Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre heddiw yn gosod sail i’w chynlluniau am ganolfan ganser newydd yng Nghaerdydd, gyda rhestr o ymrwymiadau a fydd yn ceisio ei gwneud ‘yr ysbyty gwyrddaf ym Mhrydain.’
Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r Ymddiriedolaeth i adeiladu ar dir o eiddo’r GIG – sydd yn cael ei adnabod fel Northern Meadows – yn 2018, ac mae eisiau rhoi amgylchedd gwell, mwy heddychlon ac adferol i’w chleifion wrth iddynt dderbyn triniaeth. O ganlyniad, mae wedi edrych o amgylch Prydain – ac adeiladau fel Canolfan Ganser Maggie’s yn Oldham a Little Bryn Gwyn yn Llanrhidian – am ysbrydoliaeth ar gyfer adeilad sy’n gweddu i’w dirwedd.
“Un o’r rhesymau dros ddewis y safle hwn yw’r buddion penodol y gall natur a bywyd gwyllt ei gyflwyno i bobl sy’n cael eu trin am ganser, gan ychwanegu at eu hadferiad,” meddai David Powell, Cyfarwyddwr Prosiect gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
“Bydd y Brîff Dylunio rydym yn ei ddatblygu yn egluro’n union yr hyn rydym eisiau ei weld gan y penseiri fydd yn bidio am y cytundeb, gyda phob adran â’i faen prawf gwerthuso ei hun. Er mwyn ennill y cytundeb, bydd angen trafod pob un agwedd.
“Yn syml, os na allant brofi’n gadarn eu bod yn gallu bodloni ein rhestr hir o ymrwymiadau gwyrdd, ni chânt eu dewis.”
Addawodd David hefyd i weithio gyda chleifion, staff a’r gymuned leol i gyflawni ymrwymiadau Felindre: “Mae gennym weledigaeth heriol na allwn ei chyflawni ar ein pen ein hunain. Byddwn ond yn gallu ei chyflawni os byddwn yn gweithio gyda’n cymdogion, cleifion a’n staff – ac yn dysgu ganddynt. “
Gan ddefnyddio dwy ddogfen dechnegol – Brîff Dylunio Felindre a’i Strategaeth Rheoli Isadeiledd Gwyrdd – mae’r ymrwymiadau a wnaed heddiw yn ddeublyg. Yn gyntaf, mae Felindre wedi addo cadw Northern Meadows yn wyrdd, sy’n golygu cadw a gwella mynediad i’r gymuned, gan gefnogi amrywiaeth ecolegol ac amgylchedd naturiol y safle, wrth roi cludiant cynaliadwy ar waith a Chynllun Teithio Gwyrdd.
Yn ail, mae eisiau i’r adeilad fod yn wyrdd, sy’n golygu ei wneud yn garbon niwtral, defnyddio ynni adnewyddadwy ac adnoddau naturiol, diogelu a chadwraeth dŵr – a lleihau llygredd golau, effaith sŵn a chynhyrchu deunydd gwastraff.
“Mae gan Gymru rai o’r cyfraddau goroesi canser isaf ymhlith gwledydd y gorllewin, ac mae nifer y bobl sy’n cael eu diagnosio â chanser yn cynyddu.” meddai David Powell.
“Nid oes gan ein canolfan bresennol y cyfleusterau na’r lle i fodloni her y dyfodol, felly mae angen un newydd arnom.
“Ynghyd â thrin mwy o gleifion a helpu mwy o bobl i fyw yn hirach gyda chanser, bydd y ganolfan newydd yn cefnogi ymchwil a datblygiad rhyngwladol ymhellach hefyd, gyda’r nod o roi Cymru ar flaen y gad wrth drin canser.”
Oherwydd bod ymchwil yn dangos bod natur yn cael effaith iachaol a llonyddol, mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ymroddedig i greu datblygiad sy’n gwella lles pobl, gan gynnwys cleifion, staff a’n cymdogion.
Rydym wedi recriwtio tîm o arbenigwyr o dan arweiniad y cynghorydd dylunio ymgynghorol, Phil Roberts, i helpu i gyflawni ei uchelgeisiau gwyrdd.
“Bydd rhoi’r dirwedd therapiwtig maent yn eu haeddu i’n cleifion a’u teuluoedd i’w helpu gyda’u hadferiad yn golygu ein bod ni’n rhoi bioamrywiaeth a gwella’r amgylchedd naturiol wrth wraidd popeth a wnawn,” meddai Phil Roberts.
“Rydym yn gwbl ymroddedig i gyflwyno adeilad o’r ansawdd amgylcheddol a dylunio uchaf posib, ac rydym eisiau i’n cleifion a phobl Cymru gael y gorau posib.
“Y canlyniad fydd ysbyty moethus, bywiog a gwyrdd, a fydd yn helpu wrth ddelio â straen triniaeth ganser.”
Mae uchelgais Felindre i ddatblygu’r ysbyty gwyrddaf ym Mhrydain wedi’i wreiddio yn ei hymlyniad at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Am wybodaeth bellach gweler: