Prif Swyddog Gweithredol
Prif Swyddog Gweithredol
Roedd David yn Brif Weithredwr ar Cork University Hospitals Group (CUH Group), sy’n cynnwys yr ysbyty addysgu trydyddol mwyaf yn system iechyd Iwerddon, nifer o ysbytai cyffredinol dosbarth ac ystod o glinigau a chyfleusterau cymunedol. Mae David wedi llwyddo i gyflawni gwell perfformiad, seilwaith, llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn CUH Group, a hynny’n glinigol ac yn weithredol. Mae hefyd wedi arwain y gwaith o gyflawni nifer o raglenni cenedlaethol yn ne-orllewin Iwerddon, gan gynnwys y strategaeth trawma genedlaethol a’r rhaglen rheoli canser genedlaethol.
Er yn wreiddiol o Iwerddon, mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn y GIG, gan gynnwys dros ddegawd mewn rolau ar lefel bwrdd mewn awdurdodau iechyd strategol, ysbytai acíwt a gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr. Mae hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Dros Dro ar Ofal Eilaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Nghymru.
Ac yntau’n glinigydd o ran ei gefndir, mae David yn hynod o frwdfrydig dros arweinyddiaeth glinigol ac ymarfer pellach. Mae ganddo sawl gradd, gan gynnwys MBA Gweithredol o Ysgol Fusnes Warwick, ac mae’n raddedig o Academi Arweinyddiaeth y GIG a Rhaglen Uwch-arweinwyr UCL.