Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf ar y gwaith i adeiladu'r Ganolfan Ganser Felindre

Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.

Fel rhan o'n gwaith i adeiladu ein Canolfan Ganser newydd Felindre, rydym yn paratoi i gychwyn rhai dargyfeiriadau cyfleustodau hanfodol ym mis Ionawr 2025 cyn gwneud rhywfaint o waith ffordd allweddol ger Asda. 

Mae'r gwaith hwn, cyn rhan o'r hyn a elwir yn ein gwaith Adran 278, yn gam pwysig wrth symud y prosiect yn ei flaen. Rydym yn anelu at darfu cyn lleied â phosibl trwy wneud y gwaith yn y nos.

Beth sy'n digwydd?

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod y nos ar 13 Ionawr, 2025. 

Bydd y gwaith yn digwydd o amgylch Asda Coryton, gan gynnwys ger yr orsaf betrol, McDonald's, a Starbucks.

Rydym yn bwriadu gwneud y gwaith yn ystod y nos, er mwyn lleihau'r effaith ar draffig yn ystod y dydd. 

Dyddiadau Allweddol

Cam A: Croesfan Pedair Lôn – 13 i 17 Ionawr

Cam B: Ardal y Gylchfan i'r De o'r Orsaf Betrol – 20 i 24 Ionawr

Cam C: Cysylltiadau Terfynol – 5 i 7 Chwefror

Rydym wedi rhoi cynlluniau rheoli traffig ar waith i helpu i gadw traffig i symud wrth i ni wneud y gwaith hwn i helpu i leihau unrhyw amhariad. 

Diolch ymlaen llaw am eich amynedd a'ch cefnogaeth wrth i ni wneud y gwaith hwn.

Rydym yn gwerthfawrogi’r aflonyddwch y gall gwaith fel hyn ei achosi ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau’r effaith ar ein cymuned.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni drwy contact.velindre@wales.nhs.uk