Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Partneriaeth Cleifion a Gofalwyr

Two people smile during a conversation in the park.

Beth yw'r Bwrdd Partneriaeth Cleifion a Gofalwyr?

Mae'r Bwrdd Partneriaeth Cleifion a Gofalwyr yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi'i gynllunio i gynrychioli a hyrwyddo barn y rhai sydd â phrofiad bywyd o ganser. Ein prif rôl yw darparu fforwm i drafod a chael mewnbwn i wasanaethau'r presennol a'r dyfodol.

Wedi’i sefydlu yn 2002, y bwrdd yw’r llais sy’n rhwymo y bobl a’r proffesiwn, gan greu sgwrs ddwy ffordd gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr ac aelodau o’u teuluoedd yn cael eu hystyried yn ofalus wrth wneud penderfyniadau. Mae'r bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth â'n timau i gefnogi, deall ac esblygu eu gwaith.

Anogir aelodau i fod yn rhagweithiol wrth wrando ar farn gyfredol ein cleifion a'n gofalwyr cyn codi sylwadau a phryderon gyda'r rheolwyr er mwyn helpu i wella gwasanaethau'n barhaus.

Mae aelodau'r Bwrdd Partneriaeth Cleifion a Gofalwyr yn dylanwadu ar newid.

Ydy hyn yn iawn i mi?

Mae aelodau ein Bwrdd Partneriaeth Cleifion a Gofalwyr yn unigolion angerddol a dibynadwy sy’n gallu dadlau’n hyderus dros eraill. Gan ddefnyddio eu profiad bywyd eu hunain, a'r safbwyntiau a rennir gan eraill, gallant gydweithio â'n staff i argymell gwelliannau yn seiliedig ar eu dealltwriaeth o'r boblogaeth cleifion.

Gall fod yn anodd clywed profiadau a barn cleifion presennol a chyn-gleifion, yn enwedig os oes gennych chi gysylltiad eich hun â Felindre. Ein prif flaenoriaeth yw lles ein haelodau felly, byddem yn eich annog i fod yn agored ac yn onest ynghylch a yw hwn yn gyfle priodol i chi ar yr adeg hon.

Er mwyn sicrhau bod ein bwrdd yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad cyfredol neu ddiweddar o wasanaethau canser yng Nghymru (gallai hyn fod hyd at 5 mlynedd i nawr). Rydym hefyd yn chwilio am ystod o unigolion sy'n cynrychioli gwahanol gefndiroedd, cymunedau a diwylliannau.

Beth yw cwmpas y rôl?

Bydd aelodau yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis, wyneb yn wyneb yn Felindre i adolygu a thrafod y pynciau diweddaraf. Bydd pob aelod yn cael y cyfle i ddod yn gynrychiolydd cleifion a gofalwyr ar fyrddau dethol, siarad mewn digwyddiadau hyfforddi staff ac ymgysylltu'n rheolaidd â'n cymuned cleifion a gofalwyr presennol trwy ein 'Safle Gwrando'.

Sut mae gwneud cais?

I fynegi eich diddordeb mewn dod yn aelod o’n Bwrdd Partneriaeth Cleifion a Gofalwyr, llenwch y ffurflen fer hon os gwelwch yn dda.

Yn dilyn hyn, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu coffi anffurfiol i drafod y bwrdd a’ch profiad yn fwy manwl. Mae’r cyfarfod hwn yn gyfle i chi weld a yw’r cyfle hwn yn addas i chi ac i ni ddeall yn well pa safbwynt y gallech ei gynnig i’r bwrdd.

Os ydych yn dal yn dymuno parhau, a bod eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cynnig gwahoddiad ffurfiol i chi ddod yn aelod.

Canolfan Ganser Felindre, Heol Felindre, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2TL
Ffôn: 029 2061 5888