Mae gan Ganolfan Ganser Felindre hen hanes o ddarparu gwasanaethau Gofal Ambulatory wedi’u cynllunio neu heb eu cynllunio. Rydym yn darparu'r ymyriadau hyn fel rhan o'r gwasanaeth oncoleg a Therapi Gwrth-ganser Systemig (SACT) cyffredinol.
Agorwyd yr Uned Cymorth Cleifion yn 2019. Prif bwrpas yr uned ydy darparu cefnogaeth ac ymyriadau amlddisgyblaethol i gleifion sydd â chanser y pen a'r gwddf sy'n cael triniaeth ddwys gyda cemo-radiotherapi. Nod yr uned yw osgoi derbyn pobl i’r ysbyty lle bo hynny'n bosibl, a lleihau hyd yr arhosiad i gleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty. Ein nod yw sicrhau hefyd nad yw cleifion yn mynd i fethu â symud yn ystod eu triniaethau SACT a radiotherapi.
Yn unol â gwasanaethau eraill a pholisi iechyd, rydym wedi gweld twf cyson yn yr angen am driniaethau dydd. Yn dilyn ein cais llwyddiannus am Ofal Argyfwng yr Un Diwrnod (SDEC) i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021, sicrhawyd cyllid i ffurfioli a datblygu ein gwasanaethau ymhellach.
Mae Gofal Ambulatory bellach yn cael eu darparu yn ardal yr Uned Gemotherapi i Gleifion Mewnol Cemotherapi, a bydd yr Uned Cymorth Cleifion a’r Uned Gofal Ambulatory yn rhannu’r un gofod clinigol. Mae ein gwasanaethau Gofal Ambulatory yn gweithio gyda’i gilydd fel un gwasanaeth - yr ‘Uned Gofal Ambulatory.’ Mae'r uned yn gweithio i atal cleifion rhag gorfod aros yn yr ysbyty ac i gefnogi cleifion, fel y gallant barhau i dderbyn eu triniaeth yn ôl y bwriad a heb ymyriad. Mae'r Uned Gofal Ambulatory yn gweithio ochr yn ochr â'n huned Asesu Oncoleg Acíwt hefyd. Mae'r uned hon yn darparu asesiad cyflym, ac yn archwilio a thrin cleifion sydd â chyflyrau oncolegol brys neu gyflyrau meddygol cysylltiedig.
Nyrsys Arwain yr Uned:
Uwch-nyrs Alice Groves
Uwch-nyrs Sophie Tipping
Rheolwr y Ward:
Uwch-nyrs Rhian Hathaway
Uwch-nyrs:
Matthew Walters
Uned Gofal Ambulatory: Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 7.30am-8pm.
Penwythnos: Ar agor ar ddydd Sul, 9am - 5pm. (Bydd yr oriau yn ymestyn i ddydd Sadwrn yn ôl yr angen am y gwasanaeth.)