Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeiriadau i Uned Gymorth Nantgarw

09/09/24
Car (o'r dwyrain/gorllewin)
  • Ewch oddi ar yr M4 ar gyffordd 32 a dilynwch yr arwyddion am Ferthyr Tudful a'r A470.
  • Daliwch ati ar yr A470 nes i chi gyrraedd yr allanfa am Ystad Ddiwydiannol Trefforest a Chaerffili.
  • Wrth y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ar yr A4054 (Ystad Ddiwydiannol Trefforest).
  • Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch y drydedd allanfa ar Heol Crochendy.
  • Wrth y gylchfan nesaf (KFC), cymerwch y drydedd allanfa ar Heol-yr-Odyn, yna cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i mewn i Barc Nantgarw.
  • Daliwch ati heibio Showcase Cinema a Tenpin.
  • Bydd Uned Gymorth Nantgarw (uned las) ar y dde.
09/09/24
Car (o'r gogledd)
  • Dilynwch yr A470 i'r de tua Nantgarw.
  • Cymerwch yr allanfa am yr A468/A4054, Caerffili a Ffynnon Taf.
  • Wrth y gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa am yr A4054 (Ystad Ddiwydiannol Trefforest).
  • Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch y drydedd allanfa ar Heol Crochendy.
  • Wrth y gylchfan nesaf (KFC), cymerwch y drydedd allanfa ar Heol-yr-Odyn, yna cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i mewn i Barc Nantgarw.
  • Daliwch ati heibio Showcase Cinema a Tenpin.
  • Bydd Uned Gymorth Nantgarw (uned las) ar y dde.
09/09/24
Car (o'r de/Caerdydd)
  • Dilynwch yr A470/Heol y Gogledd allan o ganol dinas Caerdydd.
  • Daliwch ati ar yr A470 nes i chi gyrraedd yr allanfa am Ystad Ddiwydiannol Trefforest a Chaerffili.
  • Wrth y gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ar yr A4054 (Ystad Ddiwydiannol Trefforest).
  • Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch y drydedd allanfa ar Heol Crochendy.
  • Wrth y gylchfan nesaf (KFC), cymerwch y drydedd allanfa ar Heol-yr-Odyn, yna cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i mewn i Barc Nantgarw.
  • Daliwch ati heibio Showcase Cinema a Tenpin.
  • Bydd Uned Gymorth Nantgarw (uned las) ar y dde.
09/09/24
Trên

Yr orsaf drên agosaf i'r uned gymorth yw Ystad Trefforest, sydd ar ddwy linell o Gaerdydd: i Dreherbert ac i Ferthyr Tudful.

Sylwch fod oddeutu 25 munud o gerdded o'r orsaf drên i'r uned gymorth gan ddilyn Willowford Road, Powys Road, Main Avenue a Heol Crochendy.

09/09/24
Bws

Mae gwasanaethau bws rheolaidd i Nantgarw yn cael eu gweithredu gan ddau gwmni. Mae'r gwasanaeth yn stopio ddwy funud o gerdded o'r uned:

  • Stagecoach South Wales
    • Rhif 120 Pontypridd/Caerffili - Blaencwm/Blaenrhondda
  • Edwards Coaches
    • Rhif 400, Caerdydd – Gwaunmiskin

Mae'r bysiau hyn yn stopio ar Heol Crochendy ger Frankie & Benny's ym Mharc Nantgarw.

Am amserlenni a thocynnau, ewch i wefan Traveline. Gwiriwch yr wybodaeth ac amserlenni cyfredol gyda'r darparwyr lleol.