Neidio i'r prif gynnwy

A new way to get involved with the nVCC project

Dydy'r cynnwys hwn ddim ar gael yn Gymraeg yn anffodus. Gweler y fersiwn Saesneg.

Mae ein contractwr i adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre wedi lansio cynllun cyffrous i drigolion gymryd mwy o ran mewn cefnogi a chynghori ar y prosiect.

Bydd cynllun ‘Ambassador Alliance’ Acorn yn cynnwys sawl agwedd wahanol, gan gynnwys helpu i gyfrannu cyngor ar gynlluniau buddion arfaethedig / sydd ar ddod i’r gymuned, rhannu newyddion gyda thrigolion lleol, a mynychu digwyddiadau cymunedol i helpu i godi ymwybyddiaeth o werthoedd cymdeithasol ein prosiect.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb wneud cais drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein yma: https://newvelindre.info/opportunities

Mae ffurflenni ar ffurf copi caled ar gael yn Hyb yr Eglwys Newydd, Hyb Grangetown, Star Hub a Hyb Pafiliwn Butetown.

Mae hon yn fenter ar wahân i Leisiau Felindre, fforwm sydd wedi’i hen sefydlu dan arweiniad Felindre fel ffordd i gleifion, gofalwyr a’r gymuned gadw mewn cysylltiad â’r Ymddiriedolaeth a dylanwadu ar ei gwaith. Mae cynllun Acorn yn gynllun penodol i roi cyngor ar brosiect newydd Canolfan Ganser Felindre yn ystod y cyfnod adeiladu a thu hwnt.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch!