Cafodd ein tîm prosiect ddiwrnod gwych yn Symposiwm Therapïau Uwch Cymru yn sgwrsio am bopeth newydd yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Fe wnaethon ni gysylltu â chydweithwyr gofal iechyd o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn y digwyddiad ar ddydd Mercher, fel rhan o'n calendr haf prysur o ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar Gampws Bae Prifysgol Abertawe, yn gyfle gwych i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cartref newydd, sydd i fod i agor yn Nhymor y Gwanwyn 2027, a'r rôl y bydd yn ei chwarae wrth gefnogi arloesedd ac ymchwil hanfodol.