Rydym yn ymwybodol nad yw'r dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn cydymffurfio â'r Safonau Hygyrchedd Digidol. Os hoffech gael mynediad i fformat arall, cysylltwch â velindre.communications@wales.nhs.uk. Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd yma.
Pwrpas Is-bwyllgor Adolygu Perfformiad y Cronfeydd Buddsoddi Elusennol ("y Pwyllgor") yw ymgymryd â'r tasgau canlynol ar ran y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol
- Sicrhau bod Ymddiriedolwyr, wrth fuddsoddi cronfeydd elusennol, yn cyflawni cydbwysedd priodol i'r Elusen rhwng y ddwy amcan sef:
a) Darparu incwm i helpu'r Elusen i gyflawni ei dibenion yn effeithiol yn y tymor byr; a
b) Cynnal ac, os yw'n bosibl, gwella gwerth yr arian a fuddsoddwyd, er mwyn galluogi'r Elusen i gyflawni ei diben yn y tymor hwy
- Sicrhau bod y safonau canlynol fel y'u diffinnir yn Neddf yr Ymddiriedolwyr yn cael eu dilyn, p'un a ydynt yn defnyddio'r pwerau buddsoddi yn y Ddeddf honno ai peidio:
a) Bod yr Elusen yn cyflawni ei dyletswydd gofal cyffredinol (fel y disgrifir yn adran 1 o'r Ddeddf Ymddiriedolwyr), sef y ddyletswydd i arfer gofal a sgil o'r fath ag sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau. Mae hyn yn berthnasol i'r defnydd o unrhyw bŵer buddsoddi ac i gyflawni'r dyletswyddau penodol y mae'r Ddeddf yn eu hatodi i'r defnydd o bwerau buddsoddi.
b) Yn ail, bod yr Elusen yn cydymffurfio â'r dyletswyddau penodol canlynol:
- Mae’n rhaid i Ymddiriedolwyr ystyried addasrwydd unrhyw fuddsoddiad i'r Elusen. Mae'r ddyletswydd hon yn bodoli ar ddwy lefel. Mae’n rhaid i'r Ymddiriedolwyr fod yn fodlon bod y math o unrhyw fuddsoddiad arfaethedig (e.e. cronfa fuddsoddi gyffredin neu gyfrif adneuo) yn iawn i'r Elusen. Mae dyletswydd arnynt hefyd i ystyried a yw buddsoddiad penodol o'r math hwnnw yn un addas i'r Elusen ei wneud, yn seiliedig ar y polisi buddsoddi cyffredinol a bennwyd gan Ymddiriedolwyr y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol , ar y ddwy lefel, ceisiwch ystyried yr ystod gyfan o opsiynau buddsoddi sy'n agored iddynt; bydd i ba raddau y dylent fynd yma, wrth gwrs, yn dibynnu ar faint o arian sydd ar gael ar gyfer buddsoddi.
-
- Mae’n rhaid i Ymddiriedolwyr ystyried yr angen am arallgyfeirio, h.y. cael gwahanol fathau o fuddsoddiad, a buddsoddiadau gwahanol o fewn pob math. Bydd hyn yn lleihau'r risg o golledion o ganlyniad i ganolbwyntio ar fuddsoddiad penodol neu fath o fuddsoddiad.
-
- Mae’n rhaid i Ymddiriedolwyr adolygu buddsoddiadau'r Elusen o bryd i'w gilydd. Cyfrifoldeb yr Ymddiriedolwyr yw penderfynu ar natur ac amlder yr adolygiadau hyn, ond dylai'r adolygiadau fod yn gymesur â natur a maint portffolio buddsoddi'r Elusen. Gall adolygu'n rhy anaml arwain at golledion neu golli cyfleoedd; gall torri a newid buddsoddiadau'n rhy aml arwain at lefelau diangen o uchel o daliadau trafodion. Dylid cynnal adolygiad o'r buddsoddiadau o leiaf unwaith y flwyddyn.
- Mae’n rhaid i Ymddiriedolwyr fonitro perfformiad cyffredinol y portffolio ac, i'r graddau y mae'n bosibl, cymharu'r gyfradd enillion gydag enillion a gyflawnir gan sefydliadau tebyg eraill. Bydd angen rhoi gwybod i'r Pwyllgor Cronfeydd Elusennol yn flynyddol am y gyfradd enillion fel rhan o'i adroddiad blynyddol.
- Cyn arfer unrhyw bŵer buddsoddi, ac wrth adolygu buddsoddiadau'r Elusen, mae’n rhaid i Ymddiriedolwyr gael ac ystyried cyngor priodol gan gynghorydd â chymwysterau addas.
Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl.
Cofnodion heb eu cadarnhau y Is-bwyllgor Adolygu Perfformiad y Cronfeydd Buddsoddi Elusennol