Wrth ddelio â phryderon neu gwynion, bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ystyried ei dyletswyddau statudol mewn perthynas â darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.
Mae sefydliadau’r GIG wedi’u rhwymo’n gyfreithiol i gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r gofynion a osodwyd arnynt drwy Safonau’r Gymraeg, gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Gwnewch gŵyn i Gomisiynydd y Gymraeg.
Gall pryderon neu gwynion sy'n ymwneud â'r Iaith Gymraeg fod ynghylch darparu gwasanaethau iechyd (er enghraifft, nad yw gwasanaeth penodol wedi'i ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg ac felly nad yw anghenion y person wedi'u diwallu) neu ynghylch a yw'r sefydliad wedi cydymffurfio â safonau'r Gymraeg.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau dwyieithog trwy gyfrwng ei Safonau Iaith Gymraeg, ac mae croeso i chi godi eich pryder yn uniongyrchol gyda Chomisiynydd y Gymraeg os dymunwch wneud hynny, neu gysylltu yn uniongyrchol â’r Ymddiriedolaeth yn y lle cyntaf.
Bydd yr holl bryderon fydd yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg yn cael eu hateb yn Gymraeg yn unol â’r fframwaith a’r amserlenni yn y ddogfen Gweithio i Wella ar gyfer pryderon a dderbynnir yn Saesneg.
Os hoffech godi pryder, cysylltwch â'r:
Tîm pryderon, drwy e-bostio: HandlingconcernsVelindre@wales.nhs.uk neu drwy ffonio: 02920 196191
Os hoffech drafod eich cwyn yn y Gymraeg, rhowch wybod i ni.