Mae'r tîm yn gyffrous i fod ym Mela Caerdydd y penwythnos hwn fel rhan o'n haf prysur o ymgysylltu ar draws de Cymru!
Dewch i'n gweld ni yn y digwyddiad ar ddydd Sul, 15 Mehefin, i ddysgu mwy am ein Canolfan Ganser Felindre newydd. Rydym yn brysur yn adeiladu cartref newydd o'r radd flaenaf i wella'r gofal y mae Felindre yn adnabyddus amdano, ac i ddarparu amgylchedd gwell i'n cleifion, eu teuluoedd, a'n staff.
Byddwn ni yno i sgwrsio, ateb eich cwestiynau, a rhannu beth sydd i ddod. Buasem wrth ein bodd yn eich gweld - dewch i ddweud helo!