Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cyflwyno cais i Gyngor Caerdydd yn gofyn am estyniad i gyflwyno materion a gadwyd yn ôl sy'n gysylltiedig â datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre.
Cyflwynir cais am faterion a gadwyd yn ôl ar ôl cyflwyno a chymeradwyo cais cynllunio amlinellol. Mae'r materion a gadwyd yn ôl fel arfer yn eitemau nad ydynt wedi'u datblygu'n fanwl eto megis cynllun mewnol a thirlunio. Nid oes unrhyw newidiadau eraill o dan y cais hwn i'r datblygiad cymeradwy.
Yn yr achos hwn, mae'r cais yn gofyn am estyniad o ddwy flynedd o'r dyddiad gwreiddiol ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl sef cyn 27/03/23, ac estyniad dilynol i ddechrau adeiladu i 27/03/25. Cyhoeddwyd y cais ar y porth cynllunio heddiw.
Meddai David Powell, Cyfarwyddwr
"Mae prosiect newydd Canolfan Ganser Felindre yn dal i fod ar y rhaglen ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i groesawu ein claf cyntaf yn 2025.
Rydym newydd gwblhau'r gystadleuaeth i benodi datblygwr i'r amserlenni y cytunwyd arnynt.
Fodd bynnag, oherwydd nifer o ddigwyddiadau allanol nas rhagwelwyd, gan gynnwys y pandemig a'r rhyfel yn yr Wcráin, yn yr hinsawdd sydd ohoni, credwn y byddai'n ddoeth cynnwys cynlluniau wrth gefn yn ein cynlluniau."
19/07/2022