Neidio i'r prif gynnwy
Nicola Williams

Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd

Cymhwysodd Nicola fel Nyrs yn 1990 ac mae wedi gweithio yn y GIG byth ers hynny. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn nyrs lawfeddygol ar draws amrywiaeth o wahanol arbenigeddau. Yn ogystal â bod yn nyrs angerddol, mae Nicola wedi canolbwyntio’n gryf ar ddiogelwch seicolegol yn y gweithle, ansawdd, diogelwch, profiad cleifion a gwella ansawdd, ac mae wedi arwain nifer o raglenni gwella sydd wedi eu rhoi ar waith ledled Cymru, fel atal datblygiad wlserau pwysau a datblygu systemau ar gyfer monitro safonau nyrsio o lefel ward hyd at lefel Llywodraeth Cymru.

Mae Nicola yn eiriolwr cryf dros ymchwil nyrsio a chreu tegwch proffesiynol mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi.

Yn ei rôl bresennol, mae Nicola yn falch iawn o allu cynrychioli nid yn unig y nyrsys ar y Bwrdd ond hefyd y gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd a’r gwyddonwyr gofal iechyd. Mae hi wedi chwarae rôl arweiniol o ran gweithredu’r Ddyletswydd Ansawdd a’r Ddyletswydd Gonestrwydd, mae'n arweinydd gweithredol nyrsio ar gyfer ymchwil ac ansawdd ledled Cymru ac yn ddiweddar sefydlodd grŵp cymheiriaid arwain gweithredol amlddisgyblaethol ledled Cymru (sy'n cwmpasu pob gweithiwr proffesiynol clinigol) gyda’r nod o gryfhau’r llais clinigol ar y cyd a’i ddylanwad ar lefel polisi.