Neidio i'r prif gynnwy

Blwyddyn yn Ddiweddarach - Cynnydd yn y gwaith o adeiladu ein Canolfan Ganser Felindre newydd

Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.

Mae’r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers i’r gwaith adeiladu ddechrau ar brif safle ein Canolfan Ganser Felindre newydd. 

Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd mawr - o'r gwaith o baratoi’r tir a'r sylfeini i ddechrau adeiladu strwythur yr adeilad. Mae pob carreg filltir yn dod â ni gam yn nes at ddarparu canolfan ganser o safon fyd-eang i bobl ar draws de Cymru am genedlaethau i ddod. 

Mae ein canolfan ganser o safon fyd-eang i fod i agor yn nhymor y Gwanwyn 2027 - dim ond dwy flynedd i ffwrdd.  

Mae wedi gwasanaethu cleifion a staff yn anhygoel o dda ers bron i 70 mlynedd – ond wrth i’r galw gynyddu ac wrth i’r ffordd rydym yn darparu gofal esblygu, felly hefyd, yr angen am le sy’n gallu cadw i fyny â hyn. Bydd ein cartref newydd yn ein galluogi i ddarparu'r gofal y mae Felindre yn adnabyddus amdano ar safle sydd bron ddwywaith maint ein canolfan ganser bresennol. 

Mae ein tîm prosiect, staff o bob rhan o'r Ymddiriedolaeth a'n cydweithwyr yn Sacyr yn parhau i gydweithio'n agos i ddod â'n cartref newydd yn fyw.  

Meddai cyfarwyddwr prosiect CGFn, David Powell: “Mae hon yn foment falch i bawb dan sylw. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac rydym yn gweld cynnydd gwirioneddol uwchben y ddaear - arwydd gweladwy o'r gwaith caled, y cynllunio a'r cydweithio sydd wedi cael ei wneud i adeiladu ein canolfan ganser newydd.  

“Hoffwn ddiolch i’n tîm prosiect, staff o bob rhan o’r Ymddiriedolaeth a’n cydweithwyr yn Sacyr wrth i ni barhau i gydweithio’n agos i ddod â’n cartref newydd yn fyw.   

"Nid dim ond adeilad ein canolfan ganser newydd sy’n bwysig; mae'n ymwneud â darparu gofal gwell, canlyniadau gwell a phrofiad gwell i'n cleifion a'n staff ymroddedig." 

Dywedodd Carl James, Cyfarwyddwr Gweithredol Trawsnewid Strategol, Cynllunio a Digidol / Dirprwy Brif Weithredwr: “Wrth inni nodi blwyddyn ers dechrau’r gwaith adeiladu, mae’n wych gweld ein gweledigaeth ar gyfer ein Canolfan Ganser Felindre newydd yn dod yn realiti.

"Mae’r cyfleuster o safon fyd-eang hwn yn rhan allweddol o strategaeth tymor hir y rhanbarth i drawsnewid gwasanaethau canser ar draws de Cymru er mwyn darparu’r canlyniadau clinigol gorau posibl.  

“Roeddwn eisiau diolch i bawb am eu gwaith caled a’u hymroddiad hyd yn hyn , ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y Ganolfan Ganser Felindre newydd yn dod yn ei blaen dros y misoedd nesaf.” 

Mae'r gwaith o adeiladu ein canolfan ganser newydd wedi hen ddechrau, ac mae'n un o'r prosiectau mwyaf y mae Cymru wedi'i weld ers degawdau. Bydd yn un o’r ysbytai mwyaf cynaliadwy yn y DU, a fydd yn darparu gofal canser blaenllaw i’n cleifion a gwell amgylchedd i’n staff ymroddedig. 

Mae ein canolfan ganser newydd yn bwysig dros ben o ran darparu’r driniaeth a’r gofal hollbwysig i’r 1.5 miliwn o bobl yn ne Cymru, ac mae’n bwysig iawn i gadw i fyny â’r galw cynyddol. 

Byddwn yn parhau i rannu’r newyddion diweddaraf pwysig a mewnwelediadau tu ôl i'r llenni trwy gydol y cyfnod adeiladu. Mae ymgysylltu â’n cymuned yn flaenoriaeth allweddol i’r tîm, a gallwch alw heibio a gofyn cwestiynau i ni yn ein sesiynau galw heibio misol i breswylwyr. Mae’r rhain yn cael eu cynnal ar ddydd Mercher olaf pob mis rhwng 6pm a 7pm yn adeilad Noddfa ar safle’r ganolfan ganser bresennol.  

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y prosiect tîm drwy e-bostio contact.velindre@wales.nhs.uk, neu darllenwch fwy yma: https://linktr.ee/newvelindrecancercentre