Yn Felindre, rydym yn gofalu am brofiad ein cleifion. Rydym eisiau rhagori yn ein gwaith, a rhoi’r gofal a’r driniaeth gorau posibl i’n cleifion. Gallwn fesur hyn mewn sawl ffordd ond mewn gwirionedd, meddyliau a barnau ein cleifion a'u teuluoedd, fel prif ddefnyddwyr ein gwasanaeth, sydd fwyaf pwysig i ni.
Mae adborth yn ffordd i gleifion fynegi eu barn, eu dymuniadau, eu syniadau a’u profiadau personol. Mae'n atgyfnerthu'r ymagwedd glaf-ganolog at ein gwaith ac yn grymuso cleifion i godi eu llais.
Yma yn Felindre, rydym yn cynnal arolygon o brofiadau cleifion yn rheolaidd, ac yn adrodd ar ganlyniadau’r rhain bob mis, ynghyd ag adborth ychwanegol a dderbyniwn drwy sianelau eraill