Mae ceisiadau cynllunio wedi cael eu cyflwyno i adolygu ffyrdd mynediad ’’r Ganolfan Ganser Felindre newydd.
Mae’r gwaith o gyflwyno’r cynlluniau yn dilyn penderfyniad Cyngor Dinas Caerdydd i brosesu ceisiadau cynllunio eto ar ôl saib oherwydd y pandemig coronafeirws.
Mae’r cynlluniau’n ymwneud â chynlluniau ffyrdd a pharcio ceir newydd yn siop Asda yn Coryton, lle bydd y brif fynedfa i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ceisio ymestyn y cyfnod pan ellir defnyddio’r ffordd adeiladu dros dro ar safle Ysbyty’r Eglwys Newydd. Rydym eisiau defnyddio’r ffordd ar gyfer adeiladu mynediad i’r ganolfan newydd ac ar gyfer rhan o’r gwaith o adeiladu’r ganolfan ei hun. O ganlyniad, gallwn leihau costau a dwyn y dyddiad agor yn ei flaen.
Dywedodd Dr Jaz Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: “Mae nifer y bobl sy’n cael eu diagnosio gyda chanser yn cynyddu. Mae gan Gymru rai o’r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd gorllewinol.
“Does gan Ganolfan Ganser Felindre, sy’n 60 oed, ddim y cyfleusterau na’r gofod i gwrdd â’r her hon yn y dyfodol.
“Felly, mae gennym ganiatâd cynllunio i adeiladu canolfan ganser newydd yn ei lle ar hen dir ysbyty gerllaw. Bydd y ganolfan newydd yn trin mwy o gleifion, ac yn helpu mwy o bobl i fyw’n hirach gyda chanser.
“Bydd yn cefnogi ymchwil a datblygu rhyngwladol hefyd, gyda’r nod o wneud Cymru yn arweinydd byd ym maes trin canser.”
Meddai’r Cyfarwyddwr Prosiect, David Powell, “Rydyn ni nawr yn cynllunio sut rydyn ni’n adeiladu’r Ganolfan Ganser Felindre newydd. Mae ffyrdd mynediad i’r safle newydd yn allweddol i hyn, ac rydym wedi ymgynghori gyda phobl leol cyn cyflwyno’r ceisiadau cynllunio.
Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn cyhoeddi’r cynlluniau ar gyfer y ddau gais ar ei gwefan ar ôl iddynt gael eu dilysu. Yna, bydd y Cyngor yn ymgynghori arnynt.
Mae Felindre wedi gwneud newidiadau i’r cynlluniau ar ôl ymgynghori â thrigolion lleol a grwpiau cymunedol ym mis Mawrth. Y prif newidiadau ydy ychwanegu’r canlynol:
Yn ogystal â’r newidiadau hyn, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r Cyngor i ymchwilio a oes angen croesfannau sebra ychwanegol neu fesurau diogelwch ffyrdd eraill ar Heol y Parc.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymateb i bryderon hefyd am arwyneb y ffordd bresennol i’r gogledd o safle Ysbyty’r Eglwys Newydd, ac mae’n addo gwneud gwelliannau os na fydd yn gallu ymdopi gyda thraffig adeiladu ychwanegol.
Er mwyn lleihau aflonyddwch i chwaraewyr sy’n defnyddio’r lawnt bowlio ar safle Ysbyty’r Eglwys Newydd, mae Felindre wedi cynnig gweithio gyda’r Clwb Bowls i ddarparu sgriniau diogelwch.
I helpu pobl sy’n cerdded o ganolfan dai Hafod yn Ysbyty’r Eglwys Newydd, byddwn yn adolygu’r rhwystrau sy’n cael eu hachosi gan y palmant, ac yn trwsio’r problemau draenio ar y gyffordd â Heol y Parc.
Meddai David Powell: “Rydym wedi gwrando’n ofalus ar y sylwadau a’r safbwyntiau niferus a fynegwyd yn ystod y cyfnod hysbysu cyhoeddus cyn-cynllunio, ac rydym wedi gwella ein cynigion o ganlyniad.
“Rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn dal i bryderu am y caniatâd cynllunio sydd gennym yn barod ar gyfer y datblygiad cyfan. Rydym eisiau gweithio gyda phobl, beth bynnag fo’u barn, i geisio lleihau ei effaith a gwella’r safle mewn ffordd mor sensitif ag y gallwn. ”
Mae’r ganolfan newydd, sydd yn gwasanaethu De Ddwyrain Cymru i gyd, i fod i agor yn 2024. Bydd y ganolfan yn gallu derbyn 8,500 o gleifion newydd a 160,000 o apwyntiadau cleifion y flwyddyn – sy’n gynnydd o 2000 a 20,000 o’i gymharu â’r lefelau presennol.
Yn nhymor y gwanwyn 2018, rhoddodd Cyngor Dinas Caerdydd ganiatâd cynllunio ar gyfer y ganolfan newydd, gyda phrif fynediad o safle Asda, mynediad brys o Heol Hollybush, a mynediad adeiladu dros dro drwy hen safle Ysbyty’r Eglwys Newydd a Chae’r Arglwyddes Cory.