Neidio i'r prif gynnwy
Jacinta Abraham

Amdanaf i

Mae Dr Jacinta Abraham (Jaz) yn Oncolegydd Clinigol, sydd â mwy na 17 mlynedd o brofiad yn trin Canser y Fron ac yn cymryd rolau arwain fel arweinydd Clinigol Canser y Fron ar gyfer Canolfan Ganser Felindre a rhwydwaith Canser Cymru.  Sefydlodd Fforwm a Chofrestrfa Amlddisgyblaethol Canser y Fron Eilaidd De Cymru ym mis Mawrth 2010, y cyntaf o'i fath yn y DU.  Fel Prif Ymchwilydd i astudiaethau canser y fron, mae hi wedi arwain Felindre i ddod yn brif recriwtiwr, gyda chydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol. 

Penodwyd Jaz yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ym mis Ionawr 2018, gyda chyfrifoldeb uniongyrchol am Ganolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Yn ei rôl bresennol, mae hi hefyd yn ddirprwy gadeirydd grŵp Cyfarwyddwr Meddygol Cymru Gyfan, yn arweinydd Archwilio Clinigol Cenedlaethol, Bwrdd Rhaglen Partneriaeth Genomeg Cymru a Bwrdd Llywodraethiant Cymru Gyfan ar gyfer Therapïau Celloedd a Genynnau yng Nghymru.   Hi hefyd yw Arweinydd Gweithredol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Datblygu Ymchwil ac Arloesedd, gydag uchelgais i arwain y sefydliad i le o ragoriaeth ymchwil barhaus.