Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu ein staff

Rydym yn ffodus bod gennym staff gwych yn gweithio ar draws Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy'n gwneud gwahaniaeth bob dydd i driniaeth a gofal ein cleifion, ein rhoddwyr a'u teuluoedd. Rydym yn cymryd datblygiad ein staff o ddifrif, ac yn gwneud ein gorau glas i gynnig cyfleoedd a fydd yn caniatáu i'n staff gyflawni eu potensial a'u huchelgeisiau. 

Mae’r holl aelodau newydd o staff yn cael eu croesawu i’r sefydliad yn ystod hyfforddiant cynefino’r Ymddiriedolaeth, ac fel arfer, maen nhw’n mynychu hyfforddiant cynefino yn eu hadran hefyd.  Mae'r holl staff yn gallu cael mynediad at ystod o hyfforddiant ac addysg yn ystod eu cyflogaeth, gan gynnwys unrhyw anghenion hyfforddi unigol sydd wedi cael eu trafod gyda'u rheolwr i'w cefnogi i ddatblygu yn eu rôl a'u gyrfa. Mae gennym gysylltiadau cryf gyda darparwyr addysg Bellach ac Uwch lleol, a chofnod profedig o gefnogi staff i ennill cymwysterau achrededig allanol fel Graddau, Graddau Meistr a Doethuriaethau. Mae gan Felindre enw da hefyd am ymgysylltu'n llwyr â ffrydiau gwaith cenedlaethol a rhyngwladol, ac am sicrhau bod ein harbenigedd arbenigol a'n safbwynt unigryw yn cael eu cynrychioli'n llawn, ac mae'r sefydliad yn cefnogi staff o wahanol grwpiau proffesiynol yn rheolaidd i gymryd rhan yn y gwaith hwn.

Yn ogystal â darparu ystod eang o gyfleoedd datblygu proffesiynol a phersonol, mae Felindre’n gwerthfawrogi iechyd a lles ei staff. Rydym yn cynnig cyfleoedd i staff gymryd rhan mewn amrywiaeth o fentrau iechyd a lles, ac i gael mynediad i gefnogaeth fel hyfforddiant personol ac ymwybyddiaeth ofalgar.