Mae ein fferyllfa wedi ei lleoli ger yr uned gemotherapi yn Felindre. Rydym yn darparu gwasanaeth fferyllol lawn i’r ganolfan ganser.
Darperir gwasanaeth gweinyddu a fferyllfa glinigol hefyd i Holme Towers ac i Ganolfan Marie Curie ym Mhenarth.
Mae rhagnodwyr annibynnol nad ydynt yn fferyllwyr meddygol yn gweithio fel rhan o’n timau, yn adolygu cleifion ac yn asesu eu haddasrwydd o ran parhau gyda chemotherapi. Mae rhagnodwyr annibynnol nad ydynt yn fferyllwyr meddygol yn rhagnodi cemotherapi a meddyginiaeth gefnogol ar gyfer grŵp eang o gleifion gan gynnwys y rhai hynny sydd â chanser y fron a chanser y colon.
Arweinyddiaeth ar gyfer cynnal y system rhagnodi electronig, ChemoCare. Caiff pob trefn gemotherapi ei rhagnodi’n electronig a chyfrifoldeb ein Fferyllfa yw sicrhau bod pob trefn gyffuriau a roddir ar y system yn gywir ac yn ddiweddar. Rydym hefyd yn hyfforddi’r holl staff meddygol ar sut i’w defnyddio.
Darparu cemotherapi a meddygaeth gefnogol i ysbytai allgymorth Canolfan Ganser Felindre.
Prynu, storio a dosbarthu’r holl gyffuriau, rhwymynnau sych ac arbenigol, nwyon meddygol, ychwanegion bwyd a deunydd fferyllol.
Rydym yn paratoi dros 25,000 o eitemau bob blwyddyn ac mae hyn yn ffurfio’r mwyafrif o’n gwaith. Mae gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) bolisïau llym o ran sut
mae gwasanaethau’n cael eu gweithredu. Caiff cyfleusterau, personél a swyddogaethau eu rheoleiddio i gyd. Mae gan yr MHRA yr awdurdod i gofnodi gwaith papur ynglŷn â chynnal a chadw cyfarpar, tystiolaeth am sefydlogrwydd (dyddiadau dod i ben) a dogfennaeth ar gyfer pob eitem a baratoir yn ofalus iawn.
Mae angen gwneud llawer o waith i gyflawni hyn. I rywun allanol, efallai bydd hyn yn ymddangos yn gymhleth iawn; fodd bynnag, mae cemegau gwenwynig iawn yn cael eu gweini i gleifion bregus iawn. Gallai canlyniadau hyd yn oed y camgymeriad lleiaf fod yn farwol. Mae gan yr MHRA y pŵer i gau unrhyw gyfleuster nad ydynt yn fodlon arno.
Ar unrhyw adeg benodol, gall tua 80 o dreialon fod yn cael eu cynnal gyda llawer mwy ar y ffordd. Mae’n rhaid asesu pob treial ar gyfer goblygiadau llwyth gwaith a chost. Pan gaiff treial ei gymeradwyo gan yr asiantaethau rheoleiddio, cynhyrchir canllaw rhagnodi manwl. Mae hyn yn sicrhau yr ymdrinnir â phob manylyn o’r broses. Wedyn, caiff pob trefn ar gyfer treialon clinigol ei hychwanegu at y system rhagnodi electronig ChemoCare. Mae hyn yn sicrhau y caiff ei ragnodi’n ddiogel a’i weini’n gywir yn unol â rheoliadau’r treial a’r cyrff llywodraethu.
I gael rhagor o wybodaeth am yr adran fferylliaeth, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi ar gyfer Fferyllwyr, ewch i http://www.pharmacy.wales.nhs.uk (dolen allanol-Saesneg yn unig)