Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.
Roedd yn bleser gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre groesawu aelodau Cynghrair Gwella Gofal Iechyd Ewrop (HIAE) ar eu hymweliad i weld y cynnydd sydd yn cael ei wneud mewn perthynas â’r gwaith o adeiladu’r Ganolfan Ganser Felindre (CGFn) newydd.
Roedd yr ymweliad yn ffurfio rhan o ymgysylltiad ehangach HIAE yng Nghymru, a gynhaliwyd gan Weithrediaeth GIG Cymru.
Yn ystod eu hamser yn Felindre ar 25 Mawrth, fe wnaeth cynrychiolwyr HIAE gyfarfod gydag aelodau amrywiol o’r Ymddiriedolaeth a thîm prosiect CGFn i drafod tirlun esblygol gofal canser yng Nghymru, a sut y bydd ein canolfan ganser newydd yn helpu i drawsnewid gwasanaethau canser arbenigol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rhoddwyd trosolwg i’r cynrychiolwyr ynghylch y prosiect, ei rôl yn cefnogi triniaeth canser o ansawdd uchel, a’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau canser ar draws Cymru ar hyn o bryd. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar sut y bydd y ganolfan newydd yn gwella gofal cleifion, yn cefnogi lles staff, ac yn integreiddio ymchwil, arloesedd ac addysg i helpu i wella canlyniadau i’n cleifion ar draws de Cymru.
Cafodd cynrychiolwyr o HIAE daith o amgylch safle adeiladu CGFn hefyd, i weld y cynnydd anhygoel sydd yn cael ei wneud i adeiladu’r ganolfan o’r radd flaenaf.
Croesawyd y grŵp ar y safle gan gynrychiolwyr o Sacyr, y contractwr sy’n adeiladu ein canolfan ganser newydd, ac fe wnaethant fynd â’r cynrychiolwyr am daith fer o amgylch y safle. Fe wnaeth aelodau’r Ymddiriedolaeth a Sacyr arddangos buddion amgylcheddol a chymunedol allweddol y prosiect hefyd, ac atgyfnerthu ymrwymiad Felindre i gynaliadwyedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Wrth siarad yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Carl James, Cyfarwyddwr Gweithredol Trawsnewid Strategol, Cynllunio a Digidol/Dirprwy Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth: “Rydym yn teimlo anrhydedd o fod wedi croesawu Cynghrair Gwella Gofal Iechyd Ewrop, a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaethau gwaed a thrawsblannu ac oncoleg rydym yn eu darparu ar draws De-ddwyrain Cymru, mewn partneriaeth â’n Byrddau Iechyd Lleol’.
“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal a phrofiad rhagorol i’r claf, a chanlyniadau sy’n cymharu’n ffafriol â’r gorau mewn mannau eraill. Mae ein Canolfan Ganser Felindre newydd yn gam mawr ymlaen o ran cefnogi ein huchelgeisiau, gan y bydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf i ni, ac yn gwella’r cyfleoedd ar gyfer ymchwil, arloesi a chydweithio yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Tynnodd ein trafodaethau cadarnhaol gyda HIAE sylw at yr ymrwymiad sydd yn cael ei rannu ar draws Ewrop i ysgogi gwelliant parhaus mewn gofal iechyd, a rhoddodd gyfleoedd pellach i ni ddysgu a rhannu.”
Mae’r Canolfan Ganser Felindre newydd yn un o brosiectau seilwaith gofal iechyd mwyaf arwyddocaol Cymru ers degawdau, a disgwylir iddi agor yn nhymor y gwanwyn 2027. Unwaith y bydd wedi'i chwblhau, bydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer triniaeth canser, ymchwil a chymorth i gleifion, ac yn sicrhau bod Felindre yn parhau i fod ar flaen y gad o ran darparu gofal canser arbenigol ar gyfer yr 1.5 miliwn o bobl y mae'n eu gwasanaethu ar draws De Cymru.