Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, i ymweld â safle adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd. Dyma un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol mewn isadeiledd a gofal iechyd yng Nghymru ers degawdau.
Ac yntau’n disgwyl croesawu ei glaf cyntaf yng ngwanwyn 2027, bydd y prosiect yn sicrhau y bydd pobl sy’n wynebu canser yn ne Cymru’n parhau i gael gofal rhagorol am genedlaethau i ddod.
Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gwrdd ag arweinwyr a chlinigwyr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn ogystal â phartneriaid adeiladu o gonsortiwm Acorn a Sacyr UK. Cafodd gyfle i weld y cynnydd sylweddol yn y gwaith adeiladu a chlywed am fanteision hirdymor y ganolfan newydd o ran y maes clinigol, yr amgylchedd, ei gweithlu a’r gymuned.
Wrth sôn am Ganolfan Ganser Felindre newydd, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS: “Mae datblygiad Canolfan Ganser Felindre newydd yn nodi cam trawsnewidiol ymlaen yng ngofal canser i Gymru.
“Bydd yn darparu gofal a chymorth o’r radd flaenaf i gleifion a’u teuluoedd ar draws de-ddwyrain Cymru, gyda chyfleusterau arloesol sydd â’r nod o ddiwallu anghenion cynyddol triniaeth fodern am ganser.
“Wrth i ni nesáu at gam nesaf y gwaith adeiladu, bydd y cynnydd yn ymddangos yn fwy amlwg fyth ac rydym ar y llwybr cywir i ddarparu cyfleuster y gall Cymru fod yn falch ohono.”
Meddai Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Donna Mead OBE: “Roedd hi’n fraint croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i safle ein cartref i'r dyfodol.
“Mae gymaint yn fwy i Ganolfan Ganser Felindre newydd nag adeilad - bydd yn creu lle o’r safon uchaf i'n cleifion, eu teuluoedd a’n staff, sy’n hybu gofal ac ymchwil, yn ogystal â galluogi ein cleifion i wella’n dda.
“Ein nod yw darparu'r gofal canser gorau posibl, a hynny’n seiliedig ar ddegawdau o arbenigedd, trugaredd ac ymrwymiad. Rydym yn falch iawn o'r cynnydd sy'n mynd rhagddo ac o'r partneriaethau sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn.”
Nid oes gan safle presennol Canolfan Ganser Felindre, sy'n agosáu at fod yn 70 oed, y lle na’r cyfleusterau sydd eu hangen bellach i ddarparu gofal canser modern ac arloesol ar y cyflymder a'r raddfa sydd eu hangen. Yng Nghymru, mae nifer y bobl sy’n cael diagnosis canser yn cynyddu bob blwyddyn - ac mae mwy o bobl yn byw'n hwy gyda chanser, ac y tu hwnt i hynny. Mae gofal canser yn dod yn fwy cymhleth ac yn gosod mwy o bwysau ar wasanaethau arbenigol.
Bydd ein canolfan ganser newydd yn gwella pob cam o daith y claf - o gynllun adeilad mwy greddfol sy'n lleihau aros a phryder, i well gysylltiadau rhwng ardaloedd triniaeth sy'n caniatáu gofal sy'n fwy cyflym a di-dor ei natur.
Bydd byncer arbennig ar gyfer ymchwil radiotherapi yn creu mwy o gyfleoedd am dreialon clinigol a therapïau arloesol, gan helpu i wella canlyniadau. Bydd y safle'n cynnig mwy na 600 o leoedd i barcio a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwell, yn ogystal â lleoedd croesawgar, therapiwtig sy'n cysylltu pobl â natur.
Meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, David Donegan: “Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle i ddangos sut rydym yn troi ein gweledigaeth arloesol yn realiti.
“Mae ein canolfan canser newydd yn cael ei hadeiladu gyda phwrpas – sef darparu gofal canser rhagorol yn y math o amgylchedd y mae ein cleifion, eu teuluoedd a'n staff yn ei haeddu.
“Dyma gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth i ddarparu canolfan ganser o safon fyd-eang i Gymru – ac rydym yn falch o'i darparu mewn partneriaeth â chydweithwyr yn y GIG, Llywodraeth Cymru a'n cymunedau ledled y rhanbarth.”
Mae'r ganolfan newydd wedi cael ei dylunio gyda'r dyfodol mewn golwg. Bydd yn cynnwys mannau clinigol hyblyg a chapasiti annatod i ehangu gwasanaethau cemotherapi, radiotherapi a diagnostig, gan alluogi'r Ymddiriedolaeth i ymateb i'r galw cynyddol am flynyddoedd i ddod.
Bydd y ganolfan hefyd yn un o'r ysbytai mwyaf cynaliadwy yn y DU. Bydd yn cael ei phweru â thrydan yn unig o’r cychwyn cyntaf ac mae’n cael ei hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau isel eu carbon, a hynny’n ddeunyddiau lleol pan fo'n bosibl.
Mae Canolfan Ganser Felindre newydd yn cael ei darparu gan gonsortiwm Acorn, sy'n cynnwys Sacyr UK, Partneriaethau Kajima, abrdn, Banc Datblygu Cymru, ac amrywiaeth o weithredwyr cyllid hirdymor. Sacyr UK sy’n arwain y prosiect adeiladu.