Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerdydd wedi cymeradwyo cais cynllunio amlinellol Ymddiriedolaeth GIG Velindre ar gyfer Canolfan Ganser Velindre newydd.
Yn gynharach y prynhawn yma (dydd Mercher, Rhagfyr 13eg) cyfarfu Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerdydd i ystyried cais cynllunio amlinellol Ymddiriedolaeth GIG Velindre i adeiladu Canolfan Ganser newydd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Velindre: “Mae cymeradwyo ein cais cynllunio amlinellol yn garreg filltir arwyddocaol i’r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu ledled De Ddwyrain Cymru.
“Er ei fod wedi gwasanaethu’n dda i ni a’n cleifion am fwy na 60 mlynedd; nid yw ein Canolfan Ganser bresennol bellach yn addas at y diben. Mae angen triniaeth canser a'n gofal ar fwy a mwy o bobl ledled De Ddwyrain Cymru. Oherwydd y cynnydd parhaus hwnnw yn y galw ar ein gwasanaethau, rhaid inni wneud pethau'n wahanol.
“Wrth i ni symud i mewn i'r cam nesaf hwn, rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n cleifion a'n cymuned leol i sicrhau y gall Canolfan Ganser Velindre newydd a'i lleoliad fod o fudd i bawb.”