Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid Academi ARC

Mae’r academi newydd Advancing Radiotherapi Cymru (ARC) yn galw am geisiadau. Gwahoddir cynigion ar gyfer prosiectau radiotherapi sy'n anelu at wella triniaeth i gleifion canser ledled Cymru.

Mae ARC yn rhaglen Cymru gyfan sy'n cefnogi gweithio ar y cyd ar brosiectau sy'n gwella ansawdd bywyd i gleifion ac yn lleihau amrywiadau ac anghydraddoldeb yn narpariaeth gwasanaeth radiotherapi.

Anogir ceisiadau gan brosiectau sy'n gweithio'n rhanbarthol ac yn genedlaethol ac sy'n gorfod cyd-fynd ag un neu fwy o bum thema ARC.

Y themâu yw:

  • Cefnogi arloesedd o fewn triniaeth radiotherapi, gwella triniaethau a gwasanaethau sydd o fudd i gleifion ledled Cymru.  
  • Hyfforddi’r gweithlu radiotherapi amlddisgyblaethol ledled Cymru, gan gefnogi datblygiadau gwasanaeth o fewn y llwybr triniaeth radiotherapi ledled Cymru.
  • Cefnogi prosiectau ymchwil radiotherapi â ffocws clinigol.
  • Ehangu mynediad cleifion at y gwasanaeth SABR.
  • Ehangu'r gwasanaeth radiolawfeddygaeth stereotactig.

 

“Rydym yn falch iawn o fod ar agor i geisiadau. Mae Academi ARC yn gyfle gwych i gydweithio ledled Cymru ar brosiectau radiotherapi arloesol a diddorol a fydd yn dod â buddion i gleifion a chydweithwyr fel ei gilydd.” Dr James Powell, Arweinydd Clinigol ARC

 

Proses ymgeisio

Croesewir ceisiadau trwy gydol y flwyddyn gyda dau ddyddiad cau, ac ar ôl hynny byddwn yn ystyried yr holl geisiadau a dderbynnir yn y cyfnod hwnnw.

Ddydd Gwener 31Mai 2024 Ceisiadau bellach wedi cau am y cyfnod hwn.

Dydd Mercher 16 Hydref 2024

Mae templed achos busnes ARC i'w ddefnyddio ar gyfer pob cyflwyniad. Bydd y broses ymgeisio yn gofyn am adolygiad a chefnogaeth gan sefydliadau lletyol yr ymgeiswyr, Grŵp Cynghori ARC a chymeradwyaeth gan Fwrdd ARC.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael templed achos busnes ARC, cysylltwch â: ARCAcademy@wales.nhs.uk

Proses ymgeisio am gyllid Academi ARC

 

Academi ARC

Ym mis Gorffennaf 2023 derbyniodd Felindre £1.5 miliwn gan Sefydliad Moondance a gafodd swm cyfatebol o £3 miliwn gan Gronfeydd Elusennol Felindre i sefydlu’r Academi Advancing Radiotherapi Cymru

Mae'r Academi ARC yn rhaglen Cymru gyfan sy'n cefnogi arfer gorau mewn radiotherapi trwy ddatblygiadau gwasanaethau clinigol, recriwtio, datblygu a hyfforddi'r gweithlu, ac ymchwil radiotherapi clinigol er budd yr holl gleifion sy'n cael radiotherapi yng Nghymru.

Am yr Academi ARC