eich trefn arferol gymaint â phosibl, a chadwch eich terfynau arferol er mwyn helpu’ch plant i deimlo’n ddiogel a sicr. Rhowch ganmoliaeth i’ch plant a cheisiwch allu parhau i ddeall os ydyn nhw’n stryffaglu hefyd. Yn bwysicach na dim, cofiwch barhau i gael hwyl gyda’ch gilydd!
Ffynonellau Cymorth
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch gefnogi eich plant drwy eich salwch, gallwch gael y wybodaeth a’r gwasanaethau canlynol:
- Cymorth Canser Macmillan: www.macmillan.org.uk neu 0808 808 00 00. Mae’r llyfryn gan Macmillan “Talking to children and teenagers when an adult has cancer” yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol.
- Mae rhestrau darllen ac adnoddau ar gael i’ch helpu i esbonio ynglŷn â’ch canser i’ch plant.
- Mae Rhaglen Cymorth a Gwybodaeth Canser Felindre yn cynnwys sesiwn wybodaeth am gefnogi’ch plant drwy salwch.
- Mae gwasanaeth Felindre “Cefnogi plant drwy salwch / Supporting children through illness” yn darparu grwpiau rhieni hefyd i gael cefnogaeth ychwanegol.
- Gall eich ymgynghorydd neu arbenigwr nyrsio clinigol roi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau sydd ar gael i chi, a gofyn am atgyfeiriad at y rhaglenni grŵp neu’r tîm Seicoleg Clinigol a Chwnsela yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Ysgrifennwyd y daflen hon gan weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn y daflen hon wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae wedi’i chymeradwyo gan feddygon, nyrsys a chleifion. Caiff ei hadolygu a’i diweddaru bob 2 flynedd.
Paratowyd Hydref 2014