Cafodd Paul Hunter, 26 oed, driniaeth gyda ni ar gyfer canser y ceilliau, a dywedodd: “Rwy’n hapus i helpu mewn unrhyw ffordd. Roedd yn agoriad llygad gweithio gydag amrywiaeth o bobl â phrofiadau canser gwahanol.
Cafodd Rhian Jenkins driniaeth ar gyfer canser yr ofarïau gyda ni. “Mae nifer o gleifion canser iau yn awyddus iawn i ddylanwadu ar sut caiff gwasanaethau eu darparu yn y dyfodol. Mae pethau fel mwy o hyblygrwydd o ran apwyntiadau yn bwysig iawn pan rydych yn gweithio.”
Mae Rhian Jenkins yn gweithio gydag aelod o’r grŵp cysylltu â chleifion, Edward Tapper.
Bydd Dr Phil Webb, Cyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio a Pherfformiad yr Ymddiriedolaeth, yn llunio’r strategaeth ac mae wedi bod yn cynnal y grwpiau.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda staff a’r grŵp cysylltu â chleifion yn Felindre ar y strategaeth newydd. Mae cael grwpiau ffocws yn darparu haen hyd yn oed yn ddyfnach o safbwyntiau.”