Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Roeddem eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith ffordd fydd yn digwydd fel rhan o'n gwaith o adeiladu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd.
Fel rhan o'n caniatâd cynllunio, mae'n rhaid i Felindre wella rhan o’r cynllun ffordd ar Rodfa Longwood, wrth ymyl cyfnewidfa Coryton, i sicrhau gwell mynediad i'r ganolfan ganser newydd.
Bydd y cynllun newydd hwn yn rhan o’r prif bwynt mynediad i gerbydau pan fydd ein canolfan ganser newydd yn agor yn ystod Gwanwyn 2027.
Bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud yn haws i gleifion, staff ac ymwelwyr gyrraedd y safle a byddant hefyd yn helpu i leddfu tagfeydd yn Coryton.
Mae’r gwaith hwn i fod i ddechrau ar Ebrill 22 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr 2026.
Sylwch fod y gwaith hwn yn cael ei wneud gan y contractwr priffyrdd lleol Knights Brown Cyf. Mae hwn yn gontractwr gwahanol i Sacyr, y cwmni sy'n adeiladu ein canolfan ganser newydd ar hyn o bryd.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch cefnogaeth yn ystod y gwaith hwn. Rydym yn deall y gall gwaith adeiladu fod yn niwsans, ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau’r effaith ar ein cymuned.
Os hoffech chi gael gwybod mwy, rydyn ni'n cynnal sesiwn galw heibio misol i breswylwyr, lle gallwch chi ofyn cwestiynau am y prosiect.
Bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher, 30 Ebrill yn adeilad Noddfa (19 Park Road, ger maes parcio cefn y Ganolfan Ganser Felindre bresennol), rhwng 6pm a 7pm.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni drwy e-bostio contact.velindre@wales.nhs.uk
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.