Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Mae’n bleser gennym rannu bod ein prosiect newydd yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi cael ei gydnabod ar y llwyfan rhyngwladol.
Enillodd y prosiect y “Prosiect Gofal Iechyd Gorau” yng Ngwobrau Partneriaethau eleni, a gynhaliwyd yn Llundain ar ddydd Iau 1 Mai.
Mae'r wobr fawreddog hon yn dathlu rhagoriaeth o ran cydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae ennill yn y categori gofal iechyd cystadleuol yn garreg filltir i'r prosiect ac yn adlewyrchiad o'r ymroddiad, yr arloesedd a'r gwaith tîm sydd wedi ein harwain i'r pwynt hwn.
Disgrifiodd y gwobrau y prosiect fel y canlynol: “newid arloesol mewn gofal iechyd cynaliadwy, sy’n darparu cyfleusterau a thriniaethau mewn adeilad sydd wedi’i ddylunio gyda deunyddiau cynaliadwy, sy’n cynnwys y gymuned ac sydd wedi ymrwymo i ddiogelu’r amgylchedd.”
Mae'r wobr yn cydnabod dyluniad ac uchelgais ein prosiect, ochr yn ochr â'r bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth, y consortiwm sy'n helpu i adeiladu ein canolfan ganser newydd Acorn, a'n partneriaid adeiladu Sacyr.
Meddai cyfarwyddwr prosiect CGFn, David Powell: “Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr hon. Mae'n adlewyrchu swm enfawr y gwaith caled, y penderfyniad a’r cydweithrediad gan bawb a oedd yn rhan o'r broses - o'n staff, tîm y prosiect, ein cydweithwyr yn Acorn a Sacyr a'r cymunedau sy'n parhau i lunio a chefnogi ein datblygiad.
"Bydd ein Canolfan Ganser Felindre newydd yn cefnogi triniaethau arloesol, yn darparu lle modern, therapiwtig i gleifion a staff, ac yn gweithredu fel man cynaliadwyedd o ran dylunio gofal iechyd."
Meddai Carl James, Cyfarwyddwr Gweithredol Trawsnewid Strategol, Cynllunio a Digidol: “Mae’r wobr hon yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd. Mae'n cydnabod ein dyluniad uchelgeisiol ar gyfer yr adeilad sydd wedi'i seilio ar gydweithio â chleifion, teuluoedd, staff ac ystod ehangach o bartneriaid drwy gydol y prosiect.
“Rydym yn creu Canolfan Ganser sydd nid yn unig yn rhagorol yn glinigol, ond sydd hefyd yn gosod cynaliadwyedd, arloesedd, ac anghenion ein cleifion a’n holl staff wrth ei chraidd.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith, ac edrychaf ymlaen at barhau i adeiladu ar y gwaith tîm a’r partneriaethau sydd wedi dod a ni i’r pwynt hwn yn barod. Bydd yn gyfleuster a fydd yn ein galluogi i ddarparu'r gofal a'r profiad o'r ansawdd uchaf i gleifion a theuluoedd.”
Mae'r gwaith o adeiladu ein canolfan ganser newydd wedi hen ddechrau, ac mae'n un o'r prosiectau mwyaf y mae Cymru wedi'i weld ers degawdau.
Bydd yn un o’r ysbytai mwyaf cynaliadwy yn y DU, a fydd yn darparu gofal canser blaenllaw i’n cleifion a gwell amgylchedd i’n staff ymroddedig.
Mae ein staff ymroddedig yn cydweithio ag Acorn, y consortiwm a ddewiswyd i adeiladu'r ganolfan ganser newydd, i adeiladu cyfleuster a fydd yn gwasanaethu cenedlaethau'r dyfodol am ddegawdau i ddod.
Mae ein canolfan ganser newydd yn bwysig dros ben o ran darparu triniaethau a gofal hollbwysig i’r 1.5 miliwn o bobl yn ne Cymru, ac mae’n bwysig iawn i gadw i fyny â’r galw cynyddol.