Neidio i'r prif gynnwy

Trigolion lleol yn mynychu noson agored

Ym mis Mawrth 2016, cynhaliom ein noson agored gyntaf yn Felindre, wedi’i hanelu’n bennaf at gymdogion lleol yn ardaloedd yr Eglwys Newydd, Llandaf a Rhiwbeina.

Roedd oddeutu 20 o drigolion yn bresennol. Dywedodd Carl James, Cyfarwyddwr y Rhaglen, “ Fel y gallech ei ddisgwyl, roedd gan bobl ddiddordeb mewn gwybod a fyddai’r ganolfan newydd yn lleddfu ychydig ar y problemau parcio a thraffig rydym yn eu dioddef ar hyn o bryd. Bu modd i ni rannu ein gobeithion y bydd mynediad at ein safle newydd trwy ffordd newydd trwy safle presennol ysbyty’r Eglwys Newydd, a ddylai helpu.”