Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Canser Felindre

Profiad y cleifion

Yng Nghanolfan Ganser Felindre, rydyn ni am glywed am eich profiadau. Dyna pam rydyn ni'n defnyddio ein system arolygu cleifion i gasglu adborth mewn tair ffordd syml:

  • Mewn ciosgau pwrpasol mewn amryw rannau o'r ganolfan
  • Ar dabledi/llechi sydd gan ein gwirfoddolwyr a staff cyfeillgar
  • Trwy sganio codau QR sydd i'w gweld o gwmpas y ganolfan

Rydyn ni'n rhannu canlyniadau’r arolwg gyda’n tîm arwain a gwahanol adrannau, gan wneud yn siŵr bod eich adborth yn cael eu cynnwys yn ein hadroddiadau chwarterol a blynyddol. Drwy wrando ar eich adborth, gallwn ddathlu ein llwyddiannau, dod o hyd i ffyrdd o wneud gwelliannau cadarnhaol i'n gwasanaethau.

Rydyn ni'n chwilio am batrymau yn yr adborth fel bod modd i ni ddeall beth sydd ei angen ar ein cleifion a sut yw eu profiadau. Yna, rydyn ni'n creu cynlluniau gwella i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Mae eich llais yn helpu i lunio ein gwasanaethau ac yn sbarduno newid ystyrlon ar draws ein sefydliad.

Delwedd sy’n dangos adborth ynglŷn â’ch profiad: 94% o
foddhad, 99% wedi cael gofal da, 99% wedi cael cymorth pan fo angen, 97% o
gleifion wedi deall eu gofal a 87% yn fodlon â’r amser aros ar y diwrnod.

 

Rydyn ni'n adolygu meysydd lle mae'r adborth yn llai na 100% i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwella ein gwasanaethau yn seiliedig ar beth mae ein cleifion yn ei ddweud wrthym.

Dywedoch chi

Gwnaethom ni

“Byddai’n braf gallu prynu byrbrydau wrth aros am y clinig.”

Mae siop goffi newydd bellach wedi agor yn ardal aros Adran y Cleifion Allanol.

“Mwy o wybodaeth o ran pwrpas a hyd yr apwyntiad.”

Oherwydd natur yr Uned Asesu, does dim modd rhagweld pa mor hir byddwch chi yma bob amser, fodd bynnag byddwn yn cyfathrebu'n agored ac yn eich diweddaru.

“Gallai pethau fod wedi eu rhoi ar waith yn gynt, h.y. iechyd meddwl.”

Er bod cyfeiriadau at wasanaethau eraill yn gallu cymryd peth amser, byddwn ni'n cyfeirio at adnoddau eraill yn y cyfamser.

“Gofynnais i am gael bwyd fegan.”

Cysylltom ni â'r ffreutur i gynnig hyn.

“Cylchgronau neu bapurau newydd yn yr ystafell aros.”

Mae ein Tîm Atal a Rheoli Heintiau'n ystyried ffyrdd diogel o ddarparu deunydd darllen heb beryglu lledaeniad heintiau i'n cleifion bregus.

“Diffyg arwyddion pan mae gwaith adfer yn cael ei wneud.”

Rydyn ni wedi codi'r mater hwn gyda'n Tîm Ystadau a'n Tîm Iechyd a Diogelwch i wneud yn siŵr fod arwyddion priodol yn eu lle.

“Mae'r amseroedd aros ar y bwrdd electronig yn anghywir.”

Rydyn ni wedi codi'r mater hwn gyda'r Tîm TG i'w ddatrys.

 

Y Wal Ddiolchgarwch

Bob mis mae ein tudalen fewnrwyd ar gyfer y Wal Diolchgarwch yn cael ei diweddaru gyda'r negeseuon caredig diweddaraf mae cleifion wedi eu rhannu â ni. Mae'r negeseuon yn cydnabod y gwahaniaeth anhygoel mae ein staff yn ei wneud.

Roedd pawb yn wych yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae arna i ddyled fy mywyd i chi. Diolch.

Mae'r holl staff o bob adran yn hollol wych. Does dim byd yn ormod o drafferth, ac mae pob pryder neu fater yn cael ei drin ar unwaith. Ysbyty Gobaith yw hi yn wir xxx

Diolch yn fawr iawn i chi gyd (yn Radiotherapi). Rydych chi wedi rhoi cyfle i fy ngŵr. Mae e mor arbennig i mi: rydyn ni gyda'n gilydd ers 67 mlynedd a nawr diolch i chi i gyd, bydd mwy i'w ddod

I'r holl staff yn yr Adran Radiotherapi, diolch am edrych ar fy ôl. Chi yw'r gorau! Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

I holl aelodau staff Adran Radiotherapi Felindre, diolch am edrych ar fy ôl yn ystod fy nhriniaeth. Rydych chi i gyd yn gwneud gwaith gwych yn y ganolfan gyda'ch gofal a'ch tosturi. Alla i ddim dweud diolch ddigon wrthych chi.

Diolch yn fawr [i'r merched ar y dderbynfa radiotherapi] am eich gwen gynnes bob bore. Cofiwch gymryd amser i chi'ch hun – rydych chi'n ei haeddu.

 

Cwynion

Rydyn ni bob amser yn anelu at ddarparu'r gofal gorau oll, ond rydyn ni'n gwybod weithiau na fydd pethau'n mynd cystal ag y dylen nhw. Os ydych chi'n anhapus ag unrhyw agwedd ar ein gofal neu wasanaeth, rydyn ni am glywed gennych - mae eich adborth yn ein helpu i wella.

Sut i godi pryder:

• Siaradwch â ni wyneb yn wyneb

• Ffoniwch neu ysgrifennwch atom

• Gofynnwch i aelod o staff am gefnogaeth - rydyn ni gerllaw i'ch helpu drwy'r broses

 

Rydyn ni'n dilyn canllawiau Gweithio i Wella Cymru, sy’n golygu:

• Byddwn ni'n cydnabod eich pryder yn brydlon

• Byddwn ni'n ymchwilio'n drylwyr

• Byddwn ni'n agored ac yn onest ynglŷn â beth byddwn ni'n ei ddarganfod

• Byddwn ni'n dweud wrthych beth byddwn ni'n ei wneud i wella pethau

 

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2024, cawsom ni 24 o gwynion - sef tua 4 cwyn am bob 10,000 o ymweliadau gan gleifion. Er mai nifer fach yw hwn, mae pob pryder yn bwysig i ni ac yn ein helpu i ddysgu sut i wella ein gofal a'n gwasanaethau.

  • Cafodd 10 cwyn eu trin fel datrysiad cynnar - o fewn 2 ddiwrnod gwaith
  • Cafodd 8 cwyn eu trin yn ffurfiol o dan reoliadau Gweithio i Wella Cymru
  • Cafodd 2 gŵyn eu hail-agor, gan ddangos bod cwynion yn cael eu trin yn foddhaol.

 

Yn seiliedig ar eich adborth, rydyn ni wedi gwneud y newidiadau canlynol:

  • Cryfhau ein prosesau diogelu: Nodwyd diogelu fel maes i’w wella mewn rhai pryderon. O ganlyniad, rydyn ni bellach yn gweithio’n agosach gyda’n Tîm Diogelu, gan sicrhau trafodaethau ac atgyfeiriadau cynharach. Mae’r cydweithio hwn yn ein helpu i ddarparu cymorth cryfach i gleifion allai fod yn agored i niwed.
  • Gwella llythyrau gan ein clinigau: Rydyn ni'n gweithio i greu proses gyson ar gyfer anfon llythyrau clinig at gleifion, gan wneud yn siŵr ein bod yn cyfathrebu’n glir a bod hynny wedi ei safoni ar draws pob tîm. Bydd hyn yn helpu cleifion i gael y wybodaeth ddiweddaraf a lleihau unrhyw ddryswch ynghylch eu gofal.
  • Esbonio gofal y Tîm Amlddisgyblaethol (MDT): Mae rhai cleifion wedi dweud wrthym eu bod yn disgwyl gweld yr un meddyg ymgynghorol ym mhob ymweliad â chlinig. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydyn ni'n gwella sut rydyn ni'n esbonio rôl y tîm amlddisgyblaethol wrth ddarparu eich gofal. Rydyn ni wedi cyflwyno gwell strategaethau cyfathrebu, gan gynnwys defnyddio sgriniau digidol mewn clinigau cleifion allanol ac ychwanegu esboniadau am dimau amlddisgyblaethol yn y llythyrau cyntaf gewch chi ynglŷn â'ch apwyntiadau.
  • Helpu clinigwyr i gyfathrebu'n well: Rydyn ni'n helpu clinigwyr i wella eu sgiliau cyfathrebu ar ôl i bryderon cyffredin gael eu nodi. Drwy ddarparu cymorth uniongyrchol, ein nod yw sicrhau bod pob claf yn teimlo ei fod yn cael ei glywed, ei barchu a'i hysbysu'n llawn yn ystod eu hapwyntiadau.

 

Adrodd am ddigwyddiadau

Rydyn ni'n gweithio'n galed i gadw pawb yn ddiogel a darparu'r gofal gorau posibl. Dyna pam rydyn ni'n annog ein staff i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau—neu hyd yn oed damweiniau fu bron â digwydd—drwy ein system rheoli digwyddiadau. Unwaith i ddigwyddiad gael ei adrodd, rydyn ni:

• Yn ymchwilio ar unwaith i weld beth aeth o'i le

• Yn datrys unrhyw bryderon uniongyrchol

• Yn nodi ac yn trwsio'r achosion sylfaenol i'w hatal rhag digwydd eto

Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n rhannu gwersi a ddysgwyd gyda'r sefydliad cyfan, ac yn cadw llygad allan am dueddiadau sy'n gallu sbarduno gwelliannau ar lefelau lleol ac ehangach. Os bydd digwyddiad yn achosi niwed cymedrol neu uwch, byddwn ni'n cynnal adolygiad ac ymchwiliad manwl i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cleifion a’n staff yn ddiogel.

 

 

Yn seiliedig ar ein dadansoddiad o ddigwyddiadau, rydyn ni wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Cyfathrebu'n well dros e-bost: Rydyn ni wedi nodi heriau o ran defnyddio e-byst, yn enwedig y nifer fawr e-byst a'r defnydd o e-byst ar gyfer cyfathrebu clinigol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydyn ni wedi sefydlu gweithgor pwrpasol, sydd eisoes wedi cyfarfod i archwilio atebion. Eu nod yw datblygu prosesau gwell sy'n gwella cyfathrebu ac yn sicrhau diogelwch cleifion.

  • Rhannu diweddariadau diogelwch ar draws yr Ymddiriedolaeth: Mae tudalen “Speedy Cascade” wedi ei chreu ar fewnrwyd y gwasanaeth canser. Mae'r dudalen hon yn gwneud gwybodaeth allweddol am ddiogelwch cleifion yn hygyrch i'r holl staff, gan sicrhau bod diweddariadau hanfodol yn hawdd i'w canfod a chyfeirio'n ôl atynt er mwyn dysgu a gwella.

  • Mynd i'r afael ag oedi wrth gymeradwyo llythyrau: Gwelsom fod rhai llythyrau cleifion yn aros dros 30 diwrnod am gymeradwyaeth. I drwsio hyn, rydyn ni wedi diweddaru ein cynllun gwella ac wedi ailagor y mater fel blaenoriaeth allweddol. Mae hyn bellach yn cael ei fonitro trwy ein uwch dîm arweinyddiaeth bob mis. Yn ogystal â hynny, mae sesiynau hyfforddi a chyfathrebu clir wedi eu rhannu â'r holl staff perthnasol i leihau oedi.