Cyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 17 Mawrth) y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £1.5m i helpu i ddatblygu canolfan newydd i ddarparu gofal a chymorth i gleifion canser a’u teuluoedd yn ne-ddwyrain Cymru.
Bydd Canolfan newydd Maggie’s yn cael ei hadeiladu wrth ochr safle Canolfan Ganser arfaethedig Felindre yng Nghaerdydd, a bydd yn darparu cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol rhad ac am ddim i bobl â chanser, eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae Canolfannau Maggie’s yn annibynnol ond yn gweithio mewn partneriaeth â’r GIG ac wedi’u lleoli ar dir ysbytai fel eu bod nhw’n hygyrch yn hawdd i’r nifer fwyaf posibl o bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser.
Amcangyfrifir y bydd Canolfan newydd Maggie’s yn costio £4.5m – bydd balans y cyllid yn cael ei godi trwy roddion; mae Maggie’s eisoes wedi llwyddo i gynhyrchu £1.5m hyd yn hyn.