Aelod Annibynnol – Generig
Aelod Annibynnol – Generig
Roedd Ceri yn Brif Weithredwr ar Newport City Homes (NCH), sef busnes cymdeithasol sy’n darparu ystod o dai yn ne-ddwyrain Cymru. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr ar ddosbarthwr mwyaf y DU o gyllid y Loteri Genedlaethol, ac mae hefyd wedi dal swyddi uwch ym maes llywodraeth leol.
A hithau wedi cyrraedd y rhestr fer Wobr Menywod Cymreig y Flwyddyn, mae Ceri wedi dal nifer o swyddi anweithredol ym meysydd iechyd, addysg a’r celfyddydau, ac mae’n parhau i fod yn gynghorydd gweithgar i gyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn aelod o Gyngor y Brifysgol Agored.
Rôl Ceri yw cyfrannu ei sgiliau a’i harbenigedd ar draws ystod eang o feysydd. Mae ei phrofiad helaeth ym maes datblygu tai cymdeithasol, rhaglenni ariannu arloesol, ac adfywio cymunedol yn dod â nifer o fanteision i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.